Band roc ifanc o ardal Caernarfon oedd Y Bandana. Aelodau'r band oedd Tomos Owens (allweddellau), Siôn Owens (gitâr fâs), Gwilym Bowen Rhys (gitâr a phrif lais), Robin Jones (drymiau).

Y Bandana
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Label recordioCwmni Recordiau Sain Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2007 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2007 Edit this on Wikidata
Genreroc amgen Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGwilym Bowen Rhys Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Ffurfiwyd y band ym mis Medi 2007 ar ôl i'r ddau frawd, Siôn a Tomos, ofyn i'w cefnder, Gwilym, i ymuno â nhw wrth jamio yn eu hystafell wely a phenderfynu ar enw i fand -Y BANDANA (y band da 'na). Rhoddodd y band ei enw lawr i gystadleuaeth brwydr y bandiau yn Galeri, Caernarfon. Cyn y gystadleuaeth, cafodd y band gynnig gig mewn gŵyl yn Neuadd Hendre, Tal-y-bont, ger Bangor. O fewn pythefnos i'r band ffurfio, yr oeddent yn chwarae eu gig gyntaf. Ymunodd Robin ar ôl iddo gael ei wahodd gan y band ar ôl iddynt gystadlu ym mrwydr y bandiau yn Galeri.

Bu'r band yn brysur iawn am naw mlynedd gan berfformio'n fyw yn gyson. Mi drefnon nhw nifer o deithiau ar ei liwt eu hunain gan wahodd bandiau ifanc eraill i ymuno â nhw. Wnaethon nhw berfformio ar lwyfan Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol am naw mlynedd yn olynnol 2008-2016.

Cyn Eisteddfod Y Fenni 2016 cyhoeddodd y band eu bod am rhoi'r gorau iddi a chwaraeodd y band eu gigs olaf yn Hydref 2016.[1]

Cynhaliwyd y gig olaf yn Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon ar Hydref 14. Roedd y tocynnau i gyd wedi eu gwerthu wythnosau o flaen llaw.[2]

Gwobrau golygu

Ennill brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Caerdydd 2008.[3] Daeth y band yn ail ym mrwydr y bandiau Maes B yn yr un Eisteddfod sef Caerdydd 2008.

"Band newydd gorau" yng ngwobrau cylchgrawn Y Selar 2009. Cafodd y band ei enwebu am y "Sesiwn C2 orau" yng ngwobrau RAP C2 2009 a band byw gorau RAP C2 2010.

Gwobrau "Band Gorau" a "Cân Orau" cylchgrawn Y Selar am dair blynedd yn olynol 2010, 2011 a 2012; Gwobr Record Fer Orau 2012 am Heno yn yr Anglesey/Geiban a'u henwebu am dair gwobr yn 2013.[4]

Gwobrau'r Selar 2015 - cafodd Gwilym Rhys y wobr am yr Offerynnwr Gorau

Yng Ngwobrau'r Selar 2016 enillodd Y Bandana bedair gwobr - Y Band Gorau; Y Record Hir Orau - Fel Tôn Gron; Y Gân Orau - Cyn i'r lle ma gau; Y Gwaith Celf Gorau - Fel Tôn Gron.[5]

Roedd gan Y Bandana dair cân yn siart 40 MAWR Radio Cymru 2014 - sef siart o hoff ganeuon y gwrandawyr yn dilyn pleidlais yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Yn 2016 roedd gan y band bum cân yn siart 40 MAWR - Heno yn yr Anglesey; Cyn i'r lle ma gau; Geiban; Cân y Tân a Dant y LLew.[6]

Disgyddiaeth golygu

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Dyddiad ryddhau
"Dal Dy Drwyn / Cân y Tân" Sengl, CD Copa COPA LL011 Awst 2010
Y Bandana Albwm, CD Copa COPA CD013 31 Ionawr 2011
Bywyd Gwyn Albwm, CD Copa COPA CD018 Haf 2013
"Mari Sal / Tafod y Tonnau" Sengl CD Sengl ar label Sbrigyn Ymborth Tachwedd 2014
Fel Tôn Gron Albwm Copa Mawrth 2016

Cyfeiriadau golygu

  1.  Ffarwelio â’r Bandana. Y Selar (30 Medi 2016). Adalwyd ar 18 Hydref 2016.
  2. Daily Post
  3. "Taith Tafod 2008" Archifwyd 2009-05-22 yn y Peiriant Wayback., Cymdeithas yr Iaith.
  4. Y Bandana yn cipio tair o wobrau’r Selar Golwg360.com, 4 Mawrth 2014
  5. y-selar.co.uk
  6. Yma o Hyd yw dewis y bobl Gwefan Cymry Fyw y BBC, 25 Awst 2014