Viroconium
(Ailgyfeiriad o Viroconium Cornovium)
Dinas Rufeinig tua 8 km (5 milltir) i'r dwyrain o'r Amwythig oedd Viroconium, neu yn llawn Viroconium Cornoviorum. Saif pentref Caerwrygion (Wroxeter) yn un gornel o'r hen dref.
Math | safle archaeolegol, cyn anheddiad, adeilad Rhufeinig, caer Rufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig, Wroxeter and Uppington |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.6742°N 2.6442°W, 52.6643°N 2.64753°W |
Cod OS | SJ5630307596 |
Rheolir gan | English Heritage |
Perchnogaeth | English Heritage |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Sefydlwyd Viroconium tua 58 OC fel caer i'r lleng Legio XIV Gemina yn ystod eu hymosodiad ar Gymru. Yn ddiweddarach daeth y Legio XX Valeria Victrix yno yn eu lle, hyd nes i'r fyddin adael y safle yn 88. Daeth yn brif dref llwyth y Cornovii, ac erbyn 130 roedd yn gorchuddio mwy na 173 acer (70ha), gyda fforwm a baddonau cyhoeddus. Ar ei hanterth, roedd gan y ddinas boblogaeth o dros 6,000, y bedwaredd dinas ym Mhrydain o ran maint.