Verdun, Ffrainc
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc yw Verdun, prif ddinas ardal Meuse, yn rhanbarth hanesyddol Lorraine. Ei henw yn nghyfnod y Rhufeiniaid oedd Verodunum.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 16,689 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement yn Verdun, canton of Verdun-Centre, canton of Verdun-Est, canton of Verdun-Ouest, Meuse, County of Verdun, Prince-Bishopric of Verdun |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 31.03 km² |
Uwch y môr | 262 metr, 194 metr, 330 metr |
Gerllaw | Afon Meuse |
Yn ffinio gyda | Belleville-sur-Meuse, Belleray, Belrupt-en-Verdunois, Eix, Fleury-devant-Douaumont, Fromeréville-les-Vallons, Haudainville, Landrecourt-Lempire, Moulainville, Nixéville-Blercourt, Sivry-la-Perche, Thierville-sur-Meuse |
Cyfesurynnau | 49.1597°N 5.3828°E |
Cod post | 55100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Verdun |
- Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Verdun.
Gorwedd y ddinas ar lannau Afon Meuse. Mae ganddi furiau trwchus o'i chwmpas. Mae ganddi eglwys gadeiriol ganoloesol (11g - 13g). Ceir porthladd ar y gamlas sy'n rhedeg trwy'r ddinas.
Sefydlwyd esgobaeth yn Verdun yn y 3g. Cafodd y ddinas ei difrodi gan y Ffrancod yn y 5g ond fe'i hailadeiladwyd yn ddiweddarach yn y ganrif honno. Yn 843 arwyddwyd cytundeb yno rhwng tri mab Louis Dduwiol, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, i rannu'r ymerodraeth. Yn 1552 cafodd Verdun ei hymgorffori yn nheyrnas Ffrainc gan Harri II. Ildiodd y ddinas i'r Almaenwyr yn 1789 yn y rhyfel rhwng Ffrainc a'r Almaen yn sgîl y Chwyldro Ffrengig ac eto yn 1870. Gwelodd Verdun ymladd ofnadwy yn y Rhyfel Byd Cyntaf a dinistriwyd y rhan fwyaf o'r ddinas yn y brwydro ffyrnig yn 1916 rhwng y Ffrancod, dan arweiniad Marsial Pétain, a'r Almaenwyr,un o frwydrau gwaethaf y Rhyfel Mawr.
Gweler hefyd
golygu- Brwydr Verdun (1916)
- Cytundeb Verdun