Roedd Wilhelm Heinrich (Walter) Baade, (24 Mawrth 189325 Mehefin 1960) yn seryddwr Almaenig a weithiodd yn yr Unol Daleithiau o 1931 i 1959, trwy ei waith bu modd gwella'r amcangyfrif o oedran a maint y bydysawd. Wedi ei eni yn Schréttinghausen, bu'n astudio ym Mhrifysgolion Münster a Göttingen, a bu'n gweithio yn arsyllfa Hamburg rhwng 1919 a 1931. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1931 gan wario gweddill ei yrfa yn arsyllfeydd Mount Wilson (1931-58) a Palomar (1948-58). Sigl effaith y blacowt adeg yr Ail Ryfel Byd oedd lleihau llygredd golau trwy'r byd; bu hyn o gymorth i arsylwadau Baade gan ganiatáu iddo ganfod a dosbarthu sêr mewn ffurf newydd a defnyddiol. Llwyddodd i wella gwerthoedd Hubble parthed maint ag oedran y bydysawd. Bu hefyd yn gweithio ar uwchnofâu ac ar radio-sêr. Bu'n athro yn Göttingen o 1959 i 1960[1]

Walter Baade
Ganwyd24 Mawrth 1893 Edit this on Wikidata
Schröttinghausen Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 1960 Edit this on Wikidata
Göttingen Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethseryddwr, astroffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodJohanna Bohlmann Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y Darlithydd, Henry Norris Russell, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Medal Bruce Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.