Mae Neuadd Dinas Sarajevo, a elwir yn Vijećnica, yn ninas Sarajevo yn Bosnia Herzegovina. Fe'i cynlluniwyd ym 1891 gan y pensaer Tsiec Karel Pařík, ond rhoddodd y gorau i weithio ar y prosiect wedi iddo dderbyn beirniadaeth gan y gweinidog, Y Barwn Benjamin Kallay. Y Vijećnica oedd yr adeilad mwyaf ei faint a'r mwyaf cynrychiadol o gyfnod Awstria-Hwngari yn Sarajevo ac fe'i defnyddiwyd fel neuadd y ddinas.[1][2] Ailagorwyd yr adeilad ar 9 Mai 2014.[3]

Sarajevo, knihovna.jpg
Vijećnica, Sarajevo

Hanes golygu

Cafodd Alexander Wittek, a weithiodd ar y prosiect ym 1892 ac 1893, ei daro'n wael a bu farw ym 1894 yn Graz, a chwblhawyd y gwaith gan Ćiril Iveković. Cafodd yr adeilad ei godi fel cyfuniad o arddulliau eclectigiaeth hanesyddol, yn bennaf ar ffurf ffug-Moorish, gan fod y ffynonellau ar gyfer yr arddull i'w canfod yng nghelf Islamaidd Sbaen a Gogledd Affrica.

Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym 1892 ac fe'u cwblhawyd ym 1894, ar gost o 984,000 krone, gyda 32,000 krone ar gyfer gosodion. Fe'i hagorwyd yn ffurfiol ar 20 Ebrill 1896, a'i drosglwyddo i Awdurdod y Ddinas, a fu'n defnyddio'r adeilad tan 1949, pan gafodd ei drosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Bosnia a Herzegovina.

 
Vedran Smailović yn chwarae'r sielo yn y Llyfrgell Genedlaethol a ddinistriwyd yn 1992

Ar 25 Awst 1992, dinistrwyd y Llyfrgell yn llwyr yn ystod Gwarchae Sarajevo; ymhlith y colledion roedd tua 700 o lawysgrifau ac incunabwlwm a chasgliad unigryw o gyhoeddiadau cyfresol Bosnia, rhai ohonynt o ganol adfywiad diwylliannol Bosnia yn y 19g.[4] Cyn yr ymosodiad, roedd daliadau'r llyfrgell yn cynnwys 1.5 miliwn o gyfrolau a thros 155,000 o lyfrau a llawysgrifau prin.[5] Ceisiodd rhai dinasyddion a llyfrgellwyr arbed rhai llyfrau tra oedd saethwyr cudd yn tanio atynt, a bu farw o leiaf un person.[5]

Ni ellid achub mwyafrif y llyfrau o'r fflamau. Y bwriad oedd i waith atgyweirio strwythurol yr adeilad gael ei wneud mewn pedwar cam: 1996-1997 (a ariannwyd gan rodd gan Weriniaeth Awstria), a 2000-2004 (a ariannwyd gan rodd gan y Comisiwn Ewropeaidd, a dinas Barcelona ymysg eraill). Daeth y trydydd cam i ben ym mis Medi 2012, gydag amcangyfrif o'r gost yn CM 4.6 miliwn (tua 2.37 miliwn) gan ddychwelyd neuadd y ddinas i'w hen ogoniant. Dechreuodd y pedwerydd cam ar ôl cwblhau'r trydydd cam a pharhaodd tua 20 mis, gan orffen ar ddiwedd 2013 a'r gost o KM 14 miliwn (tua €7.23 miliwn) a sicrhawyd drwy'r IPA. Yn y cam hwn, adeiladwyd ac adferwyd y tu mewn (paentiadau, cerfluniau, llyfrau), sy'n golygu bod yr adeilad yn dod yn ôl i'w swyddogaeth. Mae popeth a oedd yn bosibl ei adfer wedi cael ei wneud, tra bod y pethau hynny nad oedd modd eu hachub wedi cael eu gwneud o'r newydd drwy fowldiau arbennig. Rhagwelwyd y byddai'r broses ailadeiladu ac adfer gyfan yn costio tua KM 25 miliwn (tua €13 miliwn).

Ar ôl blynyddoedd o adfer, ailagorwyd yr adeilad ar 9 Mai 2014 gyda pherfformiad Cerddorfa Ffilharmonig Sarajevo a Vedran Smailović.[6]

Mae'r adeilad bellach yn heneb genedlaethol ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau. Defnyddir ei ofod ar gyfer digwyddiadau protocol amrywiol ar gyfer pob lefel o lywodraeth, cyngherddau ac arddangosfeydd.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "- vijećnica -". www.vijecnica.ba. Cyrchwyd 2018-02-21.
  2. Sarajevo Vijećnica Error in webarchive template: Check |url= value. Empty.
  3. www.oslobodjenje.ba/ Opening of the national library. Error in webarchive template: Check |url= value. Empty.
  4. For foreigners an event that defined the cultural objectives of the besiegers occurred during the night of August 25, 1992, the intentional shelling and utter destruction with incendiary shells of the irreplaceable Bosnia National and University Library, the central repository of Bosnian written culture, and a major cultural center of all the Balkans. Among the losses were about 700 manuscripts and incunabula and a unique collection of Bosnian serial publications, some from the middle of the 19th century Bosnian cultural revival. Libraries all over the world cooperated afterwards to restore some of the lost heritage, through donations and e-texts, rebuilding the Library in cyberspace.
  5. 5.0 5.1 Riedlmayer, András. "Erasing the Past: The Destruction of Libraries and Archives in Bosnia-Herzegovina". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-18.
  6. Sito-Sučić, Daria (9 May 2014). "Sarajevo reopens landmark city hall and library destroyed in war". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 9 May 2014.
  7. "Vijećnica na proljeće s nekadašnjim sjajem - Klix.ba". archive.is. 2012-09-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-10. Cyrchwyd 2018-02-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)