Cwm
- Erthygl am y tirffurf yw hon. Am y pentref yn Sir Ddinbych, gweler Cwm, Sir Ddinbych. Am y pentref ym Mlaenau Gwent, gweler Cwm, Blaenau Gwent.
Tirffurf a geir yn y mynyddoedd a'r bryniau yw cwm.
Yn Ne Cymru, defnyddir y gair cwm bron yn gyfystyr â'r gair dyffryn yn y Gogledd, sef tirffurf is na thir cyfagos sy'n ffyrfio gwely i afon. Mae Y Cymoedd (Saesneg: The Valleys) yn tueddu i gyfeirio yn arbennig at gymoedd glofäol De Cymru - yn eu mysg Cwm Rhondda, Cwm Cynon, Cwm Afan. (Ond sylwer hefyd y defnyddir Glyn fel yn Glyn-Nedd, Glyn Ebwy).
Yng Ngogledd Cymru, mae cwm fel arfer yn golygu dyffryn crwn bychan sy'n crogi yn uchel ar ochr dyffryn siap-U, y naill a'r llall wedi ei ffurfio gan effeithiau rhewlifoedd ac yn dirffurf nodweddiadol o Eryri, er enghraifft Cwm Idwal (Glyderau, gwelwch lun) neu Gwm Cau (Cadair Idris).
Defnyddir cwm hefyd fel term technegol yn Naearyddiaeth i ddisgrifio'r tirffurf rhewlifol ac yn gyfystyr
- i'r corrie yn yr Alban
- ac i'r cirque yn ne Ffrainc, neu combe yn nwyrain Ffrainc, gair Galeg tebyg iawn i'r gair Cymraeg.
Mae cwm yn un o'r ychydig eiriau Cymraeg a geir fel benthyceiriau yn yr iaith Saesneg. Yr enghraifft enwocaf efallai yw'r enw lle Western Cwm i ddynodi un o'r cymoedd uchel ar lethrau Everest yn yr Himalaya.