Uwch Gynrychiolydd dros y Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin
Prif gydlynydd Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd yw'r Uwch Gynrychiolydd dros y Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin.
Cyflwynwyd y swydd gan Gytundeb Amsterdam. Ynghyd â Gweinidog Tramor cenedlaethol y wlad sy'n dal Llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Uwch Gynrychiolydd yn cynrychioli cyngor gweinidogion tramor yr Undeb. O dan Gytundeb Lisbon, cyfunir y swydd â swydd y Comisiynydd Ewropeaidd dros Faterion Tramor dan deitl newydd, sef Uwch Gynrychiolydd yr Undeb dros Faterion Tramor a Pholisi Diogelwch.