Vauxhall Cross
Pencadlys Gwasanaethau Cudd Prydain (British Secret Intelligence Service, neu MI6), yw Vauxhall Cross.[1] Saif ar lannau deheuol Afon Tafwys ym Mwrdeistref Llundain Lambeth, ac agorwyd yng Ngorffennaf 1994. Adeiladwyd gan Terry Farrell, a dylanwadwyd arno gan adeiladau fel Gorsaf Bŵer Battersea a themlau’r Maya a’r Asteciaid. Oherwydd bod cynifer o haenau gwahanol i’r adeilad, mae ganddo 60 to! Mae yna 25 gwahanol fath o wydr ar yr adeilad, a gwydriad triphlyg yn y ffenestri, am resymau diogelwch. Mae 5 o’r lloriau islaw lefel y dŵr, ac mae’r adeilad hefyd wedi ei amddiffyn gan ddwy ffos llawn dŵr. Gwelir Vauxhall Cross yn nifer o ffilmiau diweddar James Bond. Dangoswyd The World Is Not Enough i staff MI6 yn yr adeilad, a chymeradwyon nhw pan gafodd eu pencadlys ei ffrwydro yn y ffilm.
Math | adeilad gweinyddiaeth gyhoeddus |
---|---|
Enwyd ar ôl | MI6 |
Ardal weinyddol | Vauxhall |
Agoriad swyddogol | 1994 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Cyfesurynnau | 51.4872°N 0.1242°W |
Cod post | SE1 7TP |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth ôl-fodern |
Perchnogaeth | Llywodraeth y Deyrnas Unedig |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ National Audit Office; adalwyd 10 Ionawr 2015