Walton Cardiff
pentref yn Swydd Gaerloyw
Pentref yn sir seremonïol Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr ydy Walton Cardiff.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Ashchurch Rural yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Tewkesbury. Saif yn uniongyrchol i'r de-ddwyrain o dref Tewkesbury yn agos at draffordd yr M5. Cyn 2008 roedd Walton Cardiff yn blwyf sifil ynddi'i hun ond yn y flwyddyn honno cafodd ei rannu yn ddau a'i ymgorffori yn y plwyfi sifil newydd Ashchurch Rural a Wheatpieces.[2]
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Ashchurch Rural |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerloyw (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.988056°N 2.134444°W |
Cod OS | SO907322 |
Hanes
golyguEnwir y pentref yn "Waltone" yn Llyfr Dydd y Farn ym 1086; fe'i lleolwyd yn hwndrwd Tewkesbury.[3] Roedd y lle ym meddiant William de Cardiff erbyn 1166.[4] Y berchnogaeth hon o'r pentref gan deulu Cardiff dros sawl cenhedlaeth a arweiniodd at yr enw "Walton Cardiff".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 6 Hydref 2021
- ↑ O dan "The Tewkesbury (Parishes) Order 2007 – S.I. 2007 no. 3577"; gweler tud. 9 o "Bulletin of changes to local authority electoral arrangements, areas and names in England: Orders made between 1 April 2007 and 31 March 2008", The National Archives, adalwyd 6 Hydref 2021
- ↑ Walton Cardiff yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
- ↑ "Parishes: Walton Cardiff", British History Online; adalwyd 6 Hydref 2021
Dolenni allanol
golygu- "Walton Cardiff, Gloucestershire", A Vision of Britain through Time
- "Walton Cardiff", Genuki