Iaith artiffisial yw Volapük (hefyd: Volapuk) a ddyfeiswyd yn 1879 gan yr offeiriad Catholig Johann Martin Schleyer (1831-1912), brodor o ardal Baden yn yr Almaen.

Arwyddlun Volapük

Am gyfnod bu'r Volapük yn boblogaidd mewn cylchoedd ymenyddol yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Sefydlwyd y gymdeithas Volapük gyntaf yn Awstria yn 1882 ac ymledodd i sawl gwlad arall. Cyhoeddwyd llawlyfrau dysgu Volapük mewn sawl iaith ac erbyn 1888 amcangyfrwyd fod tua 210,000 o bobl wedi astudio'r iaith. Sefydlwyd cymdeithas fyd-eang (Volapükaklub Valemik), academi (Kadem Volapüka), a chylchgrawn swyddogol (Volapükabled Zenodik). Ond dirywiodd y mudiad Volapük ar ddiwedd y 19g. Cafodd ei beirniadu am fod ei gramadeg yn "rhy gymhleth", er gwaethaf y ffaith ei fod yn rheolaidd, ac am fod ei geirfa yn ddiarth er ei fod yn seiliedig ar eiriau Ewropeaidd adnabyddus. Yn 1900 cyfeiriodd L. L. Zamenhof, dyfeisydd Esperanto, at y Volapük fel "iaith farw".[1] Erbyn heddiw cymharol ychydig sy'n siarad yr iaith, ac mae llawer o'r rheiny yn fyfyrwyr Esperanto sy'n astudio Volapük allan o ddiddordeb ieithyddol.

Rhai geiriau

golygu
Rhifau
bal = 1
tel = 2
kil = 3
fol = 4
lul = 5
mäl = 6
vel = 7
jöl = 8
zül = 9
(bal)tum = 100
mil = 1,000
Geiriau
pükön - siarad
Flemtel - Ffrangeg (Flemt 'Ffrainc' + -el)
mit - cig
jel - cariad
gad - gardd
lifön - byw

Enghreifftiau

golygu

Gweddi'r Arglwydd :

O Fat obas, kel binol in süls,
paisaludomöz nem ola!
Kömomöd monargän ola!
Jenomöz vil olik,
äs in sül, i su tal.
Bodi obsik vädeliki givolös obes adelo.
E pardolös obes debis obsik,
äs id obs aipardobs debeles obas.
E no obis nindukolös in tentadi,
sod aidalivolös obis de bad.

Gweler hefyd

golygu
 
Wikipedia
Argraffiad Volapük Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Cyfeiriadau

golygu
  1. L. L. Zamenhof, ''Esenco kaj estonteco de la ideo de lingvo internacia

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.