Wales, Alaska
Dinas fach yn Nome Census Area, Alaska, yn nhalaith Alaska, Unol Daleithiau America, yw Wales (Inupiaq: Kiŋigin, IPA: [kiŋiɣin]). Mae ganddi boblogaeth o 145[1] (cyfrifiad 2010). 93.8% ohonynt yn frodorion[1]. Fe'i lleolir ar Benrhyn Tywysog Cymru (o le daw'r enw Saesneg ar y gymuned) ar Orynys Seward 65°36′N 168°5′W / 65.600°N 168.083°W, 180 km (111 milltir) i'r gogledd-orllewin o Nome. Dyma'r gymuned fwyaf gorllewinol ar dir mawr cyfandiroedd America. (Hyd at 2010 y trigolion mwyaf gorllewinol oedd cymuned ynys Attu yn ynysoedd yr Aleut. 52°51′N 173°11′E / 52.850°N 173.183°E). (Er mai pentref ydyw, fe'i gelwir yn ddinas am ei fod yn ganolfan i'r ardal anghysbell o'i chwmpas. Mae'r boblogaeth yn byw mewn 43 o'r 51 tŷ sydd yn y gymuned (24 ohonynt â "theuluoedd"[1]).
Math | dinas yn yr Unol Daleithiau |
---|---|
Poblogaeth | 168 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC−09:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Nome Census Area |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 6.539062 km², 6.539061 km² |
Uwch y môr | 8 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 65.612222°N 168.089167°W |
Cod post | 99783 |
- Gweler Wales am enghreifftiau eraill o'r enw.
Kingigin, wedi ei enwi ar ôl y mynydd lleol, yw ei enw i'r trigolion Inupiaq, sy'n cyfeirio at eu hunain fel Kingikmiut[3]. Kingigin yw un o gymunedau hynaf ardal Cilfor Baring. (Pellter o 51 milltir sydd, heddiw, yn rhannu'r Unol Daleithiau o Rwsia.) Roedd iddi boblogaeth o 500-600 cyn ac ar ôl dyfodiad yr hil wen. Bu pandemig ffliw 1918 yn argyfwng, a hanerwyd y boblogaeth[3].
Trefnwyd y Pentref Brodorol yn ôl yr Indian Reorganization Act yn 1934. Derbyniwyd y trefniant rhwng y gymuned ac Adran Mewndiroedd yr Unol Daleithiau ar 29 Gorffennaf 1939[3]. Prynwyd Alaska gyfan gan yr Unol Daleithiau, o Ymerodraeth Rwsia ar 30 Mawrth 1867 am $7.2 miliwn. Yn 1912 fe'i trefnwyd yn Diriogaeth. Ar 3 Ionawr 1959 daeth yn 49fed talaith yr Unol Daleithiau.
Gerllaw Kingipin mae Parc Cadwraeth Tirbont Baring (Bering Land Bridge National Preserve)[4]. Yma gwarchodir hanes naturiol - gan gynnwys hanes pwysig dynoliaeth (a phoblogi cyntaf cyfandir yr Amerig) - yr ardal. (Mae map da o'r ardal ar eu gwefan[2].)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "American FactFinder". US Census Bureau. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-14. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
- ↑ 2.0 2.1 "Map Parc Gwarchod Tirbont Beringia". National Parks Service (Yr Unol Daleithiau). Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Wales (Gwefan brodorion Kawerak)". Kawerak, Inc. 2018. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
- ↑ "Parc Gwarchod Tirbont Beringia". Nation Parks Service, Yr Unol Daleithiau. 30 Ionawr 2018. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.