The Walt Disney Company
Cwmni amlwladol Americanaidd yn niwydiannau'r cyfryngau torfol ac adloniant yw The Walt Disney Company, a adwaenir yn aml fel Disney, sydd a'i bencadlys Walt Disney Studios yn Burbank, Califfornia. Disney yw cwmni darlledu a theledu cebl ail fwyaf y byd yn nhermau refeniw; Comcast yw'r mwyaf.[1] Sefydlwyd cwmni Disney ar 16 Hydref 1923 gan Walt Disney a Roy O. Disney dan yr enw Disney Brothers Cartoon Studio. Daeth yn arweinydd yn niwydiant animeiddio'r Unol Daleithiau, ac yn ddiweddarach mewn cynhyrchu ffilmiau, teledu, a pharciau thema. Gweithredodd y cwmni dan yr enwau The Walt Disney Studio a Walt Disney Productions (1929–86).[2] Mabwysiadodd ei enw cyfredol ym 1986, a thyfodd ei weithredoedd a hefyd sefydlodd adrannau sy'n ymwneud â'r theatr, radio, cerddoriaeth, cyhoeddi, a chyfryngau ar-lein.
Enghraifft o'r canlynol | cwmni cynhyrchu ffilmiau, sefydliad masnachol, uwchgwmni cyfathrebu, busnes, cwmni cyhoeddus |
---|---|
Rhan o | S&P 500, Dow Jones Industrial Average |
Dechrau/Sefydlu | 16 Hydref 1923 |
Rhagflaenwyd gan | Laugh-O-Gram Studio |
Lleoliad yr archif | Archifau Walt Disney |
Prif weithredwr | Bob Iger |
Sylfaenydd | Walt Disney, Roy O. Disney |
Gweithwyr | 201,000 |
Isgwmni/au | National Geographic Partners |
Ffurf gyfreithiol | Delaware corporation |
Cynnyrch | meddalwedd, darlledu, cerddoriaeth, video game |
Incwm | 15,706,000,000 $ (UDA) 15,706,000,000 $ (UDA) (2018) |
Asedau | 203,631,000,000 $ (UDA) 203,631,000,000 $ (UDA) (1 Hydref 2022) |
Pencadlys | Burbank, Califfornia, Unol Daleithiau America |
Enw brodorol | The Walt Disney Company |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.disney.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae rhai o adrannau Disney yn marchnata cynnyrch o natur fwy aeddfed na'r prif frandiau a anelir at blant a theuluoedd. Cynnyrch enwocaf y cwmni yw ei ffilmiau a wneir gan Walt Disney Studios, sydd yn un o'r stiwdios ffilm mwyaf ei maint yn sinema'r Unol Daleithiau. Mae Disney hefyd yn berchen ar y rhwydwaith teledu ABC a sianeli cebl gan gynnwys y Disney Channel, ESPN, A+E Networks, ac ABC Family; adrannau cyhoeddi, marsiandïaeth, cerddoriaeth, a theatr; ac yn berchen ar 14 o barciau thema o gwmpas y byd. Mae'r cwmni'n rhan o'r Dow Jones Industrial Average ers 6 Mai 1991. Symbol amlycaf Disney yw'r cymeriad cartŵn Mickey Mouse.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Siklos, Richard (9 Chwefror 2009). "Why Disney wants DreamWorks". CNN/Money. Cyrchwyd 9 Chwefror 2009.
- ↑ (Saesneg) Disney Company. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2015.