Gallia Narbonensis

Talaith Rufeinig yn ne Gâl oedd Gallia Narbonensis, yn yr ardal lle mae Languedoc a Profens heddiw, yn ne Ffrainc.

Gallia Narbonensis
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlNarbo Martius Edit this on Wikidata
PrifddinasNarbo Martius Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
GwladRhufain hynafol Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHispania Tarraconensis, Gallia Aquitania, Gallia Lugdunensis Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44°N 4°E Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegoly cynfyd clasurol Edit this on Wikidata
Map
canol Lleoliad Gallia Narbonensis yn yr Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC

Daeth yn dalaith Rufeinig yn 121 CC, yn wreiddiol o dan yr enw Gallia Transalpina ('Gâl dros yr Alpau') er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth Gallia Cisalpina ('Gâl is yr Alpau'). Ailenwyd Gallia Transalpina yn Gallia Narbonesis yn ddiweddarach ar ôl ei phrifddinas Narbo Martius (Narbonne), a oedd wedi cael ei sefydlu ar lan y Môr Canoldir yn 118 CC.

Ganwyd yr hanesydd Rhufeinig Tacitus, mab-yng-nghyfraith Agricola, yn y dalaith tua'r flwyddyn 55 O.C.

Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato