Wacari
Enw ar unrhyw un o'r sawl rhywogaeth o fwnci yn y genws Cacajao yw wacari (ffurfiau lluosog: wacarïod, wacarïaid).[1] Mae'r genws yn cynnwys pedair rhywogaeth: y wacari moel neu goch (sy'n cynnwys pedair is-rywogaeth), y wacari eurgefn neu benddu, wacari Aracá, a wacari Neblina. Mae'r genws Cacajao yn perthyn i Pitheciidae, un o'r pum teulu o fwncïod y Byd Newydd, teulu sydd hefyd yn cynnwys y titïod a'r sacïod.
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Safle tacson | genws |
Rhiant dacson | Pitheciinae |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhywogaethau
golyguCydnabyddir pedair rhywogaeth yn y genws hwn:[2][3]
- Genws Cacajao
- Wacari moel neu wacari coch, Cacajao calvus
- Cacajao calvus calvus
- Cacajao calvus ucayalii
- Cacajao calvus rubicundus
- Cacajao calvus novaesi
- Wacari moel neu wacari coch, Cacajao calvus
- Grŵp y rhywogaethau penddu:
- Wacari eurgefn neu wacari penddu, Cacajao melanocephalus
- Wacari Aracá, Cacajao ayresi*
- Wacari Neblina, Cacajao hosomi*
Yn 2014 cynigwyd tacsonomeg arall gan Ferrari et al. ar gyfer y grŵp penddu, sy'n ystyried wacari Aracá yn is-rywogaeth i'r wacari eurgefn, ac hefyd yn cydnabod Cacajao ouakary fel rhywogaeth ar wahân. Ni dderbynir yr adolygiad hwn gan bawb, ac yn ôl y consensws ar hyn o bryd mae C. ouakary yn gyfystyr â C. melanocephalus..[4][5][6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, "uacari".
- ↑ Nodyn:MSW3 Primates
- ↑ Boubli, J. P.; M. N. F. da Silva; M. V. Amado; T. Hrbek; F. B. Pontual; I. P. Farias (2008). "A taxonomic reassessment of black uakari monkeys, Cacajao melanocephalus group, Humboldt (1811), with the description of two new species". International Journal of Primatology 29: 723–749. doi:10.1007/s10764-008-9248-7. http://www.evoamazon.net/Legal_papers/Boubli%202008.pdf.
- ↑ Ferrari, Stephen F.; Guedes, Patricia G.; Figueriredo-Ready, Wilsea M.B.; Barnett, Adrian A. (2014). "Reconsidering the taxonomy of the Black-Faced Uacaris, Cacajao melanocephalus group (Mammalia: Pitheciidae), from the northern Amazon Basin". Zootaxa 3866 (3): 353–370. doi:10.11646/zootaxa.3866.3.3. PMID 25283664.
- ↑ "Cacajao". ASM Mammal Diversity Database. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-26. Cyrchwyd 2019-07-24.
- ↑ "Cacajao". ITIS. Cyrchwyd 2 September 2022.