Valerie Solanas

actores

Roedd Valerie Jean Solanas (9 Ebrill 193625 Ebrill 1988) yn ffeminist radicalaidd Americaniad. Yn enwog am ysgrifennu'r SCUM Manifesto (S.C.U.M. yn sefyll dros Society for Cutting Up Men) ac am geisio lladd yr artist enwog Andy Warhol yn y 1960au.[1]

Valerie Solanas
GanwydValerie Jane Solanas Edit this on Wikidata
9 Ebrill 1936 Edit this on Wikidata
Ventnor City, New Jersey Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1988 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
San Francisco Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Minnesota
  • Prifysgol Maryland, College Park Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd, actor ffilm, cyfarwyddwr, ymgyrchydd dros hawliau merched Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSCUM Manifesto, Performing Scum, SCUM manifesto [Images animées] Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd golygu

Ganwyd yn New Jersey, cafodd berthynas cythryblus gyda'i mam a llystad yn dilyn ysgariad ei rhieni. Fel canlyniad aeth i fyw gyda'i nain a thaid ond gafodd ei cham-drin gan ei thaid a oedd yn alcoholig. Rhedodd Solanas i ffwrdd gan fyw'n ddigartref am gyfnod.[2]

Daeth hi allan fel lesbian yn y 1950au. Graddiodd mewn seicoleg o Brifysgol Maryland a symudodd i Berkeley, Califfornia. Yno dechreuodd ysgrifennu ei gwaith mwyaf adnabyddus The SCUM Manifesto, a oedd yn annog merched i chwalu'r llywodraeth, gwrthdroi'r system ariannol, mabwysiadu awtomeiddio llwyr a chael gwared a dynion.[3]

Symudodd i Efrog Newydd yng nghanol y 1960au. Llwyddodd gyfarfod Andy Warhol a gofynnodd iddo gynhyrchu ei drama Up Your Ass. Rhoddodd sgript i Warhol, ond nid oedd ganddo fawr o ddiddordeb yn y ddrama. Yn ddiweddarach cwynodd Solanas fod Warhol wedi dwyn neu golli'r sgript a mynnodd iawndal.

Perfformiodd hi yn ffilm Warhol I, a Man a derbyniodd dâl o $25. Yn 1967 dechreuodd Solanas gyhoeddi'r Scum Manifesto ar ei liwt ei hun. Cynigodd Maurice Girodias perchennog yr Olympia Press gyhoeddi ei gwaith yn y dyfodol. Roedd Girodias wedi herio'r system sensoriaeth y cyfnod ar sawl achlysur ac wedi cyhoeddi awduron fel Samuel Beckett, Jean Genet a Henry Miller ac awduron oedd yn cael eu hystyried yn anweddus ar y pryd fel William S. Burroughs.

Maniffesto SCUM golygu

Yn 1967, cyhoeddodd Solanas y SCUM Manifesto (y llythrennau SCUM yn sefyll dros Society for Cutting Up Men). Mae'r maniffesto yn feirniadaeth ddamniol o ddiwylliant patriarchaidd gan ddadlau fod dynion wedi difetha'r holl fyd.

Mae Solanas yn cyflwyno'r theori bod dynion ond yn ferched anghyflawn oherwydd diffyg Cromosom-Y. Yn ôl y maniffesto mae'r diffyg genetig yma'n achosi dynion i fod ag emosiynau cyfyngedig, trachwantus a heb empathi ag eraill heblaw am ei synhwyrau corfforol ei hunain.[1]

Mae rhai wedi dadlau bod y maniffesto'n barodi, pryfociad, hiwmor neu ddychanol. Ond mynnodd Solanas fod y gwaith yn gwbl ddifrifol.

Mae'r maniffesto wedi'i ail-gyhoeddi dros ddeg o weithiau, cyfieithu i dros ddwsin o ieithoedd ac wedi'i ddyfynnu’n helaeth.[4]

Saethu Andy Warhol golygu

Meddyliodd Solanas fod Warhol a Giodias yn cynllwyno yn ei herbyn a phrynodd gwn yn wanwyn 1968.[5]

Ar 3 Mehefin, 1968 aeth i stiwdio Warhol The Factory. Saethodd Warhol gan ei anafu'n ddifrifol ond ildiodd ei hun i'r heddlu yn syth wedyn. Cafodd hi ddiagnosis o baranoia sgitsoffreneg a phlediodd yn euog o ymosod gyda'r bwriad o achosi niwed. Treuliodd dair blynedd yn y carchar ble cafodd driniaeth am ei phroblemau meddyliol.

Yn dilyn ei rhyddhau, daliodd i hyrwyddo'r SCUM Manifesto.

Bu farw Valerie Solanas o niwmonia yn San Francisco ym 1988.[5][5]

Ffilm I shot Andy Warhol golygu

Ym 1996, chwaraeodd Lili Taylor y rhan o Solanas yn y ffilm I Shot Andy Warhol am ei hanes yn ceisio lladd Warhol.[6] Gofynnodd gyfarwyddwr y ffilm, Mary Harron, am ganiatâd i ddefnyddio caneuon gan y The Velvet Underground, ond gwrthododd Lou Reed, a oedd yn poeni am y ffilm yn clodfori Solanas a oedd Reed yn ystyried ar fai am farwolaeth gynnar Warhol oherwydd problemau iechyd a achoswyd gan y saethu.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Valerie Solanas (1967), SCUM Manifesto (hunan-gyhoeddedig)
  2. Dana Heller (2001), "Shooting Solanas: radical feminist history and the technology of failure", Feminist Studies 27 (1): doi:10.2307/3178456. JSTOR 3178456.
  3. Alexandra DeMonte (2010), "Feminism: second-wave", yn Roger Chapman, Culture Wars: An Encyclopedia of Issues, Viewpoints, and Voices (Armonk, NY: M. E. Sharpe). ISBN 978-1-84972-713-6.
  4. James Martin Harding (2010), Cutting Performances: Collage Events, Feminist Artists, and the American Avant-Garde (Ann Arbor, MI: University of Michigan Press). ISBN 978-0-472-11718-5.
  5. 5.0 5.1 5.2 Hewitt, Nancy A. (2004). "Solanas, Valerie", yn Notable American Women: A Biographical Dictionary Completing the Twentieth Century, gol. Susan Ware a Stacy Lorraine Braukman (Cambridge, MA: Harvard University Press). ISBN 0-674-01488-X.
  6. http://www.imdb.com/title/tt0116594/
  7. Michael Schaub (2003), "The 'Idiot Madness' of Valerie Solanis", Bookslut; adalwyd 27 Tachwedd 2011.