Mwncïod y Byd Newydd

Mae mwncïod y Byd Newydd yn bum teulu o brimatiaid o Canolbarth America, Mecsico a De America, sef y Callitrichidae, Cebidae, Aotidae, Pitheciidae, a'r Atelidae. Gelwir y grŵp yma o bum teulu (neu 'uwchdeulu') yn Ceboidea. Dyma'r unig uwchdeulu byw yn y 'parfurdd' Platyrrhini, gair sy'n golygu ‘trwyn gwastad’, gan fod eu trwynau'n fwy gwastad na phrimatiaid eraill.[1][2]

Mwnci llygadrwth Panamâ, Aotus zonalis

Y mwncïod yn y teulu Atelidae, e.e. y mwncïod heglog, yw'r unig primatiaid sydd â chynffonnau gafaelog. Perthnasau agosaf mwncïod y Byd Newydd yw'r simiaid, y Catarrhini, sef mwncïod yr Hen Fyd ac epaod. Mae mwncïod y Byd Newydd yn ddisgynyddion o'r simiaid Affricanaidd y fu'n byw drwy Dde America, llinell a ymwahanodd dros 40 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[3]

Nodweddion golygu

Mae mwncïod y Byd Newydd yn fwncïod bach ac o faint canolig; mae'r corfarmoset (mwnci lleiaf y byd) yn 14–16 cm (5.5–6.5 modfedd), ac yn pwyso 120-190 gram. Mae'r muriqui deheuol yn 55–70 cm (22–28 modfedd), ac y pwyso 12–15 cilogramau. Ceir ychydig o wahaniaeth rhwng mwncïod y Byd Newydd a mwncïod yr Hen Fyd. Ystyr Platyrrhini yw ‘trwyn gwastad’, gan fod eu trwynau'n fwy gwastad na phrimatiaid eraill. Hefyd, mae cynffonnau gafaelog - fel braich - gyda nhw, o'i gymharu â mwncïod yr Hen Fyd; eu cynffonnau'n fer, a dydyn nhw ddim fel breichiau.

Cyfeiriadau golygu

  1. "ChimpanZoo Web Site: Ceboidea Superfamily". web.archive.org. 2008-05-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-15. Cyrchwyd 2019-03-25.
  2. "Platyrrhini and Ceboidea". ChimpanZoo. 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-15. Cyrchwyd July 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Check date values in: |accessdate= (help)
  3. Sellers, Bill (2000-10-20). "Primate Evolution" (PDF). University of Edinburgh. tt. 13–17. Cyrchwyd 2008-10-23.