Wicipedia:Y Caffi
Croeso i'r Caffi Dyma'r lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol
|

![]() Cwestiynau Cyffredin |
![]() Y Ddesg Gyfeirio |
![]() Cymorth iaith |
![]() Negesfwrdd gweinyddiaeth |
![]() Sgyrsiau cyfoes |
![]() Archifau'r Caffi |
![]() |
Ein polisi Wicipedia:Arddull
golyguGan ddilyn y ffasiwn ddiweddaraf gan hanesyddion ee John Davies (Hanes Cymru) a'r BBC, dw i wedi symud y Cymreigiad artiffisial 'Siarl' i'r 'Charles' brodorol gw. Charles III, brenin y Deyrnas Unedig. Mae cyfieithu 'William' i 'Nedw' yn hurt ac i 'Wiliam' yn ddiangen, ac mae defnyddio'r enw brodorol yn llawer mwy cywir o ran y cyfeiriadau. Carwn gynnig fod hyn yn troi'n bolisi. Hefyd, unwaith eto, gan ddilyn esiampl J.D., dylid cyfeirio at aelodau brenhinol pob gwlad gyda'r ardal maent yn argwyddiaethu arno ac nid eu teitl gwleidyddol ee 'Edward II, brenin Lloegr' neu 'Edward II' yn hytrach nag 'Edward II, Tywysog Cymru' ayb, ac yng nghorff yr erthygl, awgrymir defnyddir yr enw cyntaf 'Edward', fel a wneir ar bob Wici-iaith arall, gan gynnwys y Saesneg. Yn ddiweddar cafwyd un golygydd a ddaeth atom o en-wici a geisiai ychwanegu 'Tywysog Cymru' drwy'r erthygl gyfan, yn gwbwl ddiangen. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:19, 30 Awst 2024 (UTC)
- Rwy wedi meddwl bod angen gwneud hyn ers sbel fawr, ond ddim yn gwybod hanes y penderfyniad gwreiddiol. Oes yna le addas i ni gofnodi polisi/confensiwn fel hyn? Dafyddt (sgwrs) 23:36, 31 Awst 2024 (UTC)
- Anghytuno bod enwau Brenhinoedd Lloegr fel Iorweth I, Gwilym y Fastard, Harri VIII, Bess yn ffals. Maent yn britho hen lyfrau a chaniadau Cymru. Mantais lle ar y we yw y gallu i greu doleni rhwng y wahanol deitlau, pa bynag un yw prif benawd erthygl. Pwy sy'n chwilio Wicipedia am Ellis Humphrey Evans, Albert Jones nu Henry VIII? AlwynapHuw (sgwrs) 04:53, 1 Medi 2024 (UTC)
- Da byddai polisi gyda rhagor o enghreifftiau i gael deall y rhesymeg yn well - onid "Guillaume" oedd enw brodorol Gwilym y Concwerwr yn hytrach na Wil(l)iam? Cytuno efo pwynt @AlwynapHuw wedyn, mae digon o le yma ac er bod defnyddio e.e. Charles yn y teitl ac yn gyson o fewn yr erthygl yn ddigon rhesymol, lle mae ffurfiau eraill yn cael eu defnyddio, neu wedi cael eu defnyddio yn Gymraeg (neu enwau brodorol eraill lle maen nhw'n teyrnasu dros sawl gwlad), byddai cynnwys yr enwau hynny'n glir yn cyfoethogi'r erthygl, e.e. Charles III (Cymreigiad: Siarl, Llys-enw: Carlo, Māori: Tiāre te Tuatoru) Llygad Ebrill (sgwrs) 06:46, 2 Medi 2024 (UTC)
- Y dull symlaf i ni ei fabwysiadu, efallai, fyddai defnyddio'r un sillafiad ag a ddefnyddia John Davies, Bwlchllan, yn ei gyfrol Hanes Cymru. Fel hyn, byddai gennym bolisi cyson gan y meistr ei hun. Dydy JD ddim yn defnyddio'r sillafiad Saesneg yn slafaidd, os yw'r enw Cymraeg wedi'i fabwysiadu yn y cyfnod hwnnw. Felly, Harri VII sydd ganddo, nid Harry VII, ac wrth gwrs mae gennym yr ailgyfeiriad i ychwanegu faint fynom o lysenwau, enwau ffurfiol, barddol, cyffredin a ballu. Efallai mai'r ffordd orau i nodi sillafiad JD fyddai i mi restru enwau'r brenhinwyr sydd a fesiwn Gymraeg yn Hanes Cymru, lleied sydd. Yn ddiddorol iawn, mae'n defnyddio Gwilym 1 a Gwilym II (gan mai dyma'r enwau Cymraeg y dydd ar y ddau yma), ond William III (gan mai fel hyn y'i gelwid yntau yn ei gyfnod gan y Cymru).
-
- Yr unig enwau Cymraeg eraill yn y gyfrol Hanes Cymru yw: Catrin (Ymerodres Rwsia); Ceredic, brenin Elfed, Elinor o Gastîl; Harri I - VIII, brenhinoedd Lloegr; Harri o Drefynwy; Iwl Cesar; Mari I a II, breninesau Lloegr; Mari, brenhines yr Alban ac Oswy, brenin Northumbria.
-
- Sillafiad Saesneg / gwreiddiol sydd i'r gweddill, gan gynnwys: Augustus, Ymerawdwr Rhufain; 'Bonnie Prince Charlie'; Isabella de Breos; Catherine (gwraig Owain Tudur); Charles VI, brenin Ffrainc; Charles I, II a III, breninoedd Lloegr; David I, brenin yr Alban; Elizabeth I, brenhines Lloegr; George I - III, brenhinoedd Lloegr; Edward I-VIII, brenin Lloegr; Henry, tywysog Cymru (mab James I); James I a II, brenhinoedd Lloegr; John, brenin Lloegr; Louis VII ayb, brenin Ffrainc, Richard i - III, brenhinoedd Lloegr; Stephen, brenin Lloegr a William I, II a III, brenhinoedd Lloegr [cynsail i ddefnyddio'r sillafiad Saesneg i'r tywysog William sy'n fyw heddiw].
-
- Y telu brenhinol, presennol: carwn gynnig ein bod yn dilyn patrwm JD (a'r sillafiad yn ein cylchgronau, llyfrau...) sef y fersiwn Saesneg: Harry, Charles, William a ballu, gan gyfeirio at yr enw llys/swyddogol/llawn unwaith yn unig ar frig y dudalen fel y nodir gan Defnyddiwr:Llygadebrill, uchod. O dderbyn hyn, neu amrywiad ar hyn, byddai'r polisi yma'n cael ei ychwanegu i'r fan priodol yn: Wicipedia:Arddull. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:37, 2 Medi 2024 (UTC)
- O wario gormod o amser efo hen lyfrau, mae'n ymddangos i mi fod yr arfer o gyfieithu enwau teyrnoedd Lloegr (a gweddill y byd) i'r Gymraeg yn dod i ben ym 1901 ar ôl farwolaeth Victoria / Fictoria / Buddug (gyda'r eithriad o "Garlo" am resymau gwleidyddol cyfnod, a "Charlo yw ei enw EF" nid enw ei gyndeidiau Siarl I a II). Mae'n debyg bod digon o enghreifftiau o ddefnydd cyfieithiad a sillafiad amgen Cymraeg ar Wicidestun am bob un o'r diawliaid. Y peth pwysig yw bod unrhyw drefn yn cynnwys dolen i, a chyfeiriadau at yr enwau amgen. Wedi pennu rheol, mi af ati i sicrhau bod dolenni, ailgyfeiriadau a chyfeiriadau ar gael o drawsgrifiadau Wicidestun. Dyna pam fod Wicidestun yn bod! AlwynapHuw (sgwrs) 02:38, 5 Medi 2024 (UTC)
- Y telu brenhinol, presennol: carwn gynnig ein bod yn dilyn patrwm JD (a'r sillafiad yn ein cylchgronau, llyfrau...) sef y fersiwn Saesneg: Harry, Charles, William a ballu, gan gyfeirio at yr enw llys/swyddogol/llawn unwaith yn unig ar frig y dudalen fel y nodir gan Defnyddiwr:Llygadebrill, uchod. O dderbyn hyn, neu amrywiad ar hyn, byddai'r polisi yma'n cael ei ychwanegu i'r fan priodol yn: Wicipedia:Arddull. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:37, 2 Medi 2024 (UTC)
-
- Byddai hynny'n wych. Rho restr o bethau i ni ei wneud, i'th helpu. Defnyddio rhestr JD? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:31, 6 Medi 2024 (UTC)
- ie, dilyn cynsail John Davies. Mae'n gyfarwydd i bobl sy'n darllen Cymraeg ac yn resymegol. Stefanik (sgwrs) 14:09, 13 Medi 2024 (UTC)
- Diolch Stefanik. Gan nad oes neb yn gwrthwynebu defnyddio sillafiad John Davies, mi af ati i ychwanegu hyn i'n polisi ar arddull, yn y man. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:10, 27 Medi 2024 (UTC)
- ie, dilyn cynsail John Davies. Mae'n gyfarwydd i bobl sy'n darllen Cymraeg ac yn resymegol. Stefanik (sgwrs) 14:09, 13 Medi 2024 (UTC)
- Byddai hynny'n wych. Rho restr o bethau i ni ei wneud, i'th helpu. Defnyddio rhestr JD? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:31, 6 Medi 2024 (UTC)
Diweddarwyd y Polisi Arddull i adlewyrchu'r trafodaethau yma. Diolch i bawb. Llywelyn2000 (sgwrs) 14:13, 22 Tachwedd 2024 (UTC)
- Doeddwn i ddim yn gwybod am y penderfyniad hwn. Rwy'n meddwl ei fod yn anghywir. Os oes enw Cymraeg, dylen ni ei ddefnyddio. Deb (sgwrs) 13:23, 11 Mawrth 2025 (UTC)
- Haia Deb. Mae Dr John Davies (Hanes Cymru...) yn cymeryd hyn i ystyriaeth: Dydy JD ddim yn defnyddio'r sillafiad Saesneg yn slafaidd, os yw'r enw Cymraeg wedi'i fabwysiadu yn y cyfnod hwnnw... fel y soniais uchod. Heb i ni dderbyn un templad, un canllaw cadarn, fel hyn, mae'r enwau'n mynd yn ffradach, i bobman. A pha demplad gwell i'w ddilyn na J.D.? Cofia hefyd y gallwn barhau i roi'r enw amgen / iaith arall fel ailgyfeiriad. Cofion cynnes! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:49, 17 Ebrill 2025 (UTC)
Coup d'Etat - newid?
golyguEich barn gyfeillion. Dwi wedi sgwennu cofnod ar Coup d'État, ond wrth ddolennu ar WikiData gweld bod ffilm o'r un enw wedi ei gofnodi ganddom. Felly, mae'r cofnod ar y weithred o Coup d'État (https://cy.wikipedia.org/wiki/Coup_d%27%C3%A9tat_(gwleidyddiaeth)) efo'r cromfach (gwleidyddiaeth) ar ei ôl. A fyddai'n gwneud synnwyr i newid y ffilm CdE gyda cronfach (ffilm) wrth ei enw, a bod y weithred CdE heb gromfach. Beth yw'ch barn? Jyst meddwl bod y term yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio na'r ffilm.Stefanik (sgwrs) 09:08, 6 Medi 2024 (UTC)
- Gadewch ef i mi. ... Craigysgafn (sgwrs) 09:02, 6 Medi 2024 (UTC)
- ... Rwy'n meddwl bod yr holl ddolenni'n gweithio'n gywir nawr. Rwyf hefyd wedi cysylltu llu o gyfeiriadau at coups d'état ar dudalennau eraill i'th erthygl newydd. --Craigysgafn (sgwrs) 20:32, 6 Medi 2024 (UTC)
- gwych! Diolch o galon! Stefanik (sgwrs) 15:27, 11 Medi 2024 (UTC)
Problem arall gydag erthyglau ffilmiau bot
golyguDw i newydd sbotio nifer o erthyglau sydd yn amlwg gyda'r teitl anghywir:
- Blau ist eine warme Farbe (ffilm, 2013)
- Liebe ist das perfekte Verbrechen
- Begegnungen nach Mitternacht
Ac yn y blaen. Ffrangeg yw iaith wreiddiol y ffilmiau yma, felly does dim rheswm i ddefnyddio cyfieithiad Almaeneg fel teitl yr erthygl, ond dyna mae'r bot wedi ei wneud! Bydd angen i fod dynol gywiro hyn dw i'n cymryd, ond mae'n anodd gwybod lle i ddechrau wrth geisio ffeindio'r teitlau Almaeneg a Saesneg sy'n cuddio ymysg 7,045 o ffilmiau Ffrangeg (a dw i'n amau bod yr un broblem wedi codi gyda ffilmiau mewn ieithoedd eraill). Llygad Ebrill (sgwrs) 23:40, 13 Medi 2024 (UTC)
- Ie'n wir! Rwy'n credu bod hyn wedi digwydd oherwydd y set ddata roedd y bot yn ei defnyddio. Mwy llechwraidd yw'r duedd i gronfeydd data ddefnyddio teitlau Saesneg ar gyfer ffilmiau Ewropeaidd. Rwyf wedi bod yn cywiro pethau o'r math hwn fesul tipyn ers amser maith. Rwy'n amau'n fawr a oes modd gwneud y cywiriadau hyn yn awtomatig, neu hyd yn oed a allai'r bot fod wedi gweld y broblem yn y lle cyntaf. Felly mae'n debyg bod yn rhaid i ni gadw llygaid ar agor am y broblem hon. Craigysgafn (sgwrs) 06:49, 14 Medi 2024 (UTC)
- Fy mai i, dw i'n siwr. Mi af drwy'r set ddata wreiddiol i weld a oes patrwm. A diolch am eich amynedd, ill dau! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:08, 5 Hydref 2024 (UTC)
- Diolch! Ro'n i wedi dechrau mynd trwy'r rhai "Ffrangeg" yn nhrefn yr wyddor ac wedi cyrraedd "G" - wna i adael y dasg honno am y tro, gan obeithio bydd ffordd o gyflymu'r gwaith. Mae tipyn un ai ef teitl y fersiwn Almaeneg, neu gyfieithiad otomatig i'r Gymraeg (o'r teitl Saesneg) yn lle teitl gwreiddiol yn Ffrangeg. Rhai o'r rheini - lleiafrif - yn gopïau dyblyg, gydag erthygl eisoes yn bodoli efo'r teitl gwreiddiol. Ambell achos mwy cymhleth lle mae'r ffilm mewn sawl categori iaith, neu hyd yn oed yn y categori iaith anghywir - fel arfer mae'r wybodaeth i'w gael ar IMDB. Llygad Ebrill (sgwrs) 14:07, 17 Hydref 2024 (UTC)
- Fy mai i, dw i'n siwr. Mi af drwy'r set ddata wreiddiol i weld a oes patrwm. A diolch am eich amynedd, ill dau! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:08, 5 Hydref 2024 (UTC)
Mae angen dat-gyfieithu'r holl deitlau "Cymraeg" yn https://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Ffilmiau_Hindi hefyd. Dw i newydd symud Tafarn Nirvana ac Amdavad Ma Enwog, a dileu Akela yr Unig, ond mae cannoedd o'r pethau! Mae angen i'r botiau lanhau ar eu holau! --Llygad Ebrill (sgwrs) 23:24, 27 Tachwedd 2024 (UTC)
A'r rhain https://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Ffilmiau_Tsieineeg_Mandarin - dwsinau o rai dwl fel "Byddwch Yno Neu Byddwch Sgwâr" ond yn bersonol dw i ddim yn ymddiried yn unrhyw un o'r teitlau Cymraeg yn y categorïau yma heb ymchwilio ar IMDB neu rywle arall. --Llygad Ebrill (sgwrs) 18:20, 24 Ionawr 2025 (UTC)
Ac mae 350 "ffilm du" https://cy.wikipedia.org/w/index.php?search=%22ffilm+du%22&title=Arbennig:Search&profile=advanced&fulltext=1&ns0=1&ns1=1&ns2=1&ns3=1&ns4=1&ns5=1&ns6=1&ns7=1&ns8=1&ns9=1&ns10=1&ns11=1&ns14=1&ns15=1 er mai "ffilm ddu" fyddai'n gywir--Llygad Ebrill (sgwrs) 22:01, 6 Chwefror 2025 (UTC)
- Fel y dywedais uchod, diolch am eich amynedd. Fy mlaenoriaeth ydy tudalenau poblogaidd, sy'n cael eu gweld yn aml ee 2024; byddaf mewn sefyllfa i droi at ffilmiau yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn fyr:
- 1. 'Mae angen dat-gyfieithu'r holl deitlau "Cymraeg"' - i wneud hyn, bydd yn rhaid canfod y gronfa ddata wreiddiol. Mi wnaf hynny.
- 2. Rwyt yn galw'r teitl Byddwch Yno Neu Byddwch Sgwâr yn ddwl. Pawb a'i farn. Ond dyma iaith sy'n ffyrnigo golygyddion; bydd yn ofalus os gweli di'n dda. Roedd sawl dewis: defnyddio'r ffont Fandarin wreiddiol, defnyddio'r Fandarin wreiddiol mewn llythrennau Rhufeinig, defnyddio'r teitl Saesneg swyddogol neu ddefnyddio'r Gymraeg gydag addasiad o unrhyw un o'r uchod. Aethpwyd am y trydydd, ar ol trafodaeth yn y Caffi. Be There or Be Square fyddai darllenwr Cymraeg yn ei ddarllen yn Netflix ac Amazon Prime, dyma fydden nhw'n ei gofio a byddai 不见不散 yn golygu dim. Edrych ar y Tsieinieg: Welai di Yno yw'r teitl. Yn Pinyineg: Bore Da! yw'r teitl. Pe cyfieithid y ffilm i'r Gymraeg, efallai mai Y Fuwch a'r Afr fyddai'r teitl - does dim rhaid wrth gyfieithiad llythrennol, air am air. Mi faswn i'n dweud fod cyfieithu i'r Gymraeg o fersiwn Saesneg hefyd yn dderbyniol, gan mai'r fersiwn Saesneg mae gwylwyr yng Nghymru'n ei wylio, yn ei gofio ac yn chwilio amdano, ac nid gyda ffontiau annelwig nad ydyn nhw'n ei ddeall.
- 3. 'Film noir' - mi allaf newid 'ffim du' i'r term rhyngwladol amlieithog 'film noir' yn rhwydd, efo bot. Gellir newid i'r 'ffilm ddu', rwyt yn ei awgrymu. Mae 'ffilm ddu' i mi ymhell y tu hwnt i sgwrs naturiol Gymraeg, yn annaturiol, yn ramadegol glinigaidd, yn rhywbeth na fyddet yn ei glywed ar strydoedd Caernarfon, ac yn dilyn ffasiwn 'Dafydd Du', wrth gwrs! Genre ydy film noir, yn te, ac mae'r term Ffrangeg yn gwbwl dderbyniol. Mi gychwyna i newid y rhain.
- Diolch eto am godi'r rhain; rho wybod os gweli ragor. Tydyn nhw ddim yn flaenoriaeth gen i, fel dw i'n dweud: os edrychi ar y stats, fe weli'n aml fod nifer yr ymweliaidau'n isel iawn (Botwm chwith 'Gwybodaeth am y dudalen', yna 'Nifer y gwylwyr tudalennau a ymwelodd yn ystod y 30 diwrnodau diwethaf'. Gan amlaf, 0 yw'r ateb. Efallai mai'r flaenoriaeth yw ffilmiau Netflix / Amazon Prime cyfoes sydd ag isdeitlau Saesneg - y rhain fydd yn cael eu gwylio yng Nghymru. Ac am erthyglau ar y rhain y bydd gwylwyr yn chwilio am wybodaeth Cymreag. Rhestr o ffilmiau yn ol poblogrwydd yng Nghymru fyddai'n dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:57, 7 Chwefror 2025 (UTC)
- Diolch yn fawr am hyn - does dim brys wrth gwrs! Ond da fyddai cael pethau fel hyn yn iawn yn y pen draw, gan fod erthyglau fel hyn bellach yn rhan fawr o'r "corpws" o destun Cymraeg mae wicipedia yn ei gynnig i bobl a robotiaid fel ei gilydd.
- Cytuno'n llwyr bod film noir yn rhagori ar "ffilm ddu".
- Ymddiheuriadau am ddewis fy ngeiriau'n annoeth. Yr hyn ddylwn wedi ei ddweud, efallai, yw bod angen dat-gyfieithu'r teitlau yma yn fy marn i a bod blas cyfieithu peirianyddol ar bethau fel "Byddwch Yno Neu Byddwch Sgwâr" - dyna sut maen nhw'n taro fy nghlust i beth bynnag. Fy marn personol i yw nad oes lle i gyfieithiadau o'r fath ar wicipedia heb eu gwirio'n ofalus fesul un - yn sicr dim yn nheitl yr erthygl - rhywbeth i'w drafod ymhellach wrth ystyried prosiectau bas data yn y dyfodol efallai.
- Diolch eto am yr holl waith! Llygad Ebrill (sgwrs) 12:26, 7 Chwefror 2025 (UTC)
- Newydd gychwyn cywiro film noir ee Berlin Express. Mi gymrith ryw 24 awr i'r bot weithio drwy 140,000+ o erthyglau. Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:20, 8 Chwefror 2025 (UTC)
Dathliad Cymunedol Wikimedia UK 2024
golyguHelo bawb, Arbed y dyddiad yn eich calendr! Ar Ddydd Sadwrn 23 Tachwedd, 11am - 1pm, bydd WMUK yn cynnal Dathliad Cymunedol Wikimedia UK 2024. Rydym yn anelu at y digwyddiad ar-lein hwn i fod yn ddathliad o'r hyn y mae ein cymuned wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac yn gyfle i arddangos rhywfaint o'r gwaith anhygoel ar brosiectau Wiki sydd wedi bod yn digwydd ledled y DU.
Yn y digwyddiad, hoffem arddangos gwaith y mae aelodau'r gymuned wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar trwy gyfres o sgyrsiau mellt. Byddem yn wirioneddol hoffi clywed am yr hyn nad ydym ni, neu aelodau eraill o’r gymuned efallai wedi clywed amdano. Mae'n aml fod llawer iawn o waith yn cael ei wneud gan Wicimediwr nad yw eraill yn ei weld. Felly dyma wahoddiad i rannu’r hyn rydych wedi bod yn ei wneud mewn cyflwyniad byr o 5 munud neu lai.
Ydych chi wedi gwneud rhywbeth diddorol gyda set ddata ar Wikidata? Efallai bod chi wedi llwyddo i ddod o hyd i ffynhonnell o'r diwedd i drwsio'r erthygl yna rydych chi wedi bod yn sbïo arni am y ddau fis diwethaf? A wnaeth eich gwaith ar erthygl Wicipedia arwain at ddarganfod stori ddiddorol iawn? A wnaethoch chi lwyddo i gael delwedd â thrwydded agored sydd wedi trawsnewid erthygl? …ac yn hollbwysig, a hoffech chi rannu eich stori? Defnyddiwr:Rupal Karia WMUK
Wicipedia a Wicidestun
golyguRwyf newydd osod Tri Wyr o Sodom a'r Aipht ar Wicidestun, oherwydd bod y testun yn cael ei grybwyll yn yr erthygl wych am Y nofel Gymraeg. Rwy'n gobeithio ategu trawsgrifiadau o bob llyfr arall, sydd o fewn fy ngafael, i gefnogi'r erthygl. Nid prosiect ar wahân i Wicipedia yw Wicidestun, ond chwarel ffynonellau i erthyglau. One liner yw erthygl Ebenezer Richard ar hyn o bryd, mae llyfr a ddau erthygl amdano ar gael yn [[s:Categori:Ebenezer Richard|Categori:Ebenezer Richard]], cyfoeth i wella'r erthygl! Oni bai bod erthyglau Wicidestun yn cael eu defnyddio i greu a gwella erthyglau Wicipedia, gwe pry cop mewn ystafell wag ydynt. Da chwi olygyddion, defnyddiwch hwy! AlwynapHuw (sgwrs) 03:17, 28 Medi 2024 (UTC)
- Diolch Alwyn am dy holl waith diflino, a'th ddyfalbarhad. Duda mod i'n defnyddio gwybodaeth o'r dudalen hon, yna sut mae cyfeirio at y ffynhonnell yma? Mi faswn yn disgwyl botwm bach (fel sydd gan y Bywgraffiadur ar eu safle nhw); neu ddefnyddio'r cyfeiriad llawn at y dudalen?
- Mae'r hyn sydd ar Wicidestun yn sail gadarn i erthyglau Wicipedia, ac efallai fod angen tudalen syml yn dangos sut i ddefnyddio'r testun cyfoethog yma a sut i gyfeirio at y ffynhonnell. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:04, 5 Hydref 2024 (UTC)
- Ffordd cymleth: defnyddio y nodyn cyfeirio at lyfr <ref>{{Cite book|title=Bywyd y Parch. Ebenezer Richard|last=Richard|first=Henry|publisher=W. Clowes a'i feibion|year=1839|location=Llundain|pages=28|last2=Richard|first2=Edward|chapter=[[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III ar Wicidestun]]}}</ref>
::
Ffordd syml - defnyddio dolen fewnol Wici gan ddefnyddio s: ar ei ddechrau i ddynodi source <ref>[[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III]]</ref> [[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III]]Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III (at y tudalen wedi ei drawsysgrifio) neu [[s:Tudalen:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard.djvu/39|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III tud 28 ]] Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III tud 28 (i'r tudalen indecs). Noder mai 39 yw rhif y tudalen indecs ar Wicidestun a 28 y rif tudalen y llyfr — sef yr hyn sydd ei angen mewn cyfeirnod - AlwynapHuw (sgwrs) 20:12, 5 Hydref 2024 (UTC)
- Wel, mae hwnna'n newydd i mi! <ref>[[s:Bywyd... Byddai copio a gludo'r dull syml yma yn yr adran Cymorth yn beth da. Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:53, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Angen tudalen cymorth ar bob un o'r prif brosiectau Wici Cymraeg, gan fod yr un drefn yn gweithio ar bob un ohonynt. Dyma fraslun o'r drefn:
- Dolen fewnol yn yr un prosiect— [[ ]] . . . [[Owen Morgan Edwards]] Owen Morgan Edwards
- Dolen rhyng-brosiect i Wicipedia —[[w:]]: . . .[[w:Llywelyn ap Gruffudd Fychan]] w:Llywelyn ap Gruffudd Fychan
- Dolen rhyng-brosiect i Widestun—[[s:]]: . . .[[s:Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew/Pennod I]] s:Yr Efengyl yn ôl Sant Matthew/Pennod I
- Dolen rhyng-brosiect i Wiciddyfynu—[[q:]] . . . [[q:William Jones (nofel)]] q:William Jones (nofel)
- Dolen rhyng-brosiect i Wiciadur—[[wikt:]] . . . [[wikt:Ymerodraeth Otomanaidd]] wikt:Ymerodraeth Otomanaidd
- I Wicidata—[[d:]] . . .[[d:Glyn Nant-y-glo]] [[d:Q70568087]] d:Glyn Nant-y-glo d:Q70568087
- I Comin—[[c:]] . . . [[c:Category:Amlwch]] c:Category:Amlwch
- Saesneg yw iaith Comin ond gellir defnyddio | i roi testun Cymraeg amgen [[c:Category:Barmouth|Categori:Abermaw]] Categori:Abermaw
- Dolenni i gofnodion Wici mewn ieithoedd eraill [[cod prosiect:cod iaith:]]
- [[w:en:Universal Postal Union]] w:en:Universal Postal Union
- [[q:it:Barack Obama]] q:it:Barack Obama
- [[s:br:Geotenn ar Werc’hez]] s:br:Geotenn ar Werc’hez
- Gan fod William Jones (nofel); William Jones (nofel) a William Jones (nofel) i gyd yn ymddangos yr un fath, hwyrach bod angen rheol neu arferiad i wahaniaethu rhyngddynt ee William Jones (nofel) ar Wicidestun
- Gweler w:en:Help:Interwiki linking am ragor o wybodaeth AlwynapHuw (sgwrs) 19:06, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Angen tudalen cymorth ar bob un o'r prif brosiectau Wici Cymraeg, gan fod yr un drefn yn gweithio ar bob un ohonynt. Dyma fraslun o'r drefn:
- Wel, mae hwnna'n newydd i mi! <ref>[[s:Bywyd... Byddai copio a gludo'r dull syml yma yn yr adran Cymorth yn beth da. Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:53, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Ffordd cymleth: defnyddio y nodyn cyfeirio at lyfr <ref>{{Cite book|title=Bywyd y Parch. Ebenezer Richard|last=Richard|first=Henry|publisher=W. Clowes a'i feibion|year=1839|location=Llundain|pages=28|last2=Richard|first2=Edward|chapter=[[s:Bywyd y Parch. Ebenezer Richard/Pen III|Bywyd y Parch. Ebenezer Richard Pen III ar Wicidestun]]}}</ref>
::
- Diolch am dy sylwad ar "Y Nofel Gymraeg" Alwyn :) Figaro (sgwrs) 20:59, 9 Hydref 2024 (UTC)
- @AlwynapHuw:Yn fy marn i byddai'n well, yn hytrach na rhoi dolenni i'r tudallenau Wicidestun ar yr erthygl, creu erthyglau newydd ar gyfer y testunau, wedyn rhoi dolen i Wicidestun o fana. O ddarllen erthygl mae rhywun yn disgwyl i'r in-text citations", y cyfeiriadau hynny yw, gefnogi'r datganiadau a wneir; yn hytrach na bod yn ddolenni at rywbeth gwahanol. Figaro (sgwrs) 13:01, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Dim yn sicr be wyt ti'n golygu wrth "greu erthyglau newydd ar gyfer y testunau". Copi o'r llyfr sy'n cael ei drafod yn yr erthygl William Jones (nofel) yw'r testun ar Wicidestun. Sefydliad Wikimedia sydd wedi creu'r modd o ddolenni mewnol uchod rhwng y gwahanol brosiectau, gan eu bod yn credu bod defnydd iddynt, am wn i. Mae modd eu defnyddio fel dolenni mewn brawddeg heb beri dryswch ee "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones; (trawsgrifiad ar gael ar Wicidestun)," neu fel cyfeirnod "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones
- <ref.>Trawsgrifiad o William Jones ar Wicidestun</ref.> AlwynapHuw (sgwrs) 18:09, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Baswn i'n disgwyl i'r cyfeiriad ar ddiwedd y frawddeg "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones" fod at waith ysgolheigaidd (neu ffynhonnell arall) yn cefnogi'r datganiad mai WJ yw un o'i weithiau mwyaf poblogaidd - nid yn gyfeiriad at destun y llyfr, nad yw'n cefnogi'r datganiad y naill ffordd neu'r llall. Figaro (sgwrs) 22:20, 12 Hydref 2024 (UTC)
- Nid ddatganiad o ffaith, na dyfyniad o'r erthygl yw "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones". Brawddeg ddychmygol ydyw, peg dillad ar gyfer creu enghraifft o sut i ddefnyddio rhan o gystrawen fewnol Wici fel dolen neu gyfeirnod i wybodaeth ar ran arall o'r Wici Cymraeg. AlwynapHuw (sgwrs) 23:29, 12 Hydref 2024 (UTC)
- Ie ond fy mhwynt yw y baswn i'n disgwyl i bob gyfeiriad fod at ffynhonell i gefnogi'r hyn mae'r frawddeg dan sylw newydd ei ddatgan. Figaro (sgwrs) 21:43, 13 Hydref 2024 (UTC)
- Pe bai hwn yn edefyn am rinweddau T Rowland Hughes fel llenor, mi fyddai gen ti bwynt, ond tydi o ddim, mae'n edefyn am ddefnyddio a chysylltu rhwng y gwahanol ganghennau o Wici. Mae William Jones, boed yma, ar Wiciddyfynu, Wicidestun, Comin, Wiciddata ac ati ddim yn berthnasol. Yr hyn sydd yn berthnasol yw bod y gystrawen dolennu enghreifftiol (pwnc yr edefyn) yn berffaith gywir. Pe bawn wedi dweud Ganwyd Lloyd George yng Nghaerdydd<ref>[[s:Drych yr Amseroedd]]</ref>, mi fyddwn yn 100% cywir o ran rhoi enghraifft o sut i ddefnyddio'r gystrawen dolen fewnol. AlwynapHuw (sgwrs) 00:50, 14 Hydref 2024 (UTC)
- Yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud yw na ddylir defnyddio cyfeirnodau o fewn tesun i roi gwybod i'r darllenydd bod rhywbeth ar gael ar wicidestun (er enghraifft, fel rydych chi wedi gwneud yn yr erthygl ar y Nofel Gymraeg yn achos y Bardd Cwsg a Tri Wyr o Sodom). Nid dyna beth mae cyfeirnodau i fod i'w wneud. Pwrpas cyfeirnod yw cynnig ffynhonell i gefnogi datganiad. Figaro (sgwrs) 08:47, 14 Hydref 2024 (UTC)
- Os felly mae dy farn di a barn Sefydliad Wici rhyngwladol yn wahanol, ac yn wir byddai y rhan fwyaf o sefydliadau academaidd yn anghytuno efo ti hefyd.
Os wyt ti'n sôn am lyfr, dylid rhoi gwybodaeth ddigonol i alluogi dy ddarllenydd caffael ar y llyfr i'w darllen ei hun.
Mae cyfeiriad at gopi ar Wicidestun, Google Books, Internet Archive ac ati yn frith ym mhob iaith.
Rwy't yn sôn yn dy erthygl Y nofel Gymraeg am "Llyfr y Tri Aderyn (1653) gan Morgan Llwyd a Gweledigaethau y Bardd Cwsc (1703) gan Ellis Wynne, a rhai o weithiau rhyddiaith Williams Pantycelyn fel Tri Wŷr o Sodom (1768). "Fel enghreifftiau o lyfrau crefyddol allgarol Cymraeg, sydd ddim fel arfer yn cael eu hystyried yn nofelau yn yr ystyr fodern", heb gyfeiriad i gefnogi dy haeriad. Gan fy mod i wedi darllen y tri, rwy'n cydsynio efo dy osodiad. Ond sut wyddost ti? Mae'n ymddangos dy fod yn dibynnu a'r farn 'Y Nofel Gymraeg Gynnar' gan Gerwyn Williams, (1999), sydd yn dyfynnu o gyflwyniad Dafydd Jenkins i Helyntion Hen deiliwr (Y Clwb Llyfrau Cymraeg 1940), gwybodaeth trydedd law!
Be sydd well, rhoi cyfle i bobl darllen y gweithiau gwreiddiol, neu ddibynnu ar dy honiad trydydd dosbarth di?
Mae Wikisource ar gael mewn 78 o ieithoedd, fel modd i gadw testunau ar gyfer eu defnyddio fel cyfeiriadau i erthyglau pynciol ar Wicipedia.
Mae pob erthygl yn gynllun cydweithredol, does dim "erthygl fi" yn bodoli yma. Mae bod yn biwis bod eraill wedi ymyrred ag "erthygl fi" yn wrthyn i ethos Wici
Mae gennyf gopiau o nifer o'r llyfrau rwyt yn cyferio atynt, mi fyddwyf yn eu defnyddio fel cyfeiriadau yn dy erthygl AlwynapHuw (sgwrs) 02:28, 15 Hydref 2024 (UTC)- Mae yna lawer o haeriadau a beirniadaethau personol cwbl anheg a di-sail yn y sylw uchod.
- Os felly mae dy farn di a barn Sefydliad Wici rhyngwladol yn wahanol, ac yn wir byddai y rhan fwyaf o sefydliadau academaidd yn anghytuno efo ti hefyd.
- Yr hyn rwy'n ceisio'i ddweud yw na ddylir defnyddio cyfeirnodau o fewn tesun i roi gwybod i'r darllenydd bod rhywbeth ar gael ar wicidestun (er enghraifft, fel rydych chi wedi gwneud yn yr erthygl ar y Nofel Gymraeg yn achos y Bardd Cwsg a Tri Wyr o Sodom). Nid dyna beth mae cyfeirnodau i fod i'w wneud. Pwrpas cyfeirnod yw cynnig ffynhonell i gefnogi datganiad. Figaro (sgwrs) 08:47, 14 Hydref 2024 (UTC)
- Pe bai hwn yn edefyn am rinweddau T Rowland Hughes fel llenor, mi fyddai gen ti bwynt, ond tydi o ddim, mae'n edefyn am ddefnyddio a chysylltu rhwng y gwahanol ganghennau o Wici. Mae William Jones, boed yma, ar Wiciddyfynu, Wicidestun, Comin, Wiciddata ac ati ddim yn berthnasol. Yr hyn sydd yn berthnasol yw bod y gystrawen dolennu enghreifftiol (pwnc yr edefyn) yn berffaith gywir. Pe bawn wedi dweud Ganwyd Lloyd George yng Nghaerdydd<ref>[[s:Drych yr Amseroedd]]</ref>, mi fyddwn yn 100% cywir o ran rhoi enghraifft o sut i ddefnyddio'r gystrawen dolen fewnol. AlwynapHuw (sgwrs) 00:50, 14 Hydref 2024 (UTC)
- Baswn i'n disgwyl i'r cyfeiriad ar ddiwedd y frawddeg "Un o lyfrau mwyaf poblogaidd T. Rowland Hughes yw William Jones" fod at waith ysgolheigaidd (neu ffynhonnell arall) yn cefnogi'r datganiad mai WJ yw un o'i weithiau mwyaf poblogaidd - nid yn gyfeiriad at destun y llyfr, nad yw'n cefnogi'r datganiad y naill ffordd neu'r llall. Figaro (sgwrs) 22:20, 12 Hydref 2024 (UTC)
Dydy testun "Tri wyr o Sodom" (er enghraifft) ddim yn dystiolaeth cefnogol i ddatganiad am natur y testun hwnnw (er enghraifft "nid nofel yw'r testun yma"). Pe bai e, gellid ei ddefnyddio i gefnogi bron iawn unrhywbeth am y testun. Rwy'n methu â chyfleu'r pwynt yn symlach na hynny. Does dim yn academydd yn y byd fyddai'n derbyn "tystiolaeth" felly.
Os ydych chi'n dymuno camddeall a bod yn bersonol drwy wneud honiadau anheg (e.e. fy mod in sôn am "erthygl fi" - rhywbeth nad ydw i wedi'i ddweud o gwbl!) yna dydw i ddim yn dymuno parhau a'r drafodaeth. Figaro (sgwrs) 09:14, 15 Hydref 2024 (UTC)
- Gyda llaw, baswn i'n dweud bod eich dull a'ch dadl chi yn yr achos hwn yn mynd yn erbyn egwyddor "No Original Research" -
- "Even with well-sourced material, if you use it out of context, or to state or imply a conclusion not directly and explicitly supported by the source, you are engaging in original research... Drawing conclusions not evident in the reference is original research regardless of the type of source." (Ymddiheuriadau am y Saesneg, methu cael hyd I fersiwn Cymraeg o'r dudalen).
- Cydnabod y dyliwn I wedi cefnogi'r datganiad am natur y gweithiau alegorïol gyda ffynhonnell - ond dydy'ch newidiadau chi heb wneud hynny. Figaro (sgwrs) 10:02, 15 Hydref 2024 (UTC)
- Sut yn y byd yw cyfeiriad at destun gwreiddiol llyfr yn groes i'r rheol no original research? Sut mae dweud Dyma'r Llyfr yn gyfystyr a Drawing conclusions?. Os yw awdur traethawd neu erthygl yn crybwyll gwaith (llyfr, llawysgrif, erthygl, cerdd ac ati) rhaid rhoi gwybodaeth i'r darllenydd sut mae modd caffael ar y gwaith dan sylw. Diwerth yw cyfeiriadau at adolygiadau, barn academaidd, erthyglau ac ati am natur neu werth gwaith heb fod modd eu gwirio yn erbyn copi o'r gwaith. Ti'n hollol gywir wrth ddweud "Dydy testun "Tri ŵyr o Sodom" (er enghraifft) ddim yn dystiolaeth gefnogol i ddatganiad am natur y testun hwnnw, mae'n fwy sylfaenol na hynny, mae'n brawf bod y gwaith yn bodoli. Heb y prawf sylfaenol hwn, mae fy marn i dy farn di, barn Gerwyn Williams, barn Dafydd Jenkins a barn unrhyw un arall am y gwaith megis rhech mewn corwynt. Nid wyf wedi darllen Y Nofel Gymraeg Cynnar gan Gerwyn Williams, (1999), ond mae cyflwyniad Dafydd Jenkins i Fywyd Hen Deiliwr o'm mlaen i nawr. Yn unol ag arfer academaidd da mae Dafydd yn cynnwys llyfryddiaeth lawn, sydd yn galluogi ei ddarllenwyr i ymofyn copi o bob nofel a lled nofel mae'n crybwyll yn ei ragymadrodd. Mae ei lyfryddiaeth hefyd yn fy ngalluogi i i chwilio fy silffoedd llyfrau, chwilota mewn llyfrgelloedd a phori siopau llyfrau ail law i gael gafael ar y llyfrau mae'n cyfeirio atynt er mwyn i mi gael eu gosod ar Wicidestun fel nad oes raid i neb arall tagu ar lwch yr oesoedd er mwyn cael gafael arnynt.
Os nad wyt am gael dolenni mewnol neu gyfeirnodau waelod y tudalen i'r llyfrau rwyt yn eu crybwyll yn yr erthygl fel esiamplau gai awgrymu dy fod yn ychwanegu adran llyfryddiaeth ar waelod yr erthygl gyda Nodyn:Cite book wicipedia ar gyfer pob un <ref>{{Cite book|title=teitl|last=Cyfenw|first=Enw bedydd|publisher=cyhoeddwr|year=blwyddyn|isbn=|location=lleoliad cyhoeddi|url=URL mewnosod URL fersiwn ar-lein o'r llyfr neu ddetholiad, os yw ar gael}}</ref> AlwynapHuw (sgwrs) 16:17, 15 Hydref 2024 (UTC)- Mae'n "drawing conclusions" oherwydd nid yw'r peth mae'r cyfeirnod yn cyfeirio ato (Tri wŷr o Sodom ar wicidestun) yn cefnogi'r honiad yn y frawddeg (na fyddai pobl yn ystyried alegorïau crefyddol cynnar yn nofelau yn yr ystyr fodern).
- Baswn i ddim yn erbyn rhestr ar waelod y dudalen fel math o lyfryddiaeth, ond mewn gwirionedd onid y ffordd arferol ar wicipedia o "brofi bod rhywbeth yn bodoli" - mewn erthygl ar bwnc llawer ehangach - yw dolen at dudalen wicipedia y "rhywbeth" hynny? Sef, hynny yw, beth mae'r erthygl eisoes yn ei wneud. Cofiwch hefyd bod dwsinau o nofelau'n cael eu crybwyll yn yr erthygl - byddai rhaid rhoi pob un ohonynt yn y llyfryddiaeth er mwyn cysondeb, fyddai'n waith eitha mawr a dibwrpas gan fod dolenni eisoes at y dudalennau'r llyfrau penodol.
- Yr lle mwyaf priodol ar wicipedia i ddolen at Wicidestun Tri Wŷr yw ar y dudalen Tri Wŷr o Sodom. Os nad yw'r dudalen honno'n bodoli yna yr ateb yw ei chreu - dyna beth oeddwn i'n cyfeirio ati wrth sôn am greu tudalennau newydd. Figaro (sgwrs) 21:52, 15 Hydref 2024 (UTC)
- Dydy cyfeiriad at lyfr ar Wicidestun, Google Books, Internet Archive ac ati, dim yn "drawing conclusions" gan gyfrannydd i'r erthygl, mae'n rhoi cyfle i'r darllenydd cael gaffael ar y llyfr er mwyn iddo greu ei farn ei hun tu allan i faes Wicipedia. Mae'n gyfeiriad at ffynhonnell dibynadwy gellid gwirio yr erthygl Wici, adolygiadau, beirniadaethau, ac ati yn ei erbyn.
Mae'n tu hwnt i'n nirnadaeth i pam dy fod am greu erthygl am y "Nofel Gymraeg" heb creu modd i dy ddarllenwyr darllen yn nofelau rwyt yn sôn amdanynt, ac yn gwrthwynebu cysylltiadau iddynt AlwynapHuw (sgwrs) 00:40, 17 Hydref 2024 (UTC)- Yr lle mwyaf priodol ar wicipedia i ddolen at Wicidestun Tri Wŷr o Sodom
- Na! rheol aur Wicipedia yw na ddylid defnyddio Wicipedia fel ffynhonnell. Mae ffynhonnell dibynadwy at y testun ar gael yma Tri Wyr o Sodom a'r Aipht AlwynapHuw (sgwrs) 01:02, 17 Hydref 2024 (UTC)
- Ni'n mynd mewn cylchoedd yma.
- Unwaith eto dach chi'n fy nghyhuddo i o bethau gwirion ac anheg; gan ddweud nad ydw i eisiau cysylltiadau at wicidestun o dan esboniad o ble dwi'n meddwl dylai'r union gysylltiadau hynny fod. A dwi erioed wedi awgrymru defnyddio wicipedia fel ffynhonnell ar wicipedia. Fi'n methu deall sut allech chi wedi neidio i gasgliad hurt o'r fath.
- Mae gwahaniaeth (yn amlwg) rhwng dolen a chyfeiriad<ref>fel hwn.</ref>
- Dadlau ydw i mai'r lle priodol i gyswllt at wicidestun yw ar yr erthygl am y testun hwnnw. Byddai hynny'n rhoi pob testun ar wicidestun a grywbyllir yn yr erthygl 2 glic i ffwrdd o'r darllennydd gan bod yr erthyglau ar y llyfrau dan sylw eisoes un glic i ffwrdd (diolch i'r dolenni atynt sydd eisoes yma). Sut yn y byd ydy hynny'n golygu nad ydw i eisiau i bobl allu cael mynediad at y testunau?
- O ddilyn eich awgrym (rhyfedd ac ansafonol) chi - sef y dylid rhoi cyfeirnod bob tro y crywbyllir llyfr ar wicipedia - byddai'r erthygl yn frith o gyfeiriadau; 3-4 gwaith yn fwy na sydd yno eisoes a'r mwyafrif helaeht ohonyn nhw ddim at ffynhonellau o gwbl ond dim ond yn "dangos bod testun yn bodoli".
- Edrychwch ar yr erthygl yma [[1]] - yn yr adran gynta yn unig sonir am 18 o nofelau yn y parth cyhoeddus heb deimlo'r angen i roi dolenni i brofi eu bod yn bodoli (Ond sylwch! O glicio trwodd at erthyglau'r 18 nofel mae pob un yn cynnig dolenni i Project Gutenberg, Standard eBooks ac ati ar dudalennau'r erhyglau hynny). Figaro (sgwrs) 19:45, 18 Hydref 2024 (UTC)
- Mae'n ddrwg gennyf, ond nid ydwyf i yn troi mewn cylchoedd; rwyf yn sefyll yn fy unfan tra yr wyt ti yn troelli. Mae dadlau bod angen "lle priodol i gyswllt at wicidestun yw ar yr erthygl am y testun hwnnw, yn nonsens". Nid "erthyglau" yw'r hyn sydd ar Wicidestun ond "testunau". Nid erthyglau am "Tri Ŵyr o Sodom a'r Aipht" na "William Jones (Nofel)" sydd ar Wicidestun ond trawsysgrifau triw i'r testunau gwreiddiol. Sut mae modd creu erthygl ar wahân rhwng William Jones Wicipedia a William Jones Wicidestun?. Os caf amser mi ysgrifennaf erthygl am "Tri Ŵyr o Sodom a'r Aipht", os na chaf amser mae'r cyfeiriad at y testun yn gywir a dibynol.
Barn Wikimedia Foundation, nid fy marn i, yw bod cyfraniadau teg prosiect Wicidestun yn dderbyniol fel cyfeiriadau
Does dim o'r fath beth ag "erthygl fi" ar Wikipedia, does dim mo'r hawl gen ti i wrthwynebu cyfeiriadau rhwng wici Cymraeg parthed erthyglau a chychwyned gennyt AlwynapHuw (sgwrs) 05:04, 26 Hydref 2024 (UTC)- Rwyn methu deall pam nad ydych chi'n deall beth dwi'n ei esbonio. Mae gan bawb hawl i anghydsynio, wrth gwrs; ond ym mhob neges rydych chi'n dangos nad ydych chi wedi deall fy nadl ac wedyn yn mynd ati i ymosod ar safbwynt nad ydyw i wedi'i fynegi.
- Ar wicipedia mae erthygl X am lyfr (neu gall fod).
- Mae erthygl erall, erthygl Y (er enghraifft am gysyniad fel "y nofel") gyda dolenni i'r erthygl am y llyfr.
- Yn fy marn i, ar erthygl X dylai'r ddolen i'r llyfr ar wicidestun fod; *nid* ar erthygl Y, ymhlith cyfeiriadau at ffynhonellau academaidd ac ati. Does dim angen cyfeiriad i "brofi bod rhywbeth yn bodoli" os yw'r rhywbeth hynny'n destun erthygl ar wicipedia. O ddilyn eich rhesymeg i'w gasgliad abswrd, byddai angen cyfeirnod bob un tro y crybwyllir unrhyw lyfr yn rhoi manylion bywgraffiadol y llyfr hwnnw, sy'n amlwg yn hurt - ydych chi'n bwriadu mynd drwy'r chwarter miliwn o erthyglau i weithredu hynny?
- Croeso i chi anghytuno wrth gwrs a gwneud fel y mynnoch. Dwi ddim yn ystyried dim byd y gwnaf ar wicipedia yn "erthygl fi" (eich geiriau chi erioed; nid fi); y cwbl dwi'n ei wneud yw mynegi fy marn bersonol i am sut a pham y dylir strwythuro pethau. Onid pwrpas y lle hwn yw penderfynu ar weithdrefnau i'w dilyn? Awgrymaf felly'n bod ni'n dau bellach yn gadael i eraill benderfynu eu barn, gan nad yw'n ymddangos y byddwn yn cydweld.
- Rhaid i mi ddweud gyda llaw bod y ffordd rydych chi'n ymateb i bobl eraill yn mynegi eu barn - drwy eu cyhuddo o bob math o nonsens - yn awgrymu'r gwrthwyneb; ac mai chi yw'r un sy'n cael trafferth delio â phobl sydd eisiau gwneud pethau fel arall i chi. Figaro (sgwrs) 20:50, 26 Hydref 2024 (UTC)
- Mae'n amlwg nad wyt ti yn ddeallt natur Wicidestun. Does dim erthyglau ar y safle, dim ond testynau. Yr unig modd i greu "erthygl" am Tri Wyr o Sodom a'r Aipht yw trwy greu erthygl am y testun ei hun, nid trwy greu erthyglau at y tesun ar Wicidestun, nac erthygl eraill am yr un destun ar safle'r Llyfrgell Genedlaethol, ac eto byth at y dau fersiwn ar Google Books, ac erthygl eraill ar brosiect Guttenburg a'r Hithu Trust ac ati. Mi fyddai'n braf cael erthygl am Tri Wyr o Sodom a'r Aipht, efo cysylltiadau at y manau lle mae ar gael, ond erthygl am "Tri Wyr o Sodom" gan Pantycelyn byddai hynny, nid erthygl am y copiau o'r testun, lle mae'r testun ar gael.
- Mae Wicidestu yn rhan o deulu y Wici Cymraeg AlwynapHuw (sgwrs) 04:07, 28 Hydref 2024 (UTC)
- Iesu grist. Dwi'n rhoi'r gorau. Rhywbeth hwyl i fy niddanu mae golygu Wicipedia i fod. Figaro (sgwrs) 09:00, 31 Hydref 2024 (UTC)
- Mae'n ddrwg gennyf, ond nid ydwyf i yn troi mewn cylchoedd; rwyf yn sefyll yn fy unfan tra yr wyt ti yn troelli. Mae dadlau bod angen "lle priodol i gyswllt at wicidestun yw ar yr erthygl am y testun hwnnw, yn nonsens". Nid "erthyglau" yw'r hyn sydd ar Wicidestun ond "testunau". Nid erthyglau am "Tri Ŵyr o Sodom a'r Aipht" na "William Jones (Nofel)" sydd ar Wicidestun ond trawsysgrifau triw i'r testunau gwreiddiol. Sut mae modd creu erthygl ar wahân rhwng William Jones Wicipedia a William Jones Wicidestun?. Os caf amser mi ysgrifennaf erthygl am "Tri Ŵyr o Sodom a'r Aipht", os na chaf amser mae'r cyfeiriad at y testun yn gywir a dibynol.
- Yr lle mwyaf priodol ar wicipedia i ddolen at Wicidestun Tri Wŷr o Sodom
- Dydy cyfeiriad at lyfr ar Wicidestun, Google Books, Internet Archive ac ati, dim yn "drawing conclusions" gan gyfrannydd i'r erthygl, mae'n rhoi cyfle i'r darllenydd cael gaffael ar y llyfr er mwyn iddo greu ei farn ei hun tu allan i faes Wicipedia. Mae'n gyfeiriad at ffynhonnell dibynadwy gellid gwirio yr erthygl Wici, adolygiadau, beirniadaethau, ac ati yn ei erbyn.
- Sut yn y byd yw cyfeiriad at destun gwreiddiol llyfr yn groes i'r rheol no original research? Sut mae dweud Dyma'r Llyfr yn gyfystyr a Drawing conclusions?. Os yw awdur traethawd neu erthygl yn crybwyll gwaith (llyfr, llawysgrif, erthygl, cerdd ac ati) rhaid rhoi gwybodaeth i'r darllenydd sut mae modd caffael ar y gwaith dan sylw. Diwerth yw cyfeiriadau at adolygiadau, barn academaidd, erthyglau ac ati am natur neu werth gwaith heb fod modd eu gwirio yn erbyn copi o'r gwaith. Ti'n hollol gywir wrth ddweud "Dydy testun "Tri ŵyr o Sodom" (er enghraifft) ddim yn dystiolaeth gefnogol i ddatganiad am natur y testun hwnnw, mae'n fwy sylfaenol na hynny, mae'n brawf bod y gwaith yn bodoli. Heb y prawf sylfaenol hwn, mae fy marn i dy farn di, barn Gerwyn Williams, barn Dafydd Jenkins a barn unrhyw un arall am y gwaith megis rhech mewn corwynt. Nid wyf wedi darllen Y Nofel Gymraeg Cynnar gan Gerwyn Williams, (1999), ond mae cyflwyniad Dafydd Jenkins i Fywyd Hen Deiliwr o'm mlaen i nawr. Yn unol ag arfer academaidd da mae Dafydd yn cynnwys llyfryddiaeth lawn, sydd yn galluogi ei ddarllenwyr i ymofyn copi o bob nofel a lled nofel mae'n crybwyll yn ei ragymadrodd. Mae ei lyfryddiaeth hefyd yn fy ngalluogi i i chwilio fy silffoedd llyfrau, chwilota mewn llyfrgelloedd a phori siopau llyfrau ail law i gael gafael ar y llyfrau mae'n cyfeirio atynt er mwyn i mi gael eu gosod ar Wicidestun fel nad oes raid i neb arall tagu ar lwch yr oesoedd er mwyn cael gafael arnynt.
Y Beibl mewn cyfeiriadau
golyguOs ydych chi'n defnyddio'r peiriant cyfieithu i greu erthyglau sy'n defnyddio'r Beibl fel cyfeiriadau, cofiwch newid y cyfeiriad o KJV NIV NEB ac ati i un o'r fersiynau Cymraeg o'r llyfr mawr Beibl William Morgan Y Beibl Cymraeg Newydd Beibl NetAlwynapHuw (sgwrs) 16:40, 28 Medi 2024 (UTC)
- Diolch Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:43, 5 Hydref 2024 (UTC)
Wici ar y Chase
golyguWelodd rywun y cwestiwn hwn ar y Chase? (4 Hydref 2024) - fideo 30 eiliad [2]
Chwarae teg i Bradley am ei ynganiad perffaith. Roedd Clive o Gaerdydd yn ateb yn dda iawn ond fei neidiodd yn rhy gyflym i'r ateb penodol hwn! Dafyddt (sgwrs) 19:26, 5 Hydref 2024 (UTC)
- Gwych! Diolch Dafydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:47, 9 Hydref 2024 (UTC)
Clwb Golff Llanisien
golyguHelo gyfeillion, dwi wedi sgwennu rhai cofnodion ar glybiau golff Caerdydd - er nad oes gen i ddim diddordeb mewn golff ond teimlo y byddai'n werthfawr i'r math o bobl sy'n ymuno gyda'r clybiau yma weld y Gymraeg am eu clwb. Dwi wedi cael neges i ymhelaethu ar yr erthygl ar Clwb Golff Llanisien - mae'r erthygl yn hwy na'r un Saesneg, ac ar filoedd o erthyglau (bid siŵr) ar y Wicipedia. Does dim llawer mwy i'w ddweud am y clwb. Ydw i wedi methu rhywbeth? Beth yw'r broblem? Stefanik (sgwrs) 11:53, 8 Hydref 2024 (UTC)
- Sori am y neges aneglur ar y dudalen sgwrs - i'r gwrthwyneb, dw i'n teimlo'n bersonol bod yr erthygl yn rhy hir. Mae angen ei phrawfddarllen yn ofalus ar ei hud (gw. cymalau od dw i'n eu dyfynnu ar y dudalen sgwrs) neu ei chwtogi er mwyn gwneud y dasg honno'n haws. Mae gen i hyd yn oed yn llai o ddiddordeb mewn golff na ti, felly nid fi yw'r un ar gyfer y gwaith! Llygad Ebrill (sgwrs) 12:53, 8 Hydref 2024 (UTC)
- Haia Stefanik - Sion. Mae Llygadebrill wedi awgrymu ar y dudalen sgwrs rhai cywiriadau i ti. Dw i'n meddwl mai gofyn i ti ddenyddio idiomau Cymraeg yn hytrach na chyfieithu'r rhai Saesneg yw byrdwn ei neges. Byddai hynny'n beth da. Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 10:51, 9 Hydref 2024 (UTC)
- iawn, dwi'n deall nawr. Wedi gwneud bach o dwtio, gobeithio ei fod yn lân nawr. Dwi'm yn meddel ei fod yn rhyw hir - mae'n braf cael erthygl hwy na'r un Saesneg i ddangos unrhyw snobs Cambroffobig y clwb golff (a'r Cymry Cymraeg sydd yno hefyd) o werth y Gymraeg. Stefanik (sgwrs) 13:41, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Haia Stefanik - Sion. Mae Llygadebrill wedi awgrymu ar y dudalen sgwrs rhai cywiriadau i ti. Dw i'n meddwl mai gofyn i ti ddenyddio idiomau Cymraeg yn hytrach na chyfieithu'r rhai Saesneg yw byrdwn ei neges. Byddai hynny'n beth da. Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 10:51, 9 Hydref 2024 (UTC)
Creu tudalennau newydd
golygu- Symudwyd yma o Sgwrs:Gwylan (drama)
@Llywelyn2000 @Llygadebrill yn dilyn y drafodaeth am Wrth aros Godot, credaf mai dyma'r adeg i godi'r pwynt ynglŷn â'r patrwm / rheol o enwi erthyglau Cymraeg, sy'n trafod [neu yn gyfieithiad (i fod)] o ddrama mewn iaith arall, gyda'r teitl Gymraeg yn hytrach na'r gwreiddiol. Mae Rhianedd Jewell yn dadlau yn ei chyfrol Her a Hawl Cyfieithu Dramâu SL bod y "cyfieithiadau" yma, sydd weithiau yn fwy o "addasiadau" yn haeddu cael eu trin fel dramâu newydd. Mae hyn yn mynd yn groes i'r patrwm / rheol? yma ar Wicipedia. Beth yw'r peth calla' a mwya derbyniol i'w wneud, gan bod hyn am godi dro ar ôl tro. Beth ddywed y Sanhedrin Wicipediaidd am hyn? Paulpesda (sgwrs) 07:24, 8 Hydref 2024 (UTC)
- Gofynner yn Wicipedia:Y_Caffi (wedi i saga Godot dawelu efallai;). Yn bersonol dw i'n cefnogi dy resymeg, belled bod werth cwpl o baragraffau (paragraffau go iawn, dim rhai bas-data!) i'w ddweud am y ddrama Gymraeg dan sylw - ond yn y Caffi mae'r Sanhedrin yn cwrdd! Llygad Ebrill (sgwrs) 12:46, 8 Hydref 2024 (UTC)
- Diolch.Llygad Ebrill (sgwrs) Beth yw ystyr "paragraffau go iawn, dim rhai bas-data!"? Paulpesda (sgwrs) 20:15, 8 Hydref 2024 (UTC)
- @Paulpesda, Llygadebrill, Figaro-ahp: Ia, sgwrs ddiddorol. Dwi'n cofio rhywun yn dweud, ryw dro, fod pob cyfieithiad gwerth ei halen yn greadigaeth / yn waith newydd! Bid a fo am hynny: fel pob erthygl ar Wicipedia, mae'n rhaid mesur a phwyso'r gwaith gyda'r llinyn mesur hollbwysig o: - pa mor nodedig yw'r gwaith hy defnyddio'r criteria amlygrwydd (notability)? Yn gyffredinol, mae un erthygl sy'n cynnwys yr holl gyfieithiadau'n well na thameidiau fan hyn, fan draw. Ond os oes tystiolaeth fod y cyfieithiad / addasiad yn un nodedig, unigryw, gyda'r beirniaid llenyddol yn ei godi i'r cymylau fel gwaith newydd, yna fe ddywedwn i ei fod yn haeddu erthygl gyfan ar ei liwt ei hun. Os yw Rhianedd Jewell ac un arall yn nodi hyn am ddrama/au SL, yna mae'n ateb gofynion ein polisi Wicipedia:Amlygrwydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:16, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Cytuno yn gyffredinol efo'r sylw uchod. Does ddim angen dwsinau o erthyglau ar wahân am bob cyfieithiad neu addasiad o Romeo and Juliet ac ati. Ond pan fo un o'n llenorion amlycaf wedi cyfieithu un o ddramâu mawr y byd i'n hiaith ni, ac mae wedi ei berfformio gan ein cwmnïau drama flaenllaw, mae 'na stori fach arall i'w hadrodd yma ar wahân i stori'r prif waith. Rwy'n credu'n sicr bod lle am erthyglau am Wrth Aros Godot, Y Claf Di Glefyd, Tan y Wennallt ac ati; cyn belled â'u bod yn erthyglau annibynnol sydd ddim yn ail bobi gormod o'r hyn sydd yn y brif erthygl. AlwynapHuw (sgwrs) 00:05, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Credu mai dyna'r pwynt- prin bod unrhyw wybodaeth ar y dudalen Wrth aros Godot na fyddai'n berthnasol i'r erthygl Waiting for Godot. Figaro (sgwrs) 13:44, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Gormod o ail adrodd o ran fy chwaeth i, ond yn sicr digon o wybodaeth Cymreig unugryw i gyfiawnhau'r erthygl Cymraeg am Wrth Aros Godot! Cynnig cyngor a chymorth sydd ei angen, nid beirniadaeth flin! AlwynapHuw (sgwrs) 01:42, 17 Hydref 2024 (UTC)
- Ie, a'r cwbl wedi'i ychwanegu ar ol i mi wneud y sylwad gwreiddiol ar 3ydd hydref yn cwestiynu pwrpas cael dwy erthygl ar wahan! Doedd dim beirniadaeth yn y sylwad; dim ond dsgrifiad teg o'r dudalen Wrth aros Godot fel ag yr oedd hi pan ymwelais i â'r dudalen ar ddechrau'r mis. Rwy'n dal i gredu y byddai un erthygl fawr gyda'r holl wybodaeth yn well, yn bersonol; ond yn sicr mae llai o wrthwynebiad gen i os yw'r ddwy erthygl yn ddigon gwahanol i'w gilydd. Figaro (sgwrs) 19:53, 18 Hydref 2024 (UTC)
- Gormod o ail adrodd o ran fy chwaeth i, ond yn sicr digon o wybodaeth Cymreig unugryw i gyfiawnhau'r erthygl Cymraeg am Wrth Aros Godot! Cynnig cyngor a chymorth sydd ei angen, nid beirniadaeth flin! AlwynapHuw (sgwrs) 01:42, 17 Hydref 2024 (UTC)
- Credu mai dyna'r pwynt- prin bod unrhyw wybodaeth ar y dudalen Wrth aros Godot na fyddai'n berthnasol i'r erthygl Waiting for Godot. Figaro (sgwrs) 13:44, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Cytuno yn gyffredinol efo'r sylw uchod. Does ddim angen dwsinau o erthyglau ar wahân am bob cyfieithiad neu addasiad o Romeo and Juliet ac ati. Ond pan fo un o'n llenorion amlycaf wedi cyfieithu un o ddramâu mawr y byd i'n hiaith ni, ac mae wedi ei berfformio gan ein cwmnïau drama flaenllaw, mae 'na stori fach arall i'w hadrodd yma ar wahân i stori'r prif waith. Rwy'n credu'n sicr bod lle am erthyglau am Wrth Aros Godot, Y Claf Di Glefyd, Tan y Wennallt ac ati; cyn belled â'u bod yn erthyglau annibynnol sydd ddim yn ail bobi gormod o'r hyn sydd yn y brif erthygl. AlwynapHuw (sgwrs) 00:05, 10 Hydref 2024 (UTC)
- @Paulpesda, Llygadebrill, Figaro-ahp: Ia, sgwrs ddiddorol. Dwi'n cofio rhywun yn dweud, ryw dro, fod pob cyfieithiad gwerth ei halen yn greadigaeth / yn waith newydd! Bid a fo am hynny: fel pob erthygl ar Wicipedia, mae'n rhaid mesur a phwyso'r gwaith gyda'r llinyn mesur hollbwysig o: - pa mor nodedig yw'r gwaith hy defnyddio'r criteria amlygrwydd (notability)? Yn gyffredinol, mae un erthygl sy'n cynnwys yr holl gyfieithiadau'n well na thameidiau fan hyn, fan draw. Ond os oes tystiolaeth fod y cyfieithiad / addasiad yn un nodedig, unigryw, gyda'r beirniaid llenyddol yn ei godi i'r cymylau fel gwaith newydd, yna fe ddywedwn i ei fod yn haeddu erthygl gyfan ar ei liwt ei hun. Os yw Rhianedd Jewell ac un arall yn nodi hyn am ddrama/au SL, yna mae'n ateb gofynion ein polisi Wicipedia:Amlygrwydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:16, 9 Hydref 2024 (UTC)
- Diolch.Llygad Ebrill (sgwrs) Beth yw ystyr "paragraffau go iawn, dim rhai bas-data!"? Paulpesda (sgwrs) 20:15, 8 Hydref 2024 (UTC)
Rhestrau cynyrchiadau actorion / dramodwyr
golyguYmholiad sydyn [ymddiheuriadau os yw'r ateb eisioes ynghanol y môr o gyngor - methu ei ganfod o sgota sydyn]. Wrth nodi'r cynyrchiadau drama neu deledu mae'r actor wedi bod yn rhan ohonynt, beth yw'r ffordd mwya derbyniol o wneud hynny. Eu rhestru fel hyn mewn paragraff Romeo a Juliet (2004), Plas Drycin (2005), Hen Rebel (2005), Dominos (2006) ta mewn rhestr fel hyn:
- Romeo a Juliet (2004)
- Plas Drycin (2005)
- Hen Rebel (2005)
- Dominos (2006)
Diolch @PaulpesdaPaulpesda (sgwrs) 10:53, 10 Hydref 2024 (UTC)
- Actor Sgrin yn hytrach na llwyfan ond mae'r drefn yn debyg; edrycha ar waelod erthygl Roddy Hughes adrannau Ffilmyddiaeth a Theledu. AlwynapHuw (sgwrs) 18:42, 10 Hydref 2024 (UTC)
- diolch Paulpesda (sgwrs) 21:13, 10 Hydref 2024 (UTC)
Gwobrau Wicimediwr y Flwyddyn 2024 - Galwad am enwebiadau
golyguHelo bawb. Neges isod gan WMUK - Bydd e'n wych gweld enwau o'n gymuned ni yn y mix!
Mae WMUK yn hapus i gyhoeddi bod enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Wicimediwr y Flwyddyn y DU 2024. Rydym yn gofyn i chi enwebu unigolion a sefydliadau sydd wedi bod yn rhan o ymdrechion Wikimedia UK i hybu gwybodaeth agored yn 2023/24. Y categorïau ar gyfer eleni yw:
- Wicimediwr y Flwyddyn y DU (Unigolyn)
- Partneriaeth y Flwyddyn (Sefydliad)
- Wikimediwr Neywdd (Up and coming) (Unigolyn)
Rydym yn chwilio am bobl a phartneriaethau o fewn cymuned Wikimedia UK sydd wedi gwneud argraff fawr arnoch gyda'u gwaith gwybodaeth agored, yn 2023/24. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed am bobl a sefydliadau a gyflawnodd brosiectau sy'n mynd i'r afael â'n themâu strategol, sef Tegwch Gwybodaeth, Llythrennedd Gwybodaeth, a'r Hinsawdd a'r Amgylchedd. Bydd enwebiadau'n cael eu beirniadu gan aelodau'r Pwyllgor Datblygu Cymunedol a chyhoeddir yr enillwyr yn y Dathliad Cymunedol ar Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024.
Swydd Wici!
golyguHelo pawb. Mae Wicimedia UK newydd hysbysebu swydd am rheolwr newydd dros Cymru. Felly ewch amdanu a/neu rhannu yn eich rhwydweithiau. Jason.nlw (sgwrs) 13:34, 24 Hydref 2024 (UTC)
- Braidd yn siomedig bod y cymhwyster iaith ar gyfer y swydd yw "Cymraeg ar lefel dysgwyr". Oni ddylai cymhwyster ar gyfer "rheolwr" prosiectau Wici yn yr iaith Gymraeg bod a galluoedd Cymraeg uwch na rhuglder cyffredinol? AlwynapHuw (sgwrs) 03:56, 30 Hydref 2024 (UTC)
- Cytuno, Alwyn. Synnu hefyd na hysbysebwyd y swydd ar wefanau / cylchgronnau Cymraeg fel y gwnaethom y tro diwethaf. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:30, 12 Tachwedd 2024 (UTC)
Gaeltacht Corca Dhuibhne
golyguHelo ffrindiau (eto). Iawn, dwi di sgwennu cofnod ar https://cy.wikipedia.org/wiki/Gaeltacht_Corca_Dhuibhne ... ac er mod i wedi defnyddio rhannau o'r erhtyglau Saesneg a Chatalaneg anghofies i ddolenni gyda nhw ar wikidata wrth gyhoeddi, ac yn hytrach nag hynny, creu cofnod wikidata newydd fy hun! Dwi'n ceisio 'mergio' ond, o ddilyn y cyfarwyddid yma: https://www.wikidata.org/wiki/Help:Merge/cy#/media/File:Merge_and_RequestDeletion.png dwi methu gweld lle mae'r tab 'more' ac yna 'merge with'. Oes Samariad trugarog, sori. Stefanik (sgwrs) 12:25, 12 Tachwedd 2024 (UTC)
- Haia Sion! Cyn dod at y cyfuno: dw i wedi ffeirio dwy wybodlen. Mae na fwy o eitemau perthnasol i lefydd yn y Nodyn:Lle. Tri / Tair prif nodyn sydd i gyd: Lle, Person a Phethau.
- O ran y cyfuno, mae na ffordd haws - sef jyst dileu'r hyn sydd weddill! Dw i wedi methu, fel ti, cyfuno yn y gorffennol, a rhyw wali yn bygwth fy nhaflu allan o WD am nad oeddwn wedi gadael nodyn yn y Caffi / y gymuned yn nodi hynny! Tydy'r ffordd dw i'n ei awgyrmu ddim yn cael ei argymell, ond mae'n llawer haws! Unwaith y mae'r dudalen yn wag, fe ddaw bot heibio fel rhyw jac codi baw a'i ddileu. Cofion fil... Llywelyn2000 (sgwrs) 13:19, 12 Tachwedd 2024 (UTC)
- Diolch Robin. Wnes i geisio dileu y gwahanol sydd yn y gwahanol is-fylchau 'mynegiadau' yn y Wikidata (e.e. lle) ai dyna sydd angen dileu? Neu oes modd dileu y dudalen WD i gyd h.y. y cofnod Q131152713? Beth bynnag, wedi dileu y mynegiadau i ddechrau! Stefanik ({{Sgwrs Defnyddiwr:Stefanik|sgwrs) 13:35, 12 Tachwedd 2024 (UTC)]]
- Ia - y Mynegiadau, yr Identifiers a'r teitl ar y brig. Gan i ti wneud hynny, mae'r bot wedi dileu'r 'dudalen i gyd'. Gwira fod y wybodlen bellach yn mynd i'r dudalen gywir (efo'r ddwy iaith arall). Mae o ar fy nghyfrifiadur i. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:06, 12 Tachwedd 2024 (UTC)
Goresgyniad Llain Gaza gan Israel (2023‒24)
golyguAr y Dudalen Sgwrs, dw i wedi awgrymu newid y teitl i Hil-laddiad y Palesteiniaid gan Wladwriaeth Israel, 2023‒24. Unrhyw deimladau am hyn? Mae llawer o wledydd y byd bellach yn defnyddio'r gair hil-laddiad am yr hil-laddiad sy'n digwydd yno. Diolch. ON Ymateb ar y Dudalen Sgwrs yn hytrach nag yn fama, os gwelwch yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:26, 12 Tachwedd 2024 (UTC)
Defnyddiwr 110.150.88.30
golyguMae Defnyddiwr newydd dienw wedi creu nifer o Fodiwlau a Nodion (templates) ar bel-droed. Efallai eu bod yn lân eu cod; efallai nad ydynt. Roedd un yn cynnwys data cuddiedig. P'un bynnag, dw i ddim yn meddwl y dylem dderbyn codio fel hyn gan ddefnyddiwr dienw nad yw wedi trafod unrhyw beth o gwbwl gyda'n cymuned, yma yn y Caffi neu ar ei dudalen defnyddiwr. Mae'n rhy beryglus. Rydyan ni wedi trafod a chytuno yn y gorffennol ein bod yn analluogi defnyddwyr newydd rhag golygu. Gwnes gais ar Meta, ond ni chafodd ei dderbyn.
Pan fo defnyddiwr newydd yn creu erthygl ar cy-wici, beth am ei roi ym Mhwll Tywod y Defnyddiwr nes ei fod yn cael ei gymeradwyo? Dyna sy'n digwydd ar sawl wici arall. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:27, 6 Rhagfyr 2024 (UTC)
Categori:Ffilmiau arswyd o Wlad Pwyl
golyguHello, it seems that category should contain horror films made in Poland but it has a lot of movies that are not horrors. Probably an error with the bot that created those, might be worth checking other horror categories too. Plushy (sgwrs) 02:47, 11 Rhagfyr 2024 (UTC)
- Problem wedi'i thrwsio bellach. --Craigysgafn (sgwrs) 11:10, 11 Rhagfyr 2024 (UTC)
Blynyddoedd - Gorffennol neu yn y presennol?
golyguMi wnes i newid agoriad yr erthygl ar 2023 i'r gorffennol; ond mae Deb wedi tynnu fy sylw i'r ffaith mai yn y presennol mae'r erthyglau hyn i gyd. Mae defnyddio'r presennol i ddisgrifio'r hyn sydd wedi digwydd yn chwithig ar y naw, i mi. Ond os yw'r presennol yn dderbyniol gan y gymuned, mi wna i ei newid yn ol. Coblyn o waith newid erthyglau ar ddigwyddiadau cronolegol, fel hyn i'r gorffennol: ac mae 'na lawer o waith eu cywiro hefyd! Unrhyw farn? Llywelyn2000 (sgwrs) 12:48, 23 Rhagfyr 2024 (UTC)
- Rwy'n derbyn dy bwynt yn union, Robin! Ond dyma hen olygydd yn ysgrifennu ...
- Pan ddaw i rywbeth ar ffurf rhestr â dyddiadau, fel cronicl, neu ddyddiadur, neu gyfres o ddiweddariadau newyddion, y confensiwn yn Saesneg yw ei fod wedi ei ysgrifennu yn yr amser presennol. (Ond gweler isod!) Cyn belled ag y gallaf wirio'r pwynt ar frys, dyna sut mae erthyglau cyfatebol yn cael eu creu yn y wikis Ffrangeg, Eidaleg ac Almaeneg. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw beth neilltuol am y Gymraeg a ddylai ein harwain i wneud rhywbeth gwahanol yma.
- Fodd bynnag, fel y dywedais, confensiwn yw hwn, yn hytrach na rheol sefydlog. Gellir newid confensiynau. Nid oes gwahaniaeth sylfaenol a ddylai'r rhestrau hyn fod yn yr amser presennol neu'r amser gorffennol. Mae'r ddau yn gwneud synnwyr yn eu ffyrdd eu hunain. Y pwynt pwysig yw y dylent ddefnyddio'r un amser. Mae cysondeb yn bwysig, gan fod anghysondeb yn drysu'r darllenydd ac yn creu amheuaeth ym meddwl cyfranwyr a golygyddion eraill. Felly os ydym am gael yr amser gorffennol yn safonol dylem fynd trwy'r cannoedd o erthyglau fel hyn a newid pob cofnod.
- Ysgrifennais uchod am ddefnyddio'r amser presennol. Mewn gwirionedd mae'n syniad da peidio â defnyddio amser o gwbl, yn enwedig y ferf "Mae". Mae'r canlynol (o 2023) yn ddelfrydol: "Etholiad cyffredinol y Ffindir." "Coroni'r Brenin Siarl III a'r Frenhines Camilla." "Chris Hipkins yn dod yn Brif Weinidog Seland Newydd."
- Rhai enghreifftiau eraill. Ar hyn o bryd mae gennym ni "15 Ionawr – Lladdwyd 72 o bobl mewn damwain awyren ger Pokhara, canol Nepal." Fodd bynnag i mi mae hyn yn awgrymu y datgelwyd ar 15 Ionawr bod 72 eisoes wedi marw. Ond digwyddodd y peth ar y diwrnod hwnnw. Mae'n well gen i: "Lladdir 72 o bobl mewn damwain awyren ger Pokhara, canol Nepal." I mi mae hyn yn cael effaith fwy uniongyrchol, fel cael pennawd papur newydd yn cael ei daro i lawr o'm blaen.
- A dweud y gwir, nawr rwy'n meddwl amdano. efallai mai dyna'r allwedd i'r cofnodion dyddiedig hyn. Maent ar eu gorau pan fyddant ar ffurf penawdau papur newydd, a dylent gyfleu'r wybodaeth mor gryno ac mor uniongyrchol â phosibl. Craigysgafn (sgwrs) 22:39, 23 Rhagfyr 2024 (UTC)
- Ie: dw i'n hoffi '..mae'n syniad da peidio â defnyddio amser o gwbl' yn fawr! Ond mae "Lladdir 72 o bobl mewn damwain awyren ger Pokhara, canol Nepal." yn cynnwys teipo? Onid 'Lladd 72 o bobl...' wyt ti'n ei feddwl? Os felly, dw i'n cytuno'n llwyr. Mae'r pennawd papur newydd gen ti hefyd yn y presennol (neu fel y dywedi, yn ddiamser), sy'n golygu nad oes raid newid y cannoedd, dim ond twtio i'r dull hwn wrth fynd ymlaen. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:44, 27 Rhagfyr 2024 (UTC)
- Nid teipo fel y cyfryw. Ond, wrth gwrs, well o lawer yw "Lladd 72 o bobl". Dydw i ddim yn honni bod y pethau hyn yn hawdd! Pa ryfedd inni faglu weithiau. Craigysgafn (sgwrs) 10:45, 27 Rhagfyr 2024 (UTC)
- Diolch! Deb (sgwrs) 15:37, 29 Rhagfyr 2024 (UTC)
- Ie: dw i'n hoffi '..mae'n syniad da peidio â defnyddio amser o gwbl' yn fawr! Ond mae "Lladdir 72 o bobl mewn damwain awyren ger Pokhara, canol Nepal." yn cynnwys teipo? Onid 'Lladd 72 o bobl...' wyt ti'n ei feddwl? Os felly, dw i'n cytuno'n llwyr. Mae'r pennawd papur newydd gen ti hefyd yn y presennol (neu fel y dywedi, yn ddiamser), sy'n golygu nad oes raid newid y cannoedd, dim ond twtio i'r dull hwn wrth fynd ymlaen. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:44, 27 Rhagfyr 2024 (UTC)
2025 - Blwyddyn Newydd Dda i bawb!
golyguBlwyddyn Newydd Dda i bawb o'n golygyddion! A diolch am eich cwmni dros y flwyddyn ddiwethaf! Boed i ni gryfhau ein gafael ar wici bach ni, cyn i AI a'r Brawd Mawr ei gipio oddi arnom. Byddwch wych! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:39, 1 Ionawr 2025 (UTC)
Dau gyfweliad
golyguEchdoe, cysylltodd Golwg360 efo fi i fy holi am y fandaliaeth ar Wicipedia a ddoe, cysylltodd Cymru Fyw, BBC Cymru. Mae'r naill gyfweliad i'w weld yma a'r llall yma. Mae na un cangym ar ddechrau'r ail, ond dim byd mawr. Y gobaith yw y daw eraill atom i'r gorlan, wrth gwrs. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:44, 8 Ionawr 2025 (UTC)
Atal camddefnydd o'r Cymhorthydd Cyfieithu
golyguSylwer ar y Sgwrs yma. Unrhyw sylwadau? Mae'n nodi:
Currently, your Wiki's machine translation threshold is 95% by default, meaning contributors can publish up to 95% of unmodified initial machine translation. We can make this stricter to ensure contributors review and edit the machine translation more before they can publish it.
Byddai newid y rhiniog i 80% yn golygu fod yn rhaid i'r golygydd ychwanegu 20% o'i ben a'i bastwn ei hun. Cytuno? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:38, 14 Ionawr 2025 (UTC)
- Rwy'n credu bod hynny'n gwbl resymol ac yn ateb cymesur. Suddodd fy nghalon pan welais dy sgwrs ag UOzurumba. Mae gan bolisi WMF fwriad da, ond o ba fudd y mae i bobl sy’n defnyddio cywiki mewn gwirionedd ac sydd â diddordeb yn y Gymraeg? Yn nwylo pobl sydd eisiau gwthio eu hagendâu eu hunain mae cyfieithu awtomatig yn mynd yn arf peryglus. Craigysgafn (sgwrs) 10:50, 14 Ionawr 2025 (UTC)
- Y broblem fwyaf efo erthyglau sydd wedi mynd trwy'r peiriant cyfieithu yw ei ddefnyddio gan bobl gwbl di Gymraeg, neu bobl sydd ddim am drafferthu gwirio o gwbl. Byddai gorfod gwirio o leiaf 20-25% yn chwynnu y rhan fwyaf o'r troseddwyr hyn. Yn ddibynnol ar y testun, mae'r peiriant cyfieithu yn gallu bod yn hynod gywir yn achlysurol, gan greu cyfieithiad sy'n well na'r targed. Y modd i osgoi gwrthod y fath gyfieithiad yw trwy ychwanegu gwybodaeth amgen i'r cyfieithiad ee Saesneg="David Lloyd George was Chancellor of the Exchequer between 1908 and 1915" Cyfieithiad Google="Roedd David Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys rhwng 1908 a 1915" (100% cywir). Mae rhoi gwybodaeth amgen yn y cyfieithiad="Roedd David Lloyd George (Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon) yn Ganghellor y Trysorlys rhwng 1908 a 1915" yn mynd a'r cyfieithiad dros y trothwy. Mae annog rhoi gwybodaeth amgen mewn cyfieithiad hefyd yn arfer da. Felly, cytuno'n llwyr efo'r awgrym. AlwynapHuw (sgwrs) 01:05, 15 Ionawr 2025 (UTC)
- Diolch eich dau! Newydd roi crynhodeb o'n sgwrs ar dudalen y defnyddiwr yma. Dw i ddim yn ffyddiog, gan fod sawl ffordd o ddod dros y rhiniog, ee copio a gludo clenc / paragraff yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy'r Cymhorthydd Cyfieithu. Atal pawb sy'n golygu heb fewngofnodi fyddai ateb arall, wrth gwrs. Cawn weld! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:33, 19 Ionawr 2025 (UTC)
Ar y dydd hwn
golyguWeithiau, mae bron yn amhosib gwneud synnwyr o'r ciplun yn y blwch 'Ar y dydd hwn' yn yr Hafan, gan ei fod mor fach. Dw i wedi codi maint y ddelwedd o 100x100 i 110x110 ar un diwrnod, i weld ydy o'n well ai peidio - Wicipedia:Ar y dydd hwn/20 Ionawr. Mi wna i gynyddu'r gweddill i'r un patrwm (110x110), efo bot, os nad oes gwrthwynebiad. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:03, 20 Ionawr 2025 (UTC)
- Syniad da! A dweud y gwir, roedd y canlyniad diweddaraf dal braidd yn fach. Rwyf wedi ceisio 140px, sy'n gweithio ar fy nesgtop a'm iPad. (Does dim ffôn symudol 'da fi.) Gawn ni weld! Craigysgafn (sgwrs) 09:44, 20 Ionawr 2025 (UTC)
- Mae'n edrych yn iawn i mi, ond yn wahanol i'r fformat 110x100px gwreiddiol. Dw i erioed wedi deall y gwahaniaeth rhwng y ddwy drefn yma. @Ham: osododd y maint gwreiddiol - be ti'n feddwl? Ydy newid y drefn yn bygro'r cod rywsut ar rai dyfeisiau? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:30, 21 Ionawr 2025 (UTC)
- Byddai lled (yn unig) o 140px yn gweithio'n dda fel ar Wicipedia:Ar y dydd hwn/22 Ionawr achos mae rheolau CSS yn lleihau y ddelwedd i 110px ar ffonau symudol gyda sgrin bach, beth bynnag. Felly does dim perygl o fynd yn rhy fawr achos mae rheolau i gadw'r ddau golofn Pigion/Ar y dydd yn gymesur. Ar y rhan fwyaf o ffonau symudol o bob maint mae'r llun yn ymddangos ar y top gyda'r dyddiad o dano. Ar tabled mae'r llun edrych yn dda hefyd. Dafyddt (sgwrs) 23:03, 22 Ionawr 2025 (UTC)
- Fantastig Dafydd! Mi ai ati'r pnawn ma i'w newid efo'r bot. Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:44, 26 Ionawr 2025 (UTC)
- @Llywelyn2000: Ham oedd fy hen gyfrif, felly gweithiodd y {{ping}} ddim i fi ar ddydd Mawrth. Falch iawn gweld dy fod yn mynd i gynyddu meintiau'r delweddau hyn gyda bot.
90x90px
oedd y maint gwreiddiol, sydd nawr yn rhy fach o lawer, ac rwy wedi ei godi i100x100px
bob tro rwy'n golygu un o'r tudalennau AYDH – dyna'r unig reswm dros yr amrywiaeth hyd ag y gwn i, am fod rhai nad ydw i wedi eu golygu. Rwy'n hapus iddo fod yn fwy byth, ond gawn ni gadw'r ddau dimensiwn os gwelwch yn dda, e.e.140x140px
nid dim ond140px
(sef lled yn unig)? Wedyn fe fydd y lluniau fformat 'portread' yn 140px o hyd a'r rhai 'tirlun' yn 140px o led. Ham II (sgwrs) 11:34, 26 Ionawr 2025 (UTC)- O'r hyn rwy'n ei ddeall (WP:IMAGESIZE) mae'r uchder yn 140x140px yn cael ei anwybyddu gan y dehonglydd, felly mae "140px" yn iawn. Craigysgafn (sgwrs) 12:06, 26 Ionawr 2025 (UTC)
- @Craigysgafn: Dim dyna fy nealldwriaeth i; dydi
140x140px
ddim yn gosod y dimensiynau union hynny (a fyddai'n gwneud pob delwedd yn sgwâr), ond yn hytrach yn gosod y dimensiwn mwyaf i 140px boed hynny'n hyd neu'n lled. Ham II (sgwrs) 12:31, 26 Ionawr 2025 (UTC)- Yn fwy na thebyg, chi sy'n iawn! Craigysgafn (sgwrs) 13:54, 26 Ionawr 2025 (UTC)
- @Craigysgafn: Dim dyna fy nealldwriaeth i; dydi
- @Ham II: - unrhyw ddadl dros gadw'r patrwm 140x140px? Llywelyn2000 (sgwrs) 12:22, 26 Ionawr 2025 (UTC)
- @Llywelyn2000: Byddai'n rhoi hyd o 140px i ddelweddau fformat portread a lled o 140px i rai fformat tirlun, sydd yn fwy addas nac un lled ar gyfer pob delwedd (a fyddai'n golygu bod portreadau llawer mwy o faint na thirluniau). Ham II (sgwrs) 12:31, 26 Ionawr 2025 (UTC)
- Diolch Ham II! Mae hynny'n gwneud synnwyr. A dyna fi wedi dysgu rhywbeth heddiw! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:42, 26 Ionawr 2025 (UTC)
- @Llywelyn2000: Byddai'n rhoi hyd o 140px i ddelweddau fformat portread a lled o 140px i rai fformat tirlun, sydd yn fwy addas nac un lled ar gyfer pob delwedd (a fyddai'n golygu bod portreadau llawer mwy o faint na thirluniau). Ham II (sgwrs) 12:31, 26 Ionawr 2025 (UTC)
- O'r hyn rwy'n ei ddeall (WP:IMAGESIZE) mae'r uchder yn 140x140px yn cael ei anwybyddu gan y dehonglydd, felly mae "140px" yn iawn. Craigysgafn (sgwrs) 12:06, 26 Ionawr 2025 (UTC)
- Byddai lled (yn unig) o 140px yn gweithio'n dda fel ar Wicipedia:Ar y dydd hwn/22 Ionawr achos mae rheolau CSS yn lleihau y ddelwedd i 110px ar ffonau symudol gyda sgrin bach, beth bynnag. Felly does dim perygl o fynd yn rhy fawr achos mae rheolau i gadw'r ddau golofn Pigion/Ar y dydd yn gymesur. Ar y rhan fwyaf o ffonau symudol o bob maint mae'r llun yn ymddangos ar y top gyda'r dyddiad o dano. Ar tabled mae'r llun edrych yn dda hefyd. Dafyddt (sgwrs) 23:03, 22 Ionawr 2025 (UTC)
- Mae'n edrych yn iawn i mi, ond yn wahanol i'r fformat 110x100px gwreiddiol. Dw i erioed wedi deall y gwahaniaeth rhwng y ddwy drefn yma. @Ham: osododd y maint gwreiddiol - be ti'n feddwl? Ydy newid y drefn yn bygro'r cod rywsut ar rai dyfeisiau? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:30, 21 Ionawr 2025 (UTC)
Dw i di cyhoeddi hwn: Wicipedia:Ar y dydd hwn/10 Awst a Wicipedia:Ar y dydd hwn/26 Ionawr (heddiw / gw. Hafan) a mi wnai'r gweddill os ydy Craigysgafn yn cytuno. Ychydig yn rhy fawr ar yr Hafan? Does na ddim byd yn barhaol, wrth gwrs, a mi fedran ni ei newid eto wrth i dechnoleg newydd ddod i'r fei. Gyda llaw, dw i hefyd wedi ychwanegu Categori:Ar y dydd hwn - categori anweledig i gadw'r cwbwl mewn trefn. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:55, 26 Ionawr 2025 (UTC)
- @Llywelyn2000: Y brif broblem a welaf yw nad ydym yn cael gweld y capsiynau "Cynan" a "Louvre" rwyt ti wedi'u cyflenwi. Ar ôl edrych ar Hafan ar enwiki, mi welais ddatrysiad, a dwi wedi hacio peth sydyn sy'n cyfateb i hynny. Gweler Wicipedia:Ar y dydd hwn/10 Awst, lle mae capsiwn yn ymddangos. Mae cod y nodyn (a'r enw hefyd!) dwi wedi creu yn bethau dros dro hyll, ond os yw'r canlyniad yn iawn gallwn ni ei dwtio. Craigysgafn (sgwrs) 17:47, 26 Ionawr 2025 (UTC)
- @Llywelyn2000: Roeddwn i mewn ychydig o frys ddoe pan oeddwn yn gwneud hyn i gyd. Wedi meddwl am y peth, mae'r ateb a ddarganfyddais bryd hynny'n ymddangos yn iawn, ar wahân i'r enw Saesneg ar y modiwl. Rwyf wedi ei ail-greu fel Nodyn:Delwedd - ar y dydd hwn. Gweler Wicipedia:Ar y dydd hwn/10 Awst unwaith eto. Credaf fod hyn yn ateb taclusach na defnyddio delwedd ag elfen "bawd". --Craigysgafn (sgwrs) 17:22, 27 Ionawr 2025 (UTC)
- Dw i'n licio'r syniad o'i roi maint y ddelwedd mewn Nodyn - un golygiad yn lle 365! Gwych iawn! Dw i newydd ei ychwanegu ar Wicipedia:Ar y dydd hwn/28 Ionawr (heddiw) i weld sut mae'n ymddangos yn yr Hafan. Ac fel Wicipedia:Ar y dydd hwn/10 Awst, mae'n bortread ac felly'n llawer rhy fawr. Fedri di ymgorffori syniad Ham II, sef 140x140px fyddai'n atal yr hyd a'r lled rhag bod yn fwy na 140px?
- Tybed fedrwn ni hefyd drio newid aluniad y testun i dde yn hytrach na chwith? A lleihau maint y ffont rhyw fymryn? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:08, 28 Ionawr 2025 (UTC)
- @Llywelyn2000: Triais i
140x140
yn y nodyn newydd ac mae'n debyg ei fod wedi gweithio. - Ga i awgrymu cadw'r nodyn fel is-dudalen o Nodyn:Delwedd Hafan – hynny yw, newid ei enw i Nodyn:Delwedd Hafan/Ar y dydd hwn neu Nodyn:Delwedd Hafan/AYDH, cyn ei roi ar bob tudalen? Byddai'n dilyn yr un patrwm â 10 iaith arall wedyn.
- Efallai byddai testun yn y canol yn gweithio gorau ar gyfer y delweddau teneuaf, er enghraifft yr un sydd ar Wicipedia:Ar y dydd hwn/25 Ionawr. Ham II (sgwrs) 08:24, 28 Ionawr 2025 (UTC)
- Fantastig! Craig? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:59, 28 Ionawr 2025 (UTC)
- Ie! A byddai testun yn y canol yn llawer mwy ymarferol hefyd. Rwyf wedi addasu'r cod. Diolch i chi'ch dau! --Craigysgafn (sgwrs) 09:16, 28 Ionawr 2025 (UTC)
- Enghraifft efo'r bot: Wicipedia:Ar y dydd hwn/1 Chwefror. Iawn i fynd ymlaen efo'r gweddill? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:16, 28 Ionawr 2025 (UTC)
- Ardderchog! Tynnwch y plociau! I ffwrdd â ni! Craigysgafn (sgwrs) 11:05, 28 Ionawr 2025 (UTC)
- Enghraifft efo'r bot: Wicipedia:Ar y dydd hwn/1 Chwefror. Iawn i fynd ymlaen efo'r gweddill? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:16, 28 Ionawr 2025 (UTC)
- Ie! A byddai testun yn y canol yn llawer mwy ymarferol hefyd. Rwyf wedi addasu'r cod. Diolch i chi'ch dau! --Craigysgafn (sgwrs) 09:16, 28 Ionawr 2025 (UTC)
- Fantastig! Craig? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:59, 28 Ionawr 2025 (UTC)
- @Llywelyn2000: Triais i
- @Llywelyn2000: Roeddwn i mewn ychydig o frys ddoe pan oeddwn yn gwneud hyn i gyd. Wedi meddwl am y peth, mae'r ateb a ddarganfyddais bryd hynny'n ymddangos yn iawn, ar wahân i'r enw Saesneg ar y modiwl. Rwyf wedi ei ail-greu fel Nodyn:Delwedd - ar y dydd hwn. Gweler Wicipedia:Ar y dydd hwn/10 Awst unwaith eto. Credaf fod hyn yn ateb taclusach na defnyddio delwedd ag elfen "bawd". --Craigysgafn (sgwrs) 17:22, 27 Ionawr 2025 (UTC)
Golygydd newydd ddod o en-wici
golyguMae na olygydd o en-wici (lle mae'n cyd-gyfarth mewn pac gyda golygyddion tebyg ee Sirfurboy, DankJae...) newydd greu tudalen ar cy-wici yn fama. Unrhyw olygiad negyddol am Gymru neu'r Gymraeg - neu fandaliaeth arall - a mi gaiff ei flocio. Dyma rai o'i olygiadau ar en: 1, 2, 3, 4, 5... Llawer o bethau negyddol, bach, dros lawer o flynyddoedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:04, 6 Chwefror 2025 (UTC)
Archwiliad 2025 o olygiadau diweddar ein Gweinyddwyr
golyguDaeth hi'n amser ail-edrych ar ein Gweinyddwyr nad yddyn nhw wedi golygu ers tro (tros 12 mis). I'r perwyl hynny, dw i wedi rhoi'r manylion ar Wicipedia:Gweinyddwyr. Tybed, os oes gennych sylw, neu os ydych yn cytuno i mi fynd ymlaen - a wnewch chi nodi hynny ar y dudalen Sgwrs yn unig, lle bod y drafodaeth yn mynd ar chwal. Ar ol gorffen y broses (drist) hon, gallem ystyried a oes angen Gweinyddwyr newydd. Cofiwch hefyd nad oes dim yn ddi-droi-nol! Gallem ailarfogi Gweinyddwr sy'n dychwelyd i'r gorlan unrhyw dro, os dymunent ailafael ynddi. Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:48, 6 Chwefror 2025 (UTC)
Helo - Cydgysylltydd Rhaglen Cymru newydd yma :)
golyguHelo - jest neges fach fyr i gyflwyno fy hun. Fi yw’r Cydgysylltydd Rhaglen Cymru (ac Ieithoedd) newydd. Dwi’n gweithio rhan amser, tridiau bob wythnos (Dydd Mawrth i Ddydd Iau). Dechreuais i’r swydd ar ddiwedd Ionawr (a dwi dal yn dysgu lot am ddefnyddio Wicipedia!). Dwi'n byw yng Nghaerdydd nawr ond yn wreiddiol dwi'n dod o Lanelli.
Yn y dyddiau ymlaen wna i rannu holiadur bach ar gyfer unrhyw un sy'n eisiau rhannu eu barn am ba fath o gymorth nhw'n eisiau gan y cydgysylltydd. Ond yn y cyfamser, os hoffech chi cwrddo fi, gofyn cwestiynau neu os gennych unrhyw bryderon neu awgrymiadau chi’n eisiau rhannu, fy nghyfeiriad e-bost yw gemma.coleman@wikimedia.org.uk. Edrych ymlaen at weithio gyda chi gyd! Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 10:01, 12 Chwefror 2025 (UTC)
- Pob hwyl, Gemma! Mae'r disgrifiad o'r swydd yn y ddolen yn defnyddio iaith fiwrocrataidd nodweddiadol. Mae hyn yn anochel, wrth gwrs. Allech chi egluro ychydig pa fath o beth y byddwch chi'n ei wneud o ddydd i ddydd, a pha fath o beth y dylai defnyddwyr a gweinyddwyr fod yn ei ddwyn i'ch sylw? Craigysgafn (sgwrs) 10:37, 12 Chwefror 2025 (UTC)
- Ia, wir, llongyfarchiadau - a phob hwyl i ti yn y swydd newydd! Robin aka Llywelyn2000 (sgwrs) 10:51, 12 Chwefror 2025 (UTC)
- Hi @Craigysgafn! Cwestiynau gwych ond yr ateb onest yw - dwi ddim yn siŵr ar hyn o bryd!
- Does dim rhaid i unrhyw un cysylltu fi ond am unrhyw gwestiynau/ awgrymiadau neu bethau arall pobol yn gobeithio mae'n bosib Wikimedia UK gallu helpu gyda (e.e. gwybodaeth am offer Wici, golygathons, awgrymiadau a.y.b.), mae croeso mawr iddyn nhw cysylltwch fi a wna i drio fy ngorau i helpu.
- Mae’n rhy gynnar i wybod beth fydd fy ngwaith fel arfer yn edrych fel dydd i ddydd. Mae'n debygol i newid wythnos i wythnos hefyd. Gwaith dwi'n disgwyl gwneud yn y wythnosau ymlaen yw helpu trefnu cynhadledd ieithoedd lleiafrifiedig, dathlu Wicipedia Cymraeg ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi a theithio i nifer o "golygathonau" wahanol dros y DU. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 15:08, 12 Chwefror 2025 (UTC)
- Croeso Gemma! Edrych ymlaen i gydweithio. Jason.nlw (sgwrs) 10:05, 17 Chwefror 2025 (UTC)
- Helo Gemma, llongyfarchiadau ar dy benodiad a phob dymuniad da ar gyfer y swydd! Gobeithio dy fod yn mwynhau'r profiad hyd yn hyn. --Oergell (sgwrs) 15:30, 19 Mawrth 2025 (UTC)
Sut y dylem ymateb i'r cais hwn i ddileu erthygl
golyguGweler Sgwrs:Connor Morgans. Mae yna fater o bolisi yma. Ddylen ni ddileu erthygl oherwydd nad yw'r pwnc yn ei hoffi? Craigysgafn (sgwrs) 21:35, 12 Chwefror 2025 (UTC)
- Wela i'r un rheswm dros ddileu'r erthygl. Mae'r ffaith bod erthygl en: wedi ei dileu yn gwbl amherthnasol. Os nad yw'r unigolyn dan sylw yn hoffi'r erthygl, dylen ni geisio sicrhau mai dim ond gwybodaeth berthnasol sy yn y parth cyhoeddus sydd i'w gweld - ond fe fyddai dileu'r erthygl yn gosod cynsail peryglus. Llygad Ebrill (sgwrs) 14:11, 13 Chwefror 2025 (UTC)
- Mae'n werth ystyried yr hawliau o dan ddeddf GDPR (canllaw ICO). Nid yw'r hawl i anghofio yn gymwys ar gyfer ".. exercise the right of freedom of expression and information;". Mae'r erthygl ei hun yn llawn cyfeiriadau da ac amrywiol, felly mae'r wybodaeth i gyd yn gyhoeddus mewn llefydd eraill, ac wedi ei gynnig gan yr unigolyn fel rhan o gyhoeddusrwydd. Mae dyddiad ei ben-blwydd wedi ei gyhoeddi ar Instagram. Mae yna drafodaethau eitha helaeth am hyn a'r effaith ar Wikipedia nôl yn 2014 ond mae'n bosib bod pethau wedi symud ymlaen ers hynny. Rhaid ychwanegu yr ymwadiad arferol - Nid Wyf Yn Gyfreithiwr. Dafyddt (sgwrs) 23:13, 13 Chwefror 2025 (UTC)
- Hoffwn i jyst cytuno efo'r dadlau dros cadw'r erthygl yma. Dw'i methu gweld unrhyw rheswn i dileu. Jason.nlw (sgwrs) 10:13, 17 Chwefror 2025 (UTC)
Ymgyrch "Wiki Loves Mother tongue"
golyguSylwais i’r digwyddiad ar-lein hwn sy'n cael eu cynnal nos yfory (Dydd Gwener 21ain) i lansio’r ymgyrch “Wiki Loves Mother tongue”. Mae'n ymgyrch byd-eang ond ar y tudalen blaen eu gwefan mae fideo o siaradwr Cymraeg. Hefyd, dwi’n siŵr mae mwyafrif ohonoch chi yn fwy ymwybodol o’r ymgyrchoedd Wiki na fi ond ni’n mewn canol o “Wici Llên Gwerin” (a “Feminism and Folklore”) os rheiny o ddiddordeb i unrhyw un sy ddim yn gwybod amdanyn nhw yn barod. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 14:09, 20 Chwefror 2025 (UTC)
Golygathon "Art + Feminism" yfory ym Machynlleth (Mawrth 7fed)
golyguDwi'n mynd i golygathon nos yfory (dydd Gwener y 7fed) yn Hyb Cymunedol Taj Mahal ym Machynlleth sy'n cael ei gynnal fel rhan o'r ymgyrch "Art + Feminism". Cofrestriad a mwy o wybodaeth yma. Os oes unrhyw un arall yn mynd hefyd, byddwn i wrth fy modd i ddweud helo (dwi'n menyw wen yn fy nhridegau hwyr gyda gwallt brown byr). Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 10:05, 6 Mawrth 2025 (UTC)
Llwyth o Luniau newydd ar Gomin!
golyguHelo pawb. Mae braf gen i cyhoeddu bod y Llyfrgell Gen wedi rhyddhau casgliad Geoff Charles i Comin Wici. Mae'r casgliad yn cynnwys tua 130,000 o ddelweddau gwych o bywyd yng Nghymru rhwng tua 1945 - 1975 gan cynnwys eisteddfodau, gwleiddyddion, tywydd eithafol a protestiaid pwysig. Felly plis ewch amdani a defnyddio nhw i greu a gwella erthyglau Wici! Dyma blas i chi...
-
Ffatri newydd yng Nghonwy
-
Protest Llyn y Fan Fach
-
Syr Idris Foster
-
Noson Lawen ym Mhlas y Giler, Pentrefoelas
-
Eira yn Llansilyn a Rhydycroesau, 1955
Jason.nlw (sgwrs) 10:11, 10 Mawrth 2025 (UTC)
- Mae 4,500+ o bortreadau o actorion ac o actorion yn perfformio ar lwyfan i Gwmni Theatr Cymru, efo teitlau cyffredinol sydd ddim yn enwi'r actorion. Rwy'n adnabod wynebau nifer ohonynt ond yn methu cofio eu henwau. Os all rhywun rhoi enwau arnynt a'u rhoi ar erthyglau actorion / dramâu, mi fyddent yn gaffaeliad mawr i Wicipedia. Dolen i'r casgliad ?Paulpesda
AlwynapHuw (sgwrs) 17:15, 16 Mawrth 2025 (UTC)
- Paul, dwi wedi ychwanegu enwau i rhai o'r uchod. Clive Roberts ydi'r boi ifanc yn Pros Kairon dwi'n meddwl ie? Mae dy erthyglau di am y dramau yn cynnwys y cast felly mae'n haws gweithio allan pwy di pwy wedyn. Mae tipyn o'r lluniau yn bodoli yn Archifau Gwynedd hefyd felly mae chwilio eu gwefan am enw drama yn gallu dangos rhai canlyniadau defnyddiol sy'n cynnwys enwau.--Dafyddt (sgwrs) 21:55, 19 Mawrth 2025 (UTC)
- Nid ymhob achos, ond os agorwch chi'r lluniau yn Comin, a sgrolio i lawr i Crynodeb, mae rhai yn cynnwys y maes depicted people sydd wedi pigo fyny metadata'r Llyfrgell os oedd enw'r person(au) yn hysbys. Rhyswynne (sgwrs) 09:43, 20 Mawrth 2025 (UTC)
- Fi wnaeth ychwanegu rheina Rhys. Dwi ddim yn meddwl byddai y meta data wedi gallu bwydo'r maes yna (yn otomatig o leia). Dafyddt (sgwrs) 12:13, 20 Mawrth 2025 (UTC)
- Ah, ro'n i wedi meddwl y byddai hynny'n bosibilrwydd, ond doedd y botwm 'hanes' ddim yn ateb fy nghwestiwn. Rhyswynne (sgwrs) 08:56, 21 Mawrth 2025 (UTC)
- Fi wnaeth ychwanegu rheina Rhys. Dwi ddim yn meddwl byddai y meta data wedi gallu bwydo'r maes yna (yn otomatig o leia). Dafyddt (sgwrs) 12:13, 20 Mawrth 2025 (UTC)
- Nid ymhob achos, ond os agorwch chi'r lluniau yn Comin, a sgrolio i lawr i Crynodeb, mae rhai yn cynnwys y maes depicted people sydd wedi pigo fyny metadata'r Llyfrgell os oedd enw'r person(au) yn hysbys. Rhyswynne (sgwrs) 09:43, 20 Mawrth 2025 (UTC)
- Diolch i chi gyd am eich sylwadau. Wedi cymryd seibiant o'r gwaith yma am gyfnod, ond am ddychwelyd ati yn fuan. Mor falch bod y casgliad gwerthfawr yma bellach ar gael i'w gweld a'u gwerthfawrogi. Diolch i @Jason.nlw Paulpesda (sgwrs) 10:39, 27 Mawrth 2025 (UTC)
- Diolch i ti @Paulpesda am gwneud y cais i defnyddio'r casgliad - dw'i môr falch gallu rhannu'r lluniau yma yn agored o'r diwedd! Falch hefyd i weld nhw'n cael i defnyddio. Hoffwn i bwydo'r data newydd am pwy sydd yn y lluniau yma nôl i fy gronfa data Awdurdodau Gymraeg maes o law. Cofion Jason.nlw (sgwrs) 14:43, 9 Ebrill 2025 (UTC)
- Paul, dwi wedi ychwanegu enwau i rhai o'r uchod. Clive Roberts ydi'r boi ifanc yn Pros Kairon dwi'n meddwl ie? Mae dy erthyglau di am y dramau yn cynnwys y cast felly mae'n haws gweithio allan pwy di pwy wedyn. Mae tipyn o'r lluniau yn bodoli yn Archifau Gwynedd hefyd felly mae chwilio eu gwefan am enw drama yn gallu dangos rhai canlyniadau defnyddiol sy'n cynnwys enwau.--Dafyddt (sgwrs) 21:55, 19 Mawrth 2025 (UTC)
Wici'r Holl Ddaear Cymru
golyguHelô bawb! Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd, ac yma yn Wikimedia UK rydyn ni’n troi ein sylw at Wici'r Holl Ddaear Cymru. Bydd ein cydlynydd newydd yng Nghymru yn arwain adain Gymreig y gystadleuaeth. Ac un o’r pethau sydd ei angen arnom yw help efo’r beirniadu – os hoffech chi gymryd rhan, anfonwch e-bost ataf ar richard.nevell wikimedia.org.uk
Mae maint y gwaith dan sylw yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a gawn. Yn y gorffennol, bu miloedd o luniau, felly gorau po fwyaf o bobl sydd gennym sy'n gallu helpu. Os cawn lawer o geisiadau, efallai y byddwn yn rhannu'r gwaith beirniadu yn ddwy ran: (1) proses sgrinio i lunio rhestr hir, a (2) cyfarfod rheithgor i benderfynu ar yr enillwyr. Byddech yn gallu cyfrannu at y cyntaf a dal cyflwyno lluniau ar gyfer y gystadleuaeth, ond peidiwch â gwneud hyn os oes gennych ddiddordeb mewn bod ar y rheithgor a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Richard Nevell (WMUK) (sgwrs) 09:13, 21 Mawrth 2025 (UTC)
Y Llais - eich cyngor plîs
golyguHelo bawb, wedi bod yn dawel iawn yn 2025 yr unig gofnod dwi 'di sgwennu yw https://cy.wikipedia.org/wiki/Y_Llais_(rhaglen_deledu). Gweld nawr bod rhywun wedi creu cofnod Saesneg am Y Llais (ac yna erthygl hŷn am The Voice). Be' chi'n awgrymu? Cadw rhan gyntaf fy erthygl Gymraeg am Y Llais a newid y teitl i rhywbeth fel The Voice (cyfres masnachfraint) ac yna creu cofnod newydd (sef, i bob pwrpas, ail ran fy erthygl i ar Y Llais) fel confod newydd i ddolenni gyda'r cofnod Saesneg ar Y Llais. Dwi ddim eisiau i Saeson a phobl Cymraeg gweld bod 'na gofnod yn Saesneg am y Llais a dim un Cymraeg! Stefanik (sgwrs) 16:55, 31 Mawrth 2025 (UTC)
- Mae rhywun arall wedi creu erthygl am y Llais o'r blaen - Y Llais. Rwy'n awgrymu disodli'r cynnwys yn y dudalen gwta yma gyda'r cynnwys o dy erthygl di, sydd o dan adran 'Y Llais Cymru'. Mae hwn yn cysylltu gyda'r erthygl tebyg ar en-wiki, sef https://en.wikipedia.org/wiki/Y_Llais
- Wedyn gellid ail-enwi dy erthygl wreiddiol i "The Voice (masnachfraint)" a nodi ar hwnnw bod y fersiynau DU, Cymraeg a'r rhai rhyngwladol eraill. Dafyddt (sgwrs) 23:08, 31 Mawrth 2025 (UTC)
- Gwych! Diolch Dafydd - lot fawr o help! Dwi wastad yn gweld pethau fel hyn yn ddryslyd! Wedi dilyn dy gyfarwyddiadau. Gobeithio bod yn edrych yn lân. Stefanik (sgwrs) 12:24, 1 Ebrill 2025 (UTC)
- Mae'n edrych yn grêt. Dwi wedi addasu'r penawdau ychydig ar erthygl Y Llais. Falle bydd angen ail-drefnu eto ar gyfer ail gyfres. Dafyddt (sgwrs) 15:23, 1 Ebrill 2025 (UTC)
- Gwych! Diolch Dafydd - lot fawr o help! Dwi wastad yn gweld pethau fel hyn yn ddryslyd! Wedi dilyn dy gyfarwyddiadau. Gobeithio bod yn edrych yn lân. Stefanik (sgwrs) 12:24, 1 Ebrill 2025 (UTC)
Golygathon Wythnos Hanes Traws + yng Nghaerdydd (9fed Mai)
golyguByddwn ddathlu Wythnos Hanes Traws + (dolen yn Saesneg yn unig) drwy gynnal golygathon yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd i greu a golygu erthyglau ynghylch pobol Draws yng Nghymru a digwyddiadau perthnasol. Cofrestriad a mwy o fanylion yma. Croeso cynnes i olygwyr newydd sbon a golygwyr profiadol.
Am rai sy’n eisiau ymuno ni yn rhithiol, wna i greu rhyw fath o “writing drive” - manylion llawn i ddilyn! Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 15:08, 9 Ebrill 2025 (UTC)
Holiadur Celtic Knot
golyguRydym gynllunio ar gyfer cyfarfod cymunedol ar-lein yn ddiweddarach eleni ar gyfer Celtic Knot (cynhadledd sy’n dathlu ieithoedd lleiafrifol). Byddem wrth ein bodd yn dysgu oddi wrthych beth hoffech chi ei weld.
Rydym wedi creu holiadur bach i ddysgu beth roedd yn llwyddiannus yn Celtic Knot 2024 a beth hoffech chi weld eleni. Mae’r arolwg yn agor i bobol sydd wedi mynychu’r gynhadledd llynedd a phobl gyda diddordeb am ddod i gyfarfod cymunedol ar-lein eleni. I gymryd rhan, ewch i https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSccsyMDUDFYush1oBasvulH4Vsjp0hubrKS_9u_73LCVtbJ0Q/viewform?usp=dialog Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 08:01, 17 Ebrill 2025 (UTC)