Comisiwn Ewropeaidd
Adran weithredol yr Undeb Ewropeaidd yw'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae José Manuel Durão Barroso yn Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ers 2004. Mae'r Comisiwn yn awgrymu a gweithredu deddfwriaeth ac mae'n hollol annibynnol. Mae wedi ei leoli ym Mrwsel.
Cyfrifoldebau'r ComisiwnGolygu
- Mae'r Comisiwn yn awgrymu cyfreithiau newydd a yrrir i'r Senedd Ewropeaidd a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd.
- Am ei fod yn adran weithredol mae'r Comisiwn yn arolygu gweithredu cyfraith Ewropeaidd, y gyllideb a'r rhaglenni y mae'r Senedd a'r Cyngor wedi cytuno arnynt.
- Mae'n gyfrifol am y cytundebau ac mae'n cydweithio gyda Llys Cyfiawnder Ewrop wrth archwilio i sicrhau bod pawb yn cadw cyfraith yr UE.
- Mae'n cynrhychioli'r UE ar lefel rhyngwladol ac mae'n gwneud cytundebau gyda gwledydd eraill y tu allan i'r Undeb, yn bennaf ar gyfer masnach a chydweithrediad rhyngwladol.
Apwyntiadau a strwythurGolygu
Ar hyn o bryd mae 27 o gomisiynwyr, un o bob aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae portffolio polisi gan bob comisiynydd ac maent i gyd yn atebol i'r Senedd yn unig.
Mae Cyngor yr Undeb Ewropeaidd yn dewis Llywydd y Comisiwn ac mae'n rhaid i Senedd Ewrop ei gymeradwyo. Mae'r aelod-wladwriaethau yn enwebu'r comisiynwyr eraill ac wedyn mae'n rhaid fod y Senedd yn cymeradwyo'r Comisiwn.
Gall y Senedd orfodi ymddiswyddiad y Comisiwn cyfan trwy bleidlais o ddiffyg hyder.
Y Comisiynwyr presennol yw: