Wicipedia:Pigion hŷn
Tywodfaen
golyguCarreg waddodiaidd yw tywodfaen. Cwarts a ffelspar sydd ynddo'n bennaf. Y rheswm am hyn yw bod cwarts yn fwyn cryf iawn sy'n aros ar ôl hyd yn oed pan mae mwynau eraill yn diflannu trwy erydiad.
Senedd Ewropeaidd
golyguSenedd yr Undeb Ewropeaidd yw'r Senedd Ewropeaidd. Fe'i seiliwyd yn Strasbwrg o dan dermau protocol Cytundeb Amsterdam, ond mae ei phwyllgorau yn cwrdd ym Mrwsel gan fod Cyngor Gweinidogion Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd yn y ddinas honno hefyd.
Tafod
golyguSwp o gyhyrau yn y geg yw tafod. Ei swyddogaeth yw i drafod a blasu bwyd. Yn ogystal a hyn, fe'i ddefnyddir i siarad -- onibai am y tafod, ni fyddai modd ynganu bron unrhyw gytsain, nag ambell i lafariad chwaith.
David Lloyd George
golyguRoedd David Lloyd George, Iarll 1af Lloyd George o Ddwyfor (17 Ionawr 1863 - 26 Mawrth 1945), "y Dewin Cymreig", yn wleidydd Cymreig ac yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig. Ym Manceinion, Lloegr, y cafodd ei eni. Ym mlwyddyn olaf ei oes cafodd ei ddyrchafu i fod yn Iarll gan y Brenin Sior VI o'r Deyrnas Unedig.
Haul
golyguYr Haul yw'r seren agosaf at y ddaear. Fe'i grëwyd tua 4,000,000,000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae tua hanner ffordd trwy ei oes. Mae'r Haul yn mesur rhyw 865,000 milltir o begwn i begwn, a'i bellter o'r Ddaear yw 93,000,000 o filltiroedd ar gyfartaledd (mae hwn yn newid ±1,500,000 milltir mewn blwyddyn).
Gwiwer
golyguAnifail bach, rhyw 38-45cm o hyd, yw'r wiwer. Mae gwiwerod yn byw yn bennaf mewn coedwigoedd, ac yn bwyta cnau maent wedi casglu am y gaeaf. Yng Nghymru mae'r wiwer goch dal yn fyw, ond ym mwyafrif Prydain mae'r wiwer lwyd o Ogledd America wedi gyrru'r wiwer goch i ffwrdd. Mae gwiwerod i'w cael ym mhob cyfandir heblaw am Awstralia.
Cenhinen Bedr
golyguMae'r cenhinen Bedr yn blanhigyn lluosflwydd o'r genws Narcissus. Blodau mawr melyn sydd gan y rhan fwyaf o'r planhigion. Tyfant o fylbiau er mwyn blodeuo yn y gwanwyn cynnar. Y genhinen Bedr yw blodyn cenedlaethol Cymru.
Iago VI/I
golyguIago VI/I (19 Mehefin 1566 - 27 Mawrth 1625) oedd brenin yr Alban (Iago VI) ers 24 Gorffennaf 1567, a brenin Lloegr (Iago I) ers 24 Mawrth 1603. Iago oedd mab Mair I o'r Alban a'r Arglwydd Darnley. Ei wraig oedd Anne o Ddenmarc.