Yr iaith Wcreineg yng Nghanada
Daeth yr iaith Wcreineg i Ganada yn sgil ymfudiad Wcreiniaid o Ymerodraeth Rwsia ac Awstria-Hwngari yn niwedd y 19g. Ymsefydlodd y mwyafrif ohonynt yn Nhaleithiau'r Paith (Manitoba, Saskatchewan, ac Alberta) i weithio ar ffermydd. Goroesodd yr Wcreineg yn iaith gymunedol am genhedlaeth neu ddwy, ac yn iaith yr aelwyd gan rai hyd heddiw. Gwasgarodd y boblogaeth Wcreinaidd ar draws Canada yn sgil tonnau o ffoaduriaid o'r Undeb Sofietaidd a mudo mewnwladol gan Ganadiaid o dras Wcreinaidd, a bellach mae nifer ohonynt yn byw yn Ontario, yn enwedig Toronto, a mannau eraill. Er yr oedd ar un adeg yn un o ieithoedd lleiafrifol sefydlocaf Canada, bellach mae methiant gan yr hen do i drosglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth iau, ac mae tafodiaith yr Wcreineg yng Nghanada ar fin marw.[1]
Yn ôl cyfrifiad 2016, mae 1.36 miliwn o Ganadiaid o dras Wcreinaidd a mewnfudwyr i Ganada o'r Wcráin, sydd yn cyfri am 3.8 % o boblogaeth y wlad, er dim ond 110,580 ohonynt sydd yn hawlio'r Wcreineg yn famiaith.
Y dafodiaith Ganadaidd
golygu- Prif: Wcreineg Ganadaidd
Datblygodd dafodiaith Wcreineg Ganadaidd o'r Wcreineg fel y'i siaredid yn ne-orllewin yr Wcráin yn niwedd y 19g. Mae ganddi felly mwy o fenthyceiriau o'r ieithoedd Pwyleg, Almaeneg, a Rwmaneg nac o'r Rwseg o'i chymharu ag Wcreineg safonol. Dylanwadir ar Wcreineg Ganadaidd gan ieithoedd eraill Canada, yn enwedig Saesneg.[1]
Mae hefyd ffurf fwy seisnigedig ar Wcreineg, neu iaith gymysg o Wcreineg a Saesneg, a elwir Ukish. Datblygodd pan ddefnyddiwyd benthyceiriau Saesneg gan y siaradwyr Wcreineg cyntaf yng Nghanada yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g. Dirywiodd y iaith werinol honno yn sgil tonnau newydd o fewnfudwyr dosbarth-canol yng nghanol yr 20g, a oedd yn tueddu i fod yn siaradwyr Wcreineg safonol. Er hynny, mae ieithyddion wedi cydnabod ffurfiau modern ar Ukish a fyddai'n debyg o barhau'n hwy na Wcreineg safonol yng Nghanada.[2]
Addysg
golyguYn 1897, dechreuodd athrawon Wcreinaidd ym Manitoba addysgu plant yn ddwyieithog, drwy gyfrwng y Saesneg a'r Wcreineg. Bodolai ysgolion dwyieithog yn answyddogol yn Saskatchewan hyd at 1918. Cafodd y fath addysg ei gwahardd yn Alberta, ac yn 1916 diddymwyd yr ysgolion dwyieithog ym Manitoba gan i'r awdurdodau credu yr oeddynt yn atal Wcreiniaid rhag cymhathu.[3]
Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, sefydlwyd ysgolion cymuneol i warchod yr iaith Wcreineg a diwylliant cynhenid yr Wcreiniaid yng Nghanada. Mae rhai ohonynt yn parhau hyd heddiw, yn bennaf mewn ardaloedd trefol ac yn Toronto yn enwedig. Yn ail hanner yr 20g, llwyddwyd i ennill cydnabyddiaeth i'r Wcreineg fel iaith i'w hastudio ac iaith cyfrwng addysg mewn ysgolion yn Nhaleithiau'r Paith.[3]
Cynhelir cyrsiau haf yn yr iaith Wcreineg gan Sefydliad Sant Petro Mohyla yn Saskatoon.[4]
Diwylliant
golyguLlenyddiaeth
golyguTrwy gydol hanner cyntaf yr 20g, cyhoeddwyd llu o ryddiaith a barddoniaeth yn yr iaith Wcreineg yng Nghanada. Rhennir hanes llenyddiaeth Wcreineg Canada yn dri chyfnod: 1897–1920, 1920–50, a'r cyfnod ers 1950.[5]
Cerddoriaeth
golyguCenir drwy gyfrwng yr Wcreineg gan Wcreiniaid Canadaidd yn litwrgi yr Eglwys Gatholig Wcreinaidd a'r Eglwys Uniongred Wcreinaidd, ac yn y traddodiad caneuon gwerin.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Khrystyna Hudyma, "Ukrainian language in Canada: From prosperity to extinction?", Working Papers of the Linguistics Circle of the University of Victoria cyfrol 21, rhif 1 (2011), tt. 181–9. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2018.
- ↑ Danylo H. Struk, "Between Ukish and Oblivion: The Ukrainian language in Canada today" (2000). Adalwyd ar 30 Tachwedd 2018.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) "Ukrainian Canadians", The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2018.
- ↑ (Saesneg) "Ukrainian Summer Immersion", Sefydliad Sant Petro Mohyla. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2018.
- ↑ (Saesneg) "Ukrainian Writing", The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2018.
- ↑ (Saesneg) "Ukrainian Music in Canada", The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2018.