Wicipedia:Negesfwrdd gweinyddiaeth/Archif 1

ailenwi cyfrifon gydag enwau anaddas

golygu

So soon after setting this up, reason to post to it...

I'll say this in English - not got the time to translate it just now.

I would like to suggest that where inappropriate usernames have made edits, the usernames are renamed by the bureaucrats after the accounts are blocked, so that we don't have those usernames showing up in page histories forever after. In particular, the name of the account that recently vandalised Barack Obama seems to have a somewhat offensive meaning in Czech. Such accounts should just be renamed something like Fandal 1, Fandal 2, etc. Thanks. Luke 14:35, 4 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

P.S. I know it's only the one edit in this case, so you could perhaps question in this case whether it's worth the effort of renaming the account, but the point is that if there is a policy consistently applied that inappropriate accounts will get renamed, then hopefully it will reduce the incentive for people to create them in the first place. Luke 14:43, 4 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Mewn gwirionedd dwi ddim yn meddwl fod hynny'n ymarferol, Luke. Mae hyd yn oed fandaliaeth yn rhan o hanes tudalen. Hefyd, yn achos "fandaliaid cyfresol" mae'n bwysig cadw trac arnynt a'u "pypedau llaw" (sock puppets). Roeddwn i'n amau fod enw cyfrif y "Fandal Obama" trawswici sydd wedi bod yn troi i fyny yn ddiweddar yn llai na gwleidyddol gywir, fel petai, ond prin fod llawer o Tsieciaid yn dod yma. Dwi'n deall dy bwynt, serch hynny. Wyt ti wedi holi ynglŷn â hyn ar wici arall, fel en? Mae enwau defnyddiwr anaddas yn waharddedig, beth bynnag, ond ydy hynny'n golygu dileu'r cyfrif yn lle ei flocio yn unig? Pwynt positif: o leia os oes 'na gyfrif wrth yr enw 'B*st*rd' sydd wedi cael ei flocio yn barod, heb ei ddileu, fedra neb arall ddefnyddio'r gair yna i greu cyfrif wedyn. Anatiomaros 19:35, 4 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Pwynt da, rwy'n meddwl, ond dwi ddim yn gwybod os mae cyfrif yn cael ei ail-enwi, os mae'n bosibl ailddefnyddio'r hen enw ar gyfer cyfrif newydd. Efallai nac yw. (I ateb eich cwestiwn - nac ydw.) Luke 00:56, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

golygu tudalen wedi'i diogelu

golygu

Gwelwch Sgwrs MediaWici:Common.js/search.js - diolch. Luke 00:58, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Wedi gwneud. Rhion 07:29, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr. Yn anffodus roeddwn i'n aniawn. Mae'r dudalen chwilio yn dal i ddweud "Recherche interne". Ble mae'r neges yn cael ei chadw? Rwy wedi chwilio ymhobman, heb lwyddiant. Luke 18:17, 6 Ionawr 2010 (UTC) Mae'n gweithio. Was cached. Shift-reload did the trick. Luke 18:33, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

  Cwblhawyd

Diolch, Luke. Am eiliad roeddwn i'n meddwl dy fod yn defnyddio iaith anweddus - "Mae'n gweithio. Was cached." - gan annerch rhyw gwas o'r budreddi mwyaf, ond gwelaf rwan mai Saesneg oedd o. :-) Anatiomaros 19:00, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Blychau defnyddwyr

golygu

Copïwyd hyn o dudalen Sgwrs sy'n mynd i gael ei dileu:

We need to be very wary of using the main template namespace for userboxes which express people's political/religious/cultural etc POV (as opposed to boxes which are of obvious direct use to the project). There has been heaps of debate about this on the English site, and Jimbo's considered opinion is that these things tend to encourage factionalism rather than cooperation, and if people want to have them then they should be relegated to user space so as not to appear to give them official sanction - see en:Wikipedia:Jimbo on Userboxes. I really think we should be doing the same over here. There is technically no requirement for stuff to be in Template space just for the {{...}} syntax to work: {{foo}} will default to {{Nodyn:foo}}, but you can explicitly specify {{Defnyddiwr:foo/bar}} or whatever. Luke 14:12, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Shwmae Luke! Sori - fy mai i yw hwnna! That was my fault - I'm probably the least technically minded person you're likely to meet. I was trying to create it but and tried copying what some users had done on the English wiki. But I hear what you're saying and I'll bear that in mind in future. Would it be wise for me to rename it? Rhodri77 14:20, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Hi, thanks for your response. I'm really happy to hear that you basically agree with this and that it's just a technical issue. So yes, please - please move it to Defnyddiwr:Rhodri77/Blwch cefnogaeth hoyw or something and delete (or don't create) the resulting redirect. Also please please please with lots of sugar on top, get rid of the categories in these boxes, as they are probably the most dangerous aspect of the whole thing. It may be hard to identify with this issue while we are currently a small project with a handful of users, but let's plan for future growth - we absolutely don't want to set up categories which spoon-feed people with ways to identify sets of users who adhere to certain viewpoints so that they can lobby support for POV pushing on controversial articles. Sorry that I've written all this in English; it would really have taken me ages to write it in Welsh; I hope it won't put you off considering the argument I'm making. Luke 14:36, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn gwneud synnwyr. Mae gen i rai ar fy nhudalen ar en ond mae'r nodiadau eu hunain ar dudalennau arbennig y defnyddwyr a'u creodd a dydyn nhw ddim yn fy rhoi mewn categori. Mae hynny'n rhywbeth i'w osgoi ar bob cyfrif, er nad oes gen i wrthwynebiad i'r blychau eu hunain cyn belled â'u bod yn cadw o fewn rheolau cyffredinol Wicipedia, e.e. dim byd hiliol ac ati.
Gan fod y nodyn yma wedi'i ddileu a dim ond y Sgwrs yn aros, a fasai'n syniad i gopïo hyn i'r Negesfwrdd newydd a dileu'r dudalen wedyn? Anatiomaros 16:19, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno! Dw i'n falch o gael rhywun yn gwneud awgrymiadau a rhoi cyngor i mi am nad yw fy sgiliau technegol yn dda iawn. Dw i wedi dileu'r categoriau nawr. Rhodri77 16:33, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr i chi ddau. Ie Anatiomaros, croeso i chi symud cynnwys y dudalen sgwrs hon i rywle e.e. y negesfwrdd a dileu'r 'dalen. Luke 16:49, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
  Cwblhawyd
Anatiomaros 16:52, 6 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]


Amlygrwydd (neu ei ddiffyg...)

golygu

Mae gen i amheuaeth fawr am amlygrwydd George Miok: gweler Sgwrs:George Miok. Anatiomaros 17:33, 7 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Mae 'na bleidlais am ei dileu neu ei chadw yn cymryd lle, ond dim ond tair pleidlais a fwriwyd hyd yn hyn (mae'r erthygl ar en wedi cael ei dileu). Anatiomaros 17:41, 28 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Oes neb arall gyda barn am hyn? Mae'n fater o egwyddor bwysig, dwi'n meddwl, a basai'n braf cael mwy na dim ond tair pleidlais (hyd yn hyn). Anatiomaros 23:29, 30 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch i bawb am yr ymateb. Fel mae Luke yn awgrymu, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig cadw'r drafodaeth - ar dudalen Sgwrs Wicipedia:Amlygrwydd efallai - beth bynnag ydy'r penderfyniad. Anatiomaros 16:28, 31 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Erthyglau heb ffynonellau

golygu

Efallai y dylem ni fod yn garedig wrth ddefnyddio'r nodyn newydd Nodyn:dim-ffynonellau; yn achos erthygl am bentref neu nodwedd tirlun fel mynydd, er enghraifft, lle nad oes fawr mwy na disgrifiad o'i lleoliad. Mae rhoi'r nodyn reit ar ben y dudalen yn tynnu sylw, mae'n wir, ond yn esthetig mae'n edrych yn hyll, felly dwi'n awgrymu rydym mond yn gwneud hynny mewn achosion "difrifol"; fel arall efallai ei bod yn well creu adran 'Cyfeiriadau' tua gwaelod yr erthygl, uwchben 'Gweler hefyd' neu 'Dolenni allanol' er enghraifft, a rhoi'r nodyn yno? Rhaid cofio mai criw bychan ydym ni a does fawr neb heblaw ni yn debygol o wneud y gwaith, yn wahanol i'r sefyllfa ar y wicis mawr. Fel arall, bydd gennym ni'r nodyn yma ar ben y rhan fwyaf o'r herthyglau! Anatiomaros 16:44, 28 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Cytuno. Fe ddylid cadw'r nodyn ar gyfer erthyglau lle mae'n bwysig cael ffynonellau, e.e. pynciau dadleuol. Rhion 17:37, 28 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

dodgy content

golygu

I've found an old version of a page which contains some content that really ought to be deleted. Could somebody do this please? I think you have to delete the page and then restore all versions except the one you want to keep deleted.

Here it is: [1]

Thanks. Luke 22:28, 30 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

then restore all versions except the one you want to keep deleted
Is it not good enough to copy current content, delete page and restore? I wouldn't know how to restore all other versions minus the on in question. I'll leave it as it is for now and see if others know how before deleting.--Ben Bore 23:01, 30 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

  Cwblhawyd
(Dyma'r tro cyntaf i mi drio hyn, ond mae'n gweithio!). Anatiomaros 23:04, 30 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Thanks!
(Info to Ben Bore for another time. When you go to view deleted content, by default no revisions are selected. Click "invert selection" so they are all selected, and just deselect the one that you don't want. Then click "restore". NB this is based on another wiki where I have admin rights but where the interface is in English, so I couldn't tell you the exact words to click on in Welsh.) Luke 23:14, 30 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Croeso, Luke. Felly rwyt ti'n weinyddwr ar y lle arall 'na? Anatiomaros 23:18, 30 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Nac ydw. Mae'n well gen i beidio â dweud pa wici ydy e - ond nid rhan o Wicimedia. Mae llawer o wicis eraill sy'n defnyddio'r un meddalwedd. Luke 23:20, 30 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Iawn, dim problem. Rwyt ti'n gwybod dy bethau, beth bynnag, ac mae'n braf cael cymorth rhywun arall sy'n gyfarwydd â'r ochr dechnegol. Anatiomaros 23:25, 30 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]


Statws Gweinyddwr

golygu

Mae gennym ni nifer o ddefnyddwyr sydd a statws Gweinyddwr ond sydd heb gyfrannu o gwbl ers tro. Efallai nad yw hyn o bwys mawr, ond fe allai fod yn gamarweiniol i rywun sy'n chwilio am gymorth Gweinyddwr ac yn dewis rhywun sydd wedi mynd. Mae gan rai Wikis bolisi o dynnu statws Gweinyddwr oddi ar bawb sydd heb gyfrannu o gwbl ers blwyddyn, ar y sail eu bod i bob golwg wedi gadael y prosiect, e.e. y wiciau Almaeneg ac Iseldireg. A ddylem ni gael polisi tebyg? Digon hawdd rhoi'r statws yn ô[l iddynt os ydynt yn dychwelyd rywbryd. Mae modd gwneud cais i dynnu stats Gweinyddwr yma Rhion 17:56, 10 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Hyd yn oed os ydych yn tynnu statws gweinyddiwr oddiwrth y rhain sydd heb gyfrannu'n ddiweddar, os mae pobl yn mynd at weinyddwr unigol i ofyn am gymorth, mae posiblrwydd bod y perswn hwn ar ei wyliau a.y.y.b. Un o fwriadau'r negesfwrdd hwn yw rhoi i bobl lle i chwilio am gymorth am faterion ynglŷn â gweinyddiaeth heb fod rhaid iddyn nhw ddewis gweinyddwr unigol. Luke 21:33, 10 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Mae dy bwynt am y negesfwrdd yn ddigon teg, Luke, ond dwi'n meddwl fod Rhion yn iawn hefyd. Tynnwyd sylw at hyn o'r blaen (ble yn union? dim yn cofio rwan). Mae gennym ni rhai gweinyddwyr sydd heb gyfrannu ers 4 neu 5 mlynedd ac un sydd wedi gadael am byth. Pe bai 'mond er mwyn "taclusrwydd" mae'n gwneud synnwyr tynnu eu statws gweinyddwr. Doeddwn i ddim yn gwybod am bolisïau'r wicipediau Almaeneg ac Iseldireg cyn rwan ond mae hynny'n rhoi cynsail i ni. Cymerais ar fy hun y cyfrifoldeb o fynd hanner ffordd i'r cyfeiriad hwnnw trwy beidio cynnwys y rhai sydd heb gyfrannu ers oesoedd yn y categori:Gweinyddwyr Wicipedia. Dwi'n meddwl dylem ni ystyried mabwysiadu polisi tebyg (eithriadau: salwch, amgylchiadau anodd dros dro a.y.y.b). Anatiomaros 22:05, 10 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Newidiadau diweddar gan Sanddef

golygu

Helo bawb. Nad wy'n gwybod os ydych chi'n gwybod, ond mae Sanddef newydd ddod yn ôl ac yn dad-wneud llawer o waith a wnaethpwyd gennyf yn bersonol, ynglŷn â hud, dewiniaeth, Wica ayyb. Efo llawer o erthyglau, mae o wedi eu gwacáu, gan gynnwys adrannau i gyd. Nid yw hynny yn deg o gwbl arnaf i neu ar bobl sydd am ddarllen ynglŷn â phethau fel hyn. Mae o heb drafod yr hyn a wneir o gwbl. Oes rhywbeth gall rhywun wneud? Xxglennxx 01:44, 27 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Yn gyntaf, mi wnest tithau ddadwneud llawer o'm gwaith fi, ac adfer y gwaith gwreiddiol dilys oeddwn i. Mi wnest ti llanast llwyr o'm gwaith ar hud a dewiniaeth gyda dy ddiffiniadau anghywir, dy agenda Wiccaidd a dy "copy and paste" jobs o'r Seasneg, Mi wnest ti hynny i gyd heb drafod dim. Yn y dyfodol dylet ti SGWRSIO yn gyntaf yn lle rhuthro i mewn a gwneud cawl o bethau. Sanddef 05:25, 27 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Yn bersonol, wn i ddim byd am y pwnc, a does gen i ddim syniad diffiniadau pwy sy'n gywir. Ond mae'n amlwg fod newidiadau mawr yn cael ei gwneud i erthyglau heb drafod y mater gyntaf. Ga i ofyn i'r ddau ohonoch drafod ar y dudalen sgwrs cyn gwneud unrhyw newidiadau mawr i erthyglau ar y pynciau hyn, yn enwedig cyn dileu rhannau sylweddol o erthygl? Byddai modd defnyddio'r Caffi i dynnu pobl eraill i mewn os oes angen. Rydym yn llwyddo i osgoi "rhyfeloedd golygu" yn eitha da yma fel rheol, ac fe hoffwn i hynny barhau. Rhion 07:01, 27 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n ddrwg iawn gen i os fy mod i wedi dadwneud dy gyfraniadau - dwi ddim yn mynnu tramgwyddo. Mae cyfieithu o'r Saesneg yn digwydd ar bob Wici, ac dyma sut mae llawer o'r erthyglau ar y Wici hwn yn cael eu gwneud. Gwnes i greu popeth ynglŷn â Wica a Phaganiaeth o ddiweddar ar fy mhen fy hun (bron mwyaf o'r amser), ac nid yw'n sothach ta waith. Os oes gwallau yno, dwi'n siŵr basai rhywun arall newid nhw, ond dyn nhw heb (o ddiweddar(!)). Dwi'n mynd i ddad-wneud y newidiadau dy fod di wedi wneud i Wica eto. Xxglennxx 16:54, 27 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi creu eginyn Wicipedia:Cwrteisi, yn seiliedig ar y fersiwn yn y wici Iseldireg. Mae'n ymddangos bod angen rhywbeth fel hyn bellach, a byddai ychwanegiadau at hwn yn dderbyniol os oes rhywun yn teimlo fel gwneud. Mae llawer mwy ar y pwnc mewn rhai ieithoedd eraill, e.e. Saesneg, ond byddai cyfeithu'r cyfan yn dipyn o waith. Rhion 12:04, 28 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

"a byddai ychwanegiadau at hwn yn dderbyniol os oes rhywun yn teimlo fel gwneud" - wedi gwneud, drwy greu eithriad! roedd un o'n defnyddwyr yn galw am y feirniadaeth gref a gaeth o oddiwrth Sanddef (dwi'm yn gweld y sylw rwan, ond rhywbeth fel "os wyt ti am ddysgu'r Gymraeg, dos i'r Goleg"), ac mae rhaid ini osgoi mabwysiadu rheolau sy'n ei hatal mewn sefyllfaoedd tebyg. 'dan ni ddim isio sefyllfa lle mae defnyddwyr yn actio fel nhw sydd yn unig berchennog ar yr erthyglau ac yn cwyno i'r gweinyddwyr os ydy unrhywun yn beiddio i olygu "eu" herthyglau, wrth i ni greu'r ddyled arnom ni i eu hamddiffyn rhag bob beirniadaeth.

Hanes anffyddiaeth

golygu

Mae angen cadw golwg ar Hanes anffyddiaeth, cyn i ryfel golygu arall ddatblygu. Rhion 22:00, 9 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Hollol. Ar rai o'r wicis eraill, fel yr Anglopedia, mae ganddynt reol am faint o weithiau gall rhywun gwrthdroi newidiadau i erthygl mewn cyfnod o 24 awr. Efallai bod angen rhywbeth fel "Y Rheol Tri Gwrthdroad" (gweler en:WP:3RR) yma hefyd (eithriadau yn cynnwys atal fandaliaeth, gwrthdroi dy gamgymeriadau dy hun, a.y.y.b.)? Anatiomaros 17:04, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
ON Er imi gytuno gyda Sanddef fod angen cywiro pethau, gan nodi enghraifft amlwg, doeddwn i ddim yn disgwyl i bethau troi allan fel hyn nac yn awgrymu newid y testun yn gyfangwbl. Mae dadl dros wneud hynny weithiau, wrth gwrs, ond rhaid parchu cyfraniadau dilys hefyd a chadw'r gorau o'r hen destun. Anatiomaros 17:09, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]