Sioe gerdd ydy West Side Story. Ysgrifennwyd y llyfr gan Arthur Laurents a'r gerddoriaeth gan Leonard Bernstein gyda geiriau gan Stephen Sondheim. Mae'r sioe gerdd yn seiliedig ar ddrama William Shakespeare, Romeo and Juliet. Lleolir y sioe gerdd ar Ochr Orllewinol Dinas Efrog Newydd yng nghanol y 1950au ac mae'n ymdrin â'r gwrthdaro rhwng dau griw o arddegwyr o gefndiroedd ethnig a diwylliannol gwahanol. Mae'r prif gymeriad, Tony sy'n aelod o'r giang Americanaidd, yn cwympo mewn cariad gyda Maria, sy'n chwaer i arweinydd y giang o Puerto Rico. Ystyrir y sioe yn drobwynt yn hanes theatr cerddorol Americanaidd yn sgîl eu themâu tywyll, cerddoriaeth soffistigedig, golygfeydd dawns ymestynnol a'r ffocws ar broblemau cymdeithasol. Daeth sgôr Bernstein ar gyfer y sioe gerdd yn boblogaidd iawn; mae'n cynnwys y caneuon "Something's Coming," "Maria," "América," "Somewhere," "Tonight," "Jet Song," "I Feel Pretty," "One Hand, One Heart," a "Cool." Dynododd y cynhyrchiad gwreiddiol ar Broadway ym 1957, a gafodd ei gyfarwyddo a'i goreograffio gan Jerome Robbins a'i gynhyrchu gan Robert E. Griffith a Harold Prince, gynhyrchiad cyntaf Sondheim ar Broadway. Rhedodd y sioe am 732 o berfformiadau, cyn mynd ar daith. Cafodd ei enwebu am Wobr Tony am y Sioe Gerdd Orau yn 1957, ond aeth y wobr i The Music Man gan Meredith Willson. Enillodd Wobr Tony yn 1957 am goreograffeg Robbins. Cafodd y sioe rediad hirach byth yn Llundain, a gwelwyd llwyddiant rhyngwladol, gan arwain at ffilm o'r sioe gerddorol ym 1961. yn aml, perfformir West Side Story gan ysgolion, theatrau lleol ac yn achlysurol, gan gwmnïau opera.

West Side Story
200
Recordiad gwreiddiol y cast
Cerddoriaeth Leonard Bernstein
Geiriau Stephen Sondheim
Llyfr Arthur Laurents
Seiliedig ar Yn seiliedig ar ddrama William Shakepeare

Romeo and Juliet

Cynhyrchiad 1957 Broadway
1958 Adfywiad Broadway
1958 West End
1960 Adfywiad Broadway
1961 Film
1980 Adfywiad Broadway
1997 Taith y DU & Adfywiad West End Llundain
2008 Adfywiad West End Llundain & thaith y DU
2009 Adfywiad Broadway

Cymeriadau golygu

Y Jets

  • Tony, Cyd-sylfaenydd y Jets
  • Riff, Arweinydd y Jets
  • Action, hawdd ei wylltio a'i gyffroi
  • Diesel, y mwyaf garw o'r giang, tal a chyhyrog
  • A-Rab, aelod lluddedig y giang
  • Baby John, y Jet ifancaf, ffrind gorau A-Rab, sensitif iawn
  • Big Deal, treulio llawer o'i amser gyda Diesel
  • Snowboy, cwl, tawel, hunan-feddiannol
  • Gee-Tar
  • Tiger
  • Mouth Piece

Eu Merched

  • Velma,
  • Graziella
  • Anybodys, tomboi sydd eisiau bod yn Jet
  • Minnie
  • Clarice
  • Pauline

Y Sharks

  • Bernardo, Arweinydd y Sharks
  • Chino, ifanc a swil, mae'n lladd Tony
  • Pepe, cyfaill Bernardos a chariad Consuela
  • Indio
  • Luis
  • Anxious
  • Toro
  • Nibbles
  • Moose
  • Juano

Eu Merched

  • Maria, chwaer Bernardo, syrthia mewn cariad â Tony [PRIF FENYW]
  • Anita, Merch Bernardo
  • Consuela, Un o ferched y Shark girl gyda gwallt golau wedi'i liwio
  • Rosalia, y Breuddwydiwr sy'n dyheu i ddychwelyd i Puerto Rico
  • Estella
  • Margurita
  • Francisca

Yr Oedolion

  • Officer Krupke, heddwas yn y dref
  • Doc, perchennog fferyllfa
  • Lt. Schrank, Is-gapten y dref
  • Glad Hand, y tywysydd yn y ddawns