Agor y brif ddewislen

Roedd Vercingetorix (bu farw 46 CC) yn bennaeth Galaidd o lwyth yr Arverni a ddaeth yn arweinydd y Galiaid yn eu gwrthwynebiad i'r Ymerodraeth Rufeinig.

Vercingetorix
Statue-vercingetorix-jaude-clermont.jpg
Ganwyd 0080 CC Edit this on Wikidata
Gâl Edit this on Wikidata
Bu farw 0046 CC Edit this on Wikidata (Gweithredydd < annisgwyl oed)
Achos: crogi, mygu Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Arverni Edit this on Wikidata
Galwedigaeth tribal chief, person milwrol Edit this on Wikidata
Tad Celtill Edit this on Wikidata
Cofgolofn Vercingetorix yn Alesia (Alise-Sainte-Rein)
Vercingetorix ar arian Rhufeini; 48 CC

Dechreuodd Iŵl Cesar ar ei ymgyrchoedd i goncro Gâl pan benodwyd ef yn llywodraethwr talaith Gallia Narbonensis yn 58 CC. Erbyn dechrau 52 CC roedd wedi concro rhan helaeth o'r wlad, ond roedd nifer o lwythau yn cynllunio gwrthryfel. Llwyth y Carnutes dan Cotuatus a Conetodunus a ymosododd ar y Rhufeiniaid gyntaf.

Ni wyddir llawer am hanes cynnar Vercingetorix ei hun. Roedd o deulu uchelwrol yn Gergovia, ac roedd ei dad, Celtillus, wedi cael ei ddienyddio am geisio cipio grym iddo'i hun. Pan ddechreuodd y gwrthryfel, cododd Vercingetorix fyddin o'i ddilynwyr i ymuno yn yr ymladd, ond gwrthododd prif arweinwyr y ddinas, yn cynnwys ei ewythr Gobanitio, ymuno, ac alltudiwyd Vercingetorix o'r ddinas. Gyda chymorth y bobl gyffredin, llwyddodd Vercingetorix i gipio Gergovia a chyhoeddwyd ef yn frenin.

Apwyntiwyd Vercingetorix yn arweinydd y gwrthryfel Galaidd, a llwyddodd i orchfygu Cesar a Titus Labienus mewn nifer o frwydrau bach. Llwyddodd y Rhufeiniaid i gipio prifddinas y llwyth, Avaricum (Bourges heddiw). Enillodd Vercingetorix fuddugoliaeth ym mrwydr Gergovia, ond pan ymosododd ar y Rhufeiniaid dan gredu eu bod yn encilio, dioddefodd y Galiaid golledion sylweddol.

Enciliodd Vercingetorix i Alesia, a gosododd Cesar warchae arno. Adeiladodd y Rhufeiniaid fur o amgylch y ddinas, gyda mur allanol i atal unrhyw ymgais gan y Galiaid tu allan i Alesia i godi'r gwarchae. Ceisiodd byddin fawr o nifer o lwythau godi'r gwarchae, ond gorchfygwyd hwy gan Cesar, a bu raid i Vercingetorix ildio. Cadwyd ef yn garcharor yn Rhufain am bum mlynedd cyn ei ddienyddio.

Ystyrir ef yn un o arwyr cededlaethol Ffrainc, ac yn 1865 cododd yr ymerawdwr Napoleon III gofgolofn iddo ar safle Alesia.

LlyfryddiaethGolygu