Dinas a phorthladd yn ne-ddwyrain Mecsico yw Veracruz, enw llawn Cuatro Veces Heroica Ciudad y Puerto de Veracruz. Hi yw porthladd mwyaf Mecsico a dinas fwyaf talaith Veracruz, ond nid hi yw prifddinas y dalaith. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 573,854.

Veracruz
Mathdinas, dinas â phorthladd, dinas fawr, ardal poblog Mecsico Edit this on Wikidata
VeracruzPronunciation.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth428,323 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1519 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirVeracruz municipality Edit this on Wikidata
GwladBaner Mecsico Mecsico
Arwynebedd78.815 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr10 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau19.1903°N 96.1533°W Edit this on Wikidata
Cod post91690–91969 Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganHernando Cortés Edit this on Wikidata

Saif y ddinas ar arfordir Gwlff Mecsico. Fe'i sefydlwyd yn 1519 gan Hernán Cortés, y sefydliad Ewropeaidd cyntaf ar dir mawr cyfandir America. Rhoddodd Cortés yr enw La Villa Rica de la Vera Cruz ("Tref gyfoethog y Wir Groes") arni. Daeth yn borthladd pwysicaf Sbaen Newydd.

Oherwydd pwysigrwydd strategol y porthladd, bu llawer o ymladd yma. Gyrrwyd y Sbaenwyr o'r ddinas yn 1815. Yn 1838, meddiannwyd y ddinasgan lynges Ffrainc, ac yn 1847 gan yr Unol Daleithiau. Yn 1861 fe'i meddiannwyd gan y Ffrancwyr, Sbaenwyr a Phrydeinwyr, ac yn 1914 gan yr Unol Daleithiau eto.