Band Cymraeg o Gymru yw Uumar. Ffurfiwyd y band yng Nghaerdydd gan Siôn Owens (basydd Y Bandana), Tomos Williams (sy'n perfformio'n unigol fel Tom ap Dan) a Rhys Morgan (aelod o Breichiau Hir) pan oedd y tri yn fyfyrwyr yno. Ymunodd Llyr Rhisiart ar y drymiau wedi i'r band gael nifer o ddrymwyr dros dro.

Uumar yn Chwefror 2015

Maent yn enwog am berfformiadau egniol ac hwyliog. Maent wedi perfformio mewn nifer o wyliau megis Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Nôl a Mlan a Crug Mawr.

Disgyddiaeth

golygu
  • "Neb" - EP, (Rasp, 2014)
  • "Briw" - EP (Recordiau JigCal, 2016)
  • "Peth am Farw" - Sengl Digidol (Recordiau JigCal, 2017)