Rhan o Ymerodraeth Sbaen oedd Is-deyrnas Sbaen Newydd (Sbaeneg: Nueva España). Sefydlwyd yr is-deyrnas (Virreinato) yn 1530, ychydig flynyddoedd wedi i Hernán Cortés gipio dinas Tenochtitlan. Parhaodd nes i Mecsico ennill annibyniaeth yn 1821; cydnabuwyd Mecsico fel gwlad annibynnol gan Sbaen yn 1836).

Baner Sbaen Newydd

Prifddinas yr is-deyrnas oedd Dinas Mecsico. Rheolid Sbaen Newydd gan Is-frenin, a benodiid gan frenin Sbaen. Roedd yn ymestyn o Costa Rica hyd at ffin ogleddol tiriogaethau Sbaen yng Ngogledd America, oedd yn ymestyn i ran o'r hyn sy'n awr yn ffurfio'r Unol Daleithiau. Roedd y Ffilipinau a'r tiriogaethau Sbaenaidd yn y Caribî hefyd yn rhan o Sbaen Newydd, er fod ganddynt fesur helaeth o ymreolaeth.