Wang Wei
Bardd, arlunydd, cerddor a gwladweinydd o Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin y Tang a elwir weithiau "y Bwdha-Fardd" oedd Wang Wei (Tsieineeg 王維 Wáng Wéi) (701 – 761).
Wang Wei | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 699 ![]() Yongji, Shanxi ![]() |
Bu farw | 759, Awst 761 ![]() Chang'an ![]() |
Dinasyddiaeth | Brenhinllin Tang ![]() |
Addysg | jinshi ![]() |
Galwedigaeth | arlunydd, bardd, ysgrifennwr, gwleidydd, cerddor, caligraffydd ![]() |
Swydd | gweinidog ![]() |
Arddull | portread ![]() |
Cartre'r teulu | Hedong Xian ![]() |
Tad | Wang Chulian ![]() |
Llinach | Wang clan of Taiyuan ![]() |

- Erthygl am y bardd enwog yw hon. Gweler hefyd Wang Wei (gwahaniaethu).
Ei fywydGolygu
O dras uchelwrol, basiodd ei arholiadau ar gyfer y Gwasanaeth Sifil Ymherodrol yn 721 a chafodd yrfa lwyddianus gan ymddyrchafu i fod yn Ganghellor yn 758. Yn ystod Gwrthyfel An Lushan osgodd gwrdd ag asiantau'r gwrthryfelwyr trwy esgus ei fod yn fyddar. Treuliodd ddeng mlynedd yn astudio dan y meistr Chán Daoguang. Ar ôl marwolaeth ei wraig yn 730, sefydlodd fynachlog ar ran o'i ystad ac aeth yno i ymddeol.
Fe'i cofir yn bennaf am ei gerddi sy'n darlunio golygfeydd tawel o ddyfroedd a niwl heb lawer o le ynddynt i bobl, fel yn achos llawer o baentiadau'r cyfnod.
Does dim un o'i baentiadau gwreiddiol wedi goroesi, ond ceir copïau a briodolir iddo, yn enwedig paetniadau tirwedd traddodiadol. Cafodd ddylanwad ar Ysgol Ddeheuol paentiadau tirwedd Tsieina, a nodweddir gan strociau brwsh cryf a golchiadau inc ysgafn.
Enghraifft o'i ganuGolygu
Mae'r gerdd fer 'Yn Nyfnderoedd y Mynydd Anial' yn un o ddwy o gerddi Wang Wei a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Cedric Maby:
- Yn nyfnderoedd y mynydd anial,
- Byth ni ddynesa neb,
- Ond unwaith yn y pedwar amser,
- Fel llef o hirbell,
- Bydd pelydrau trwy'r goedwig gethin
- A thywynnu eto ar y cysgodog fwsogl.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Cedric Maby, Y Cocatŵ Coch, tud. 48.
LlyfryddiaethGolygu
Ceir dwy o gerddi Wei Wan wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg yn y gyfrol:
- Cecil Maby, Y Cocatŵ Coch, Blodeugerdd o gerddi byrion o'r Tseinaeg (Gwasg Prifysgol Cymru ar ran yr Academi Gymreig, 1987)
Ceir sawl cyfieithiad Saesneg, yn cynnwys
- Wang Wei: Poems, cyf. gan G W Robinson (Penguin Books, Harmondsworth 1973).