W. Rhys Nicholas
gweinidog ac emynydd
Bardd Cymraeg, emynydd a gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd Rhys Nicholas (23 Mehefin 1914 - 2 Hydref 1996). Ganwyd yn Tegryn gogledd Sir Benfro, a daeth i amlygrwydd pan enillodd wobr ysgrifennu emyn yn Eisteddfod Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan ym 1967.
W. Rhys Nicholas | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mehefin 1914 Tegryn |
Bu farw | 2 Hydref 1996 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd |
Dyma ddwy linell gyntaf, pennill cyntaf yr emyn:
- Tydi a wnaeth y wyrth, O! Grist, Fab Duw,
- Tydi a roddaist imi flas ar fyw;
Flwyddyn yn ddiweddarach enillodd Eddie Evans am ysgrifennu'r dôn i gyd fynd â'r geiriau: tôn a adnabyddir yn awr fel Pantyfedwen.[1]
Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe, a bu'n Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn 1941-42. Rhwng 1952 a 1975 roedd yn ddarlithydd cyson yn Adran Addysg Bellach y Coleg.
Rhwng 1964 ac 1980 roedd yn gyd-olygydd y cylchgrawn llenyddol Y Genhinen gydag Emlyn Evans.
Llyfryddiaeth
golygu- Cerddi a Charol (Ty John Penry, 1969)
- Oedfa'r Ifanc (Ty John Penry, 1974)
- Cerddi'r Mawl (Ty John Penry, 1980)
- Y Mannau Mwyn (Ty John Penry, 1985)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) D. Ben Rees (5 Hydref 1996). Obituaries: The Rev W. Rhys Nicholas. The Independent. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2012.