Wcreineg Ganadaidd

Tafodiaith Wcreineg a siaredir gan y gymuned Wcreinaidd yng Nghanada yw Wcreineg Ganadaidd (Wcreineg: кана́дсько-украї́нська мо́ва). Datblygodd y dafodiaith o'r Wcreineg fel y'i siaredid yn ne-orllewin yr Wcráin yn niwedd y 19g. Mae ganddi felly mwy o fenthyceiriau o'r ieithoedd Pwyleg, Almaeneg, a Rwmaneg nac o'r Rwseg o'i chymharu ag Wcreineg safonol. Dylanwadir ar Wcreineg Ganadaidd gan ieithoedd eraill Canada, yn enwedig Saesneg. Hon oedd y brif ffurf ar yr iaith Wcreineg yng Nghanada nes ail hanner yr 20g, pan ddaeth mewnfudwyr newydd i'r wlad yn siarad Wcreineg safonol. Er yr oedd ar un adeg yn un o ieithoedd lleiafrifol sefydlocaf Canada, bellach mae methiant gan yr hen do i drosglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth iau, ac mae tafodiaith yr Wcreineg yng Nghanada ar fin marw.[1]

Ukish golygu

Mae hefyd ffurf fwy seisnigedig ar Wcreineg, neu iaith gymysg o Wcreineg a Saesneg, a elwir Ukish. Datblygodd pan ddefnyddiwyd benthyceiriau Saesneg gan y siaradwyr Wcreineg cyntaf yng Nghanada yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g. Dirywiodd y iaith werinol honno yn sgil tonnau newydd o fewnfudwyr dosbarth-canol yng nghanol yr 20g, a oedd yn tueddu i fod yn siaradwyr Wcreineg safonol. Er hynny, mae ieithyddion wedi cydnabod ffurfiau modern ar Ukish a fyddai'n debyg o barhau'n hwy na Wcreineg safonol yng Nghanada.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Khrystyna Hudyma, "Ukrainian language in Canada: From prosperity to extinction?", Working Papers of the Linguistics Circle of the University of Victoria cyfrol 21, rhif 1 (2011), tt. 181–9. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2018.
  2. Danylo H. Struk, "Between Ukish and Oblivion: The Ukrainian language in Canada today" (2000). Adalwyd ar 30 Tachwedd 2018.