Manaus yw prifddinas a dinas fwyaf talaith Amazonas yng ngogledd-orllewin Brasil. Saif ar lan afon Río Negro, heb fod ymhell o'i chymer ag afon Amazonas. Roedd y boblogaeth yn 2012 yn 2,020,371; hi felly yw 7fed dinas fwyaf Brasil.[1][2] Cyn 1939 defnyddiwyd y sillafiad Manaós, sef gair y brodorion, a chyn hynny enw'r ddinas oedd Lugar de Barra do Rio Negro, sy'n enw Portiwgaleg.

Manaus
MathBwrdeistref ym Mrasil, prifddinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,063,547 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1669 Edit this on Wikidata
AnthemQ19551606 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethGovernador de Goiás Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−04:00, America/Manaus Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirAmazonas Edit this on Wikidata
GwladBaner Brasil Brasil
Arwynebedd11,401.092 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr92 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCareiro da Várzea, Iranduba, Careiro, Itacoatiara, Presidente Figueiredo, Novo Airão, Rio Preto da Eva Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau3.1189°S 60.0217°W Edit this on Wikidata
Cod post69000-000 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholMunicipal Chamber of Manaus Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Manaus Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethGovernador de Goiás Edit this on Wikidata
Map
Mynegai Datblygiad Dynol0.737 Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y ddinas gan y Portiwgeaid rhwng 1693–94. Mae'n ddinas ddiwydiannol bwysig, ac yn nodedig am barchu traddodiadau a diwylliant y brodorion, yn fwy nag unrhyw ddinas arall ym Mrasil. Caiff ei hystyried yn "Borth yr Amason", mae hefyd yn borthladd pwysig ac mae ganddi faes awyr.[3]

Ymhlith ei hadeiladau nodedig, mae'r theatr Teatro Amazonas a agorwyd yn swyddogol gan Caruso yn 1896.

Cyfeiriadau golygu

  1. Manaus tem população estimada em 1,9 milhão de habitantes, diz IBGE; adalwyd Tachwedd 2015.
  2. Dados do Amazonas Archifwyd 2012-10-27 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd Tachwedd 2015.
  3. Manaus Guide Archifwyd 2014-12-20 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd Tachwedd 2015.