Mae Veep yn gyfres gomedi-wleidyddol, Americanaidd, sy'n serennu Julia Louis-Dreyfus a ymddangosodd gyntaf ar HBO ar 22 Ebrill 2012. Crewyd y gyfres gan Armando Iannucci fel addasiad o'r comedi sefyllfa Brydeinig The Thick of It.[1]

Veep
Teitl cyfres 1–5
GenreDychan gwleidyddol, Comedi
Crëwyd ganArmando Iannucci
Yn serennuJulia Louis-Dreyfus
Anna Chlumsky
Tony Hale
Reid Scott
Timothy Simons
Matt Walsh
Sufe Bradshaw
Kevin Dunn
Cyfansoddwr/wyrRupert Gregson-Williams
Christopher Willis
GwladUnol Daleithiau America
Iaith wreiddiolSaesneg
Nifer o dymhorau7
Nifer o benodau65
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd/wyr gweithredolArmando Iannucci
Christopher Godsick
Frank Rich
Chris Addison
Simon Blackwell
Tony Roche
Julia Louis-Dreyfus
Stephanie Laing
David Mandel
Lleoliad(au)Baltimore, Maryland (tymor 1–4)
Los Angeles, California (tymor 5–presennol)
Gosodiad cameraDull 1-camera
Hyd y rhaglen26–30 munud
Cwmni cynhyrchuHBO Entertainment
Dundee Productions (2012–15)
DosbarthwrWarner Bros. Television Distribution
HBO Enterprises
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolHBO
Fformat y llun1080i (HDTV)
Darlledwyd yn wreiddiolEbrill 22, 2012 (2012-04-22) – presennol
Cronoleg
Sioeau cysylltiolThe Thick of It
In the Loop
Dolennau allanol
Gwefan

Lleolir y gyfres yn swyddfa Selina Meyer, Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau ffuglennol, a ddaw yn ddiweddarach yn Arlywydd. Mae'r gyfres yn dilyn Meyer a'i thîm yn ei hymdrech i wneud ei marc ar wleidyddiaeth (ddychmygol) UDA, heb gael ei baglu gan gyd-wleidyddion cyfrwys a dichellgar.[2]

Derbyniodd Veep ganmoliaeth gan y beirniaid ffilm, ac enillodd sawl gwobr o bwys. Fe'i henwebwyd chwe blynedd o'r bron am Wobr Emmy Primetime am y 'Gyfres Eithriadol o Dda' ac enillodd bedair gwaith (hyd at 2017). Mae hefyd wedi ennill nifer o wobrau Writers Guild of America Award for Television, ac enillodd perfformiad Louis-Dreyfus fel Selina Meyer bum Gwobr Primetime Emmy am yr actores eithriadol o dda a dwy wobr Screen Actors Guild Awards, dwy Wobr Critics' Choice Television Awards, a Gwobr y TCA - Television Critics Association Award, a 5 enwebiad am Wobr y Golden Globe. Enwebwyd Tony Hale 5 gwaith yn olynol am Wobr Emmy (yn chwarae Gary Walsh) gan ennill yn 2013 a 2015.

Cychwynnodd y 6ed gyfres ar 16 Ebrill 2017,[3] a chafwyd addewid o 7fed gyfres yn 2018.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Andreeva, Nellie (January 13, 2012). "UPDATE: Premiere Dates For HBO's 'Girls,' 'Game Of Thrones', 'Veep' & 'Game Change'". Deadline.com. Cyrchwyd 24 Ebrill 2012.
  2. "About Veep". HBO. Cyrchwyd 5 Mai 2016.
  3. Roots, Kimberly (7 Ebrill 2017). "Veep to Return to HBO in April". TVLine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-08. Cyrchwyd 7 Ebrill 2017.
  4. Petski, Denise (25 Mai 2017). "'Veep' & 'Silicon Valley' Renewed By HBO". Deadline. Cyrchwyd 25 Mai 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato