Cedric Maby
Roedd Alfred Cedric Maby (bu farw 2000) yn ddiplomydd, awdur ac ieithydd.
Cedric Maby | |
---|---|
Ganwyd | 20 g Swydd Gaerloyw |
Bu farw | 2000 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd |
Cyflogwr |
|
Fe'i ganed yn Sir Gaerloyw i rieni o Sir Fynwy: roedd ei dad o Benrhos, ger Rhaglan, a’i fam o’r Fenni. Aeth i Brifysgol Rhydychen yn 1938 lle astudiodd y Clasuron, Ffrangeg ac Athroniaeth. Wedyn cafodd yrfa yn y Gwasanaeth Diplomyddol am 30 mlynedd. Roedd yn Tsieina yn 1939 am gyfnod ac eto yn y 1950au. Roedd yn rhugl ei Tsienieg ac yn siarad Swedeg; roedd ei wraig Anne Charlotte o Stockholm. Gallai hefyd siarad Almaeneg a Sbaeneg.
Roedd yn bennaeth Adran yn y Weinyddiaeth o'r enw 'Datblygiadau Tramor' yn y 1960au. Penodwyd ef i nifer o swyddi gan gynnwys pan ddaeth yn CYB/CBE (Cadlywydd yr Ymerodraeth Brydeinig) yn Efrog Newydd yn 1962 ac yn Gonswl ei Mawrhydi i Liechtenstein a’r Swistir yn 1968.
Ymddeolodd yn 1971 a dychwelodd i “Cae Canol” (a brynodd oddi wrth ystad Sir Clough Williams-Ellis) Penrhyndeudraeth. Roedd yn aelod o’r Cymmrodorion a Chymdeithas yr Iaith
Apwyntwyd ef yn Uchel Siryf Gwynedd 1976 -1977. Yn 1983 cyhoeddodd Dail Melyn o Tseina, yn adrodd hanes Tsiena modern. Cyhoeddwyd cyfrol o gerddi Tsieineeg Y Cocatŵ Coch gan Gwasg Prifysgol Cymru yn 1987; casgliad o gerddi yn ymestyn dros dwy fil a hanner o flynyddoedd. Bu farw yn 2000. Daeth casglaid diddorol o “Chinoiserie” ganddo i’r farchnad yn Christies Mai 2015.
Cyhoeddiadau
golygu- Venezuela. Economic and commercial conditions in Venezuela ... Chwefror, 1951. Cyhoeddwyd gan Alfred Cedric Maby
- Dail Melyn o Tseina (hanes) gan Cedric Maby. Gwasg Gee, Dinbych 1983
- Y Cocatŵ Coch (blodeugerdd 500cc-1981) cyfieithwyd gan Cedric Maby, Yr Academi Gymreig, GPC 1987
Cyfeiriadau
golygu- The London Gazette 1962 https://www.thegazette.co.uk/London/issue/42552/page/21/data.pdf
- The London Gazette 1968 https://www.thegazette.co.uk/London/issue/44594/page/5897/data.pdf
- Prynu Cae Canol https://archives.library.wales/index.php/castle-yard
- Christies Sale of Chinoiserie 2015 http://www.christies.com/lotfinder/Lot/zhang-daqian-1899-1983-circa-1930-5891499-details.aspx
- FCO posts https://issuu.com/fcohistorians/docs/bdd_part_3_with_covers
- Taith i’r Ariannin 1946 http://www.hebrewsurname.com/arrival_ALCANTARA_1946-11-25