Waunarlwydd

pentref yn Sir Abertawe

Pentref yng nghymuned Y Cocyd, mwrdeisdref sirol Abertawe, Cymru, ydy Waunarlwydd[1][2] (amrywiolyn lleol o'r gair arglwydd yw arlwydd).

Waunarlwydd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6401°N 4.0205°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001037 Edit this on Wikidata
Cod OSSS598956 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMike Hedges (Llafur)
AS/auCarolyn Harris (Llafur)
Map

Trafnidiaeth golygu

Darperir bysiau gan First Cymru: sef rhifau 15 neu 16 Abertawe - Waunarlwydd ac Abertawe - Gorseinon.

Y brif ffordd i fewn ac allan o'r pentref yw'r B4295. Y cyffordd agosaf ar yr M4 yw cyffordd 47 Gorllewin Abertawe (Penllergaer).

Yn wreiddiol, y brif ffordd o Abertawe oedd Heol Waunarlwydd, sydd yn dechrau y tu allan i dafarn y Cockett Inn ar Heol Coced (A4216). Mae'r ffordd yn arwain at y man lle mae Heol Cwmbach a Heol Abertawe yn cyfuno y tu allan i dafarn Lamb & Flag.

Er bod Rheilffordd Gorllewin Cymru yn rhedeg trwy'r pentref, nid oes gorsaf reilffordd yma: yr agosaf yw Gorsaf reilffordd Tre-Gŵyr.

Economi golygu

Roedd Waunarlwydd yn gartref i safle gwneud alwminiwm a berchnogwyd gan gwmni o'r UD, Alcoa. Cyhoeddodd Alcoa ym mis Tachwedd 2006 y byddai'n cau'r safle erbyn diwedd mis Mawrth 2007, â 298 o bobl wedi colli eu swyddi. Bu gwaith datgomisiynu yn dilyn hyn.[3]

Bellach, TIMET, cyflenwr mwyaf y byd o fetelau titaniwm, yw prif gyflogwr y pentref, gyda'r felin yn un o bedwar lleoliad o fewn Ewrop.

Mae 3 cartref nyrsio: Ashgrove House, Tŷ Waunarlwydd a Thŷ Victoria.

Mae dwy dafarn yn y pentref, y Masons Arms a'r Farmers Arms, â'r ddwy wedi'u lleoli ar Heol Abertawe. Lleolir y clwb rygbi ar Heol Roseland. Caewyd hen dafarn y Village Inn ond cafodd ei thrawsnewid yn fwyty Grill House.

Ysgolion golygu

Mae dwy ysgol gynradd yn y pentref: un cyfrwng Saesneg o'r enw Ysgol Gynradd Waunarlwydd, ac mae hon wedi'i lleoli ar Heol Brithwen ac wedi disodli'r ysgol wreiddiol ar Heol Abertawe. Ysgol Gymraeg yw Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach, ac wedi'i lleoli ar Heol Roseland.

Ar ôl gadael yr ysgol gynradd, mae'r plant naill ai yn mynychu Ysgol Gyfun Gŵyr neu Ysgol Gyfun Tre-Gŵyr.

Crefydd golygu

Yr eglwys Anglicanaidd yn y pentref yw St Barnabas ar Heol Victoria.

Erbyn hyn dim ond 2 gapel, Seion (capel Fedyddwyr) a Sardis (capel yr Annibynwyr Cymraeg) a'r ddau wedi'u lleoli ar Heol Abertawe. Mae Bethany (capel Bedyddwyr Saesneg) ar Heol Bryn bellach wedi cau ac mae'r tir wedi'i werthu.

Mae Eglwys Bedyddwyr Seion yn cwrdd am 10:30 ar fore Sul ar gyfer gwasanaeth dwyieithog ac ysgol Sul. Mae Seion hefyd yn rhedeg clwb plant Cymraeg a grŵp ieuenctid Cymraeg ar ddydd Mercher am 3:20 pm a 5pm.

Cyfeiriadau beiblaidd priodol:

Chwaraeon golygu

  • Rygbi: Ar hyn o bryd mae Clwb Rygbi Waunarlwydd yn chwarae yng Nghynghrair 1 Canolbarth WRU ac mae ganddyn nhw 3 cae chwarae
  • Pêl-droed: Mae gan Waunarlwydd Galaxy dimau hŷn ac iau sy'n cystadlu yng Nghynghrair Hŷn Abertawe yn system cynghrair pêl-droed Cymru ac mae ganddyn nhw 2 gae chwarae
  • Dartiau: mae yna dimau yn y Farmers Arms a'r Masons Arms, ac mae yna dîm anabl sy'n chwarae yn y Masons Arms o dan arweiniad Mark Lyons.
  • Pŵl: dim ond un tîm pŵl sydd yn y pentref sy'n chwarae yn y Masons Arms. Y capten Daniel Penhorwood wedi bod yn “Bencampwr Gŵyr” 6 gwaith a'r chwaraewr gorau yn ystadegol sydd wedi hannu o ardal Y Gŵyr. Ef oedd yr unig berson mewn 20 mlynedd i gyrraedd rowndiau cynderfynol Cynghrair Pŵl Y Gŵyr, ers Syr. Ashley Jones, a record o ennill 78, 0 gêm gyfartal a 3 cholled ers 2012.
  • Arall: cynhelir chwaraeon, dosbarthiadau a bingo dan do amrywiol yn y Ganolfan Gymunedol ar Ffordd Victoria.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 23 Hydref 2021
  3. "298 jobs to go as factory shuts" (yn Saesneg). 2006-11-21. Cyrchwyd 2021-10-12.

Dolenni allanol golygu