Emlyn Evans
Golygydd ac athro oedd Emlyn Evans (1923 – 13 Tachwedd 2014) yn oedd yn reolwr ar Llyfrau'r Dryw rhwng 1957 a 1965. Sefydlodd y cylchgrawn Barn ynghyd âg Alun Talfan Davies ac Aneirin Talfan Davies ym 1962, ac ef oedd y golygydd am y ddwy flynedd gyntaf. Rhwng 1968 a 1979 bu'n cyd-olygu Y Genhinen gyda'r Parch W. Rhys Nicholas.[1]
Emlyn Evans | |
---|---|
Ganwyd | 1923 |
Bu farw | 13 Tachwedd 2014 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | golygydd |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei eni a'i fagu yn y Carnedd, Bethesda. Astudiodd beirianneg trydan, ffiseg a mathemateg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, a bu'n dringo o fewn y diwydiant trydan gan ddod yn beirianydd cynorthwyol gyda'r Bwrdd Trydan Canolog yn Llundain. Daeth i sylw Aneirin Talfan Davies am ei waith blaenllaw yn sefydlu'r Gymdeithas Lyfrau Cymraeg yn Llundain a daeth yn rheolwr Llyfrau'r Dryw yn Llandybie. Bu'n parhau i gyhoeddi cyfres Crwydro Cymru a dechreuodd gyhoeddi y gyfres Barddoniaeth y Siroedd.[2] Ymddiswyddodd o fod yn rheolwr ym 1965 am fod yna anghytundeb ynglŷn â chyhoeddi nofel John Rowlands Ienctid Yw 'Mhechod [3] Roedd Emlyn Evans yn erbyn cyhoeddi.
Yn 1965 fe'i penodwyd ar staff Ysgol Syr Hugh Owen i ddysgu mathemateg. Yna yn 1978 daeth yn rheolwr-gyfarwyddwr Gwasg Gee yn Ninbych.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ / Gwefan Llais Llên
- ↑ Barn 623/4, tud. 25
- ↑ "/ Gwefan The Modern Nofel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-23. Cyrchwyd 2012-12-10.