Waffl

bwyd yn seiliedig ar toes neu cytew, wedi'i coginio rhwng dau blât patrymog, ffurfiedig

Pryd sydd wedi'i wneud o gytew neu does lefeinllyd ac sydd wedi'i goginio rhwng dwy blat gyda phatrwm arnynt er mwyn rhoi maint, siap ac arwyneb nodweddiadol iddo yw waffl. Mae nifer o amrywiaethau i'w cael yn seiliedig ar y math o haearn waffl a rysait a ddefnyddir. Mae wafflau yn cael eu bwyta ledled y byd, yn arbennig yng Ngwlad Belg, ble ceir dros ddwsin o amrywiaethau rhanbarthol. Gall wafflau gael eu gwneud yn ffres neu gael eu cynhesu wedi iddynt gael eu coginio o flaen llaw a'u rhewi.

Stroopwafels, sy'n cynnwys surop yn y canol

Mae wafflau wedi bod yn cael eu cynhyrchu gan gwmni Waffls Tregroes ers 1983. Mae'r cwmni, sydd wedi'i leoli yn Llandysul ers 1994, yn cyflenwi archfarchnadoedd ledled Cymru, ac yn gwerthu yn rhyngwladol.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ein hanes ni" Archifwyd 2021-11-23 yn y Peiriant Wayback; Tregroes Waffles; adaliwyd 22 Gorffennaf 2021