Wheatpieces

pentref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerloyw

Stad dai a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, ydy Wheatpieces. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Tewkesbury. Saif i'r de-ddwyrain o dref Tewkesbury ac mae'n gwasanaethu fel maestref i'r dref honno.

Wheatpieces
Mathplwyf sifil, pentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Tewkesbury
Poblogaeth3,736 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.984237°N 2.142799°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04013272 Edit this on Wikidata
Cod OSSO902317 Edit this on Wikidata
Map

Datblygwyd y stad yn y 1990au ar dir amaethyddol ym mhlwyf sifil Walton Cardiff. Yn 2008 diddymwyd Walton Cardiff fel plwyf sifil a chrëwyd plwyf sifil Wheatpieces o ran orllewinol yr hen blwyf hwnnw. (Daeth gweddill plwyf sifil Walton Cardiff yn rhan o blwyf Ashchurch Rural.)

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan blwyf sifil Wheatpieces boblogaeth o 3,577.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. City Population; adalwyd 6 Hydref 2021

Dolen allanol

golygu