Wanda Hjort Heger
Gweithiwr cymdeithasol o Norwy oedd Wanda Hjort Heger (née Wanda Maria von der Marwitz Hjort) (9 Mawrth 1921 - 27 Ionawr 2017) a helpodd garcharorion Norwyaidd a charcharorion eraill mewn gwersyll-garchdai Natsïaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd hi'n ferch i gyfreithiwr a gyd-sefydlodd y blaid ffasgaidd o Norwy Nasjonal Samling gyda Vidkun Quisling yn 1933, ond a adawodd y blaid yn ddiweddarach a daeth yn rhan o fudiad gwrthsafiad Norwy, y Motstandsbevegelsen. Arestiwyd Hjort a’i anfon i garchar ym Merlin, ond fe’i rhyddhawyd yn ddiweddarach a'i gwneud yn gaeth i'w thŷ ar ystâd deuluol yn yr Almaen. Tra yno, dysgodd am y boblogaeth gynyddol o garcharorion o Norwy yn Sachsenhausen a dechreuodd smyglo bwyd a chyflenwadau iddynt. Helpodd hefyd i lunio rhestrau o garcharorion o Norwy a anfonwyd at lywodraeth alltud Norwy yn Llundain. Yn ddiweddarach bu Hjort yn helpu gyda gweithrediad Bysus Gwyn y Groes Goch yn Sweden a Chroes Goch Denmarc, ac achubodd 15,345 o fywydau rhag y carchardai a'r gwersylloedd crynhoi Natsïaidd.[1]
Wanda Hjort Heger | |
---|---|
Ganwyd | Wanda Maria von der Marwitz Hjort 9 Mawrth 1921 Christiania |
Bu farw | 27 Ionawr 2017 Oslo |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | gweithiwr cymdeithasol, gwrthryfelwr milwrol |
Tad | Johan Bernhard Hjort |
Mam | Anna Holst |
Priod | Bjørn Heger |
Plant | Kim Heger, Anders Heger |
Gwobr/au | Gwobr Goffa Torstein Dale, Urdd Marchogion Sant Olav, Gwobr Anrhyddedus y Groes Goch Norwyaidd, Llyngesydd Carl Hammerichs minnelegat |
Ganwyd hi yn Oslo yn 1921 a bu farw yn Oslo yn 2017. Roedd hi'n blentyn i Johan Bernhard Hjort ac Anna Holst. Priododd hi Bjørn Heger.[2][3][4][5][6][7]
Gwobrau
golygu
Dyfarnwyd nifer o wobrau neu deitlau i Wanda Hjort Heger yn ystod ei hoes, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwobrau a dderbyniwyd: https://nbl.snl.no/Wanda_Heger. https://nbl.snl.no/Wanda_Heger. https://nbl.snl.no/Wanda_Heger. https://nbl.snl.no/Wanda_Heger.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Dyddiad geni: https://snl.no/Wanda_Heger.
- ↑ Dyddiad marw: https://snl.no/Wanda_Heger.
- ↑ Tad: https://snl.no/Johan_Bernhard_Hjort.
- ↑ Priod: https://nbl.snl.no/Wanda_Heger.
- ↑ Mam: https://snl.no/Johan_Bernhard_Hjort.