Visby
Dinas ar ynys Gotland oddi ar arfordir dwyreiniol Sweden yw Visby. Hi yw prifddinas Talaith Gotland, ac roedd y bobologaeth yn 2005 yn 22,236
Math | ardal trefol Sweden |
---|---|
Poblogaeth | 24,951 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Gotland |
Gwlad | Sweden |
Arwynebedd | 1,453 ±0.5 ha |
Cyfesurynnau | 57.628997°N 18.307109°E |
Cod post | 621 xx |
Sefydlwyd Visby yn y 10g, ac o'r 12fed hyd y 14g roedd yn ganolfan fasnachol o bwysigrwydd mawr. Yn 1361, cipiwyd y ddinas gan Denmarc, ond daeth yn rhan o Sweden yn yr 17g. Dechreuodd ei masnach ddirywio wedi hynh, ac oherwydd hyn, cadwyd llawer o adeiladau o gyfnod ei hanterth. Dynodwyd Visby yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.