Wicipedia:Ail enwi neu symud tudalen
Mae'r dudalen hon yn ganllaw ar sut mae gwneud rhywbeth sy'n manylu arfer neu broses y Wicipedia Cymraeg. |
Gellir symud tudalennau i deitl newydd os yw'r un blaenorol:
- yn wallus,
- yn anghyflawn,
- yn gamarweiniol,
neu amryw o resymau eraill megis bod:
- enw mwy cyfarwydd ar y pwnc i gael
- yr erthygl wedi dechrau fel is-dudalen a'i bod nawr yn barod i fynd yn "fyw."
Pan ail-enwir tudalen, atodir hanes y dudalen i'r enw newydd, ac ailgyfeirir y teitl blaenorol yn awtomatig i'r enw newydd (mae gan fotiau a gweinyddwyr yr opsiwn o atal yr ailgyfeiriad). Dim ond defnyddwyr awto-gadarnhau sydd â'r gallu i symud tudalen oherwydd fandaliaeth barhaus ar ffurf symud tudalennau. Os nad oes cyfrif gennych neu os nad ydy'ch cyfrif wedi ei gadarnhau eto, gallwch holi i rywun arall symud tudalen yma.
Pan symudir tudalen sydd ym mharth y ffeiliau (h.y., cyfryngau), symudir y ffeil perthnasol hefyd. Dim ond y gweinyddwyr sydd â'r gallu i wneud hyn. Ni ellir symud tudalennau ym mharth y categorïau.
Rhesymau dros symud tudalen
golyguCeir llawer o resymau dros symud tudalen:
- Camsillafwyd y teitl, nid yw'n cynnwys atalnodi neu briflythrennu safonol, neu mae'n gamarweiniol neu'n wallus.
- Nid yw'r teitl yn dilyn confensiynau enwi Wicipedia, nid yr enw mwyaf cyfarwydd am y pwnc sydd arno neu mae'n or-drachywir.
- Mae angen gwahaniaethu rhwng dwy erthygl ag enwau tebyg arnynt.
- Lleihawyd yr erthygl, fe'i hymestynnwyd neu fe newidiwyd ei chwmpas, felly mae angen newid yr enw disgrifiadol arni i gyfateb â'r newid iddi.
- Crëwyd yr erthygl fel is-dudalen yn gyntaf er mwyn ei datblygu, ond bellach mae'n barod i fynd yn fyw.
- Mae'n dudalen sgwrs ac mae ei thrafodaethau yn barod i'w harchifo.