Wicipedia:Sut i ddefnyddio QRpedia

QRpedia golygu

Côd QRpedia wedi'i argraffu ac sy'n dolennu i erthygl Gymraeg ar Pedia Trefynwy.

Beth ydy QRpedia? golygu

Datblygwyd system o godau QRpedia gan Roger Bamkin a Terrance Eden ac fe'i lansiwyd ar 9 Ebrill 2011[1] yn Amgueddfa a Galeri Derby, ac fe'i datblygwyd ymhellach yn y prosiect Pedia Trefynwy. Mae QRpedia wedi'i sylfaenu ar y côd QR cyffredin ond sy'n dolennu ag erthyglau'r Wicipedia Cymraeg ac ieithoedd eraill. Mae argraffiad QRpedia, o ran golwg, yn debyg iawn i'r codau bar a welir ar nwyddau masnachol. Gellir darllen y sgwâr gyda ffôn - drwy ei sganio â chamera'r ffôn - ac mae hyn yn agor tudalen neu erthygl Wicpedia yn uniongyrchol. Mae hyn yn hynod o ddefnyddiol gan na ellir rhoi swmp enfawr o wybodaeth ar y rhan fwyaf o arwyddion, ac mae'r dudalen yn agor yn awtomatig yn iaith y defnyddiwr. Arbrofwyd â'r system hon o agor erthyglau'n gyntaf yn Nhrefynwy, ond gwelir codau QRpedia, bellach drwy'r byd.

Sut mae eu defnyddio nhw? golygu

1. Logiwch i'r rhwydwaith ddi-wifr agosaf os nad oes gennych gysylltiad gwe uniongyrchol ar eich ffôn.

2. Trowch i'r adran honno sydd ar eich ffôn (neu dabled megis ipad) ble rydych yn chwilio am app e.e. Marketplace ar Android neu App Store ar yr iPhone).

3. Chwiliwch am un o'r darllenwyr codau QR a lawrlwythwch hwnnw.

4. Agorwch y cymhwysiad a phwyntiwch eich camera at logo du a gwyn QRpedia. Mi wneith sganio'r côd yn otomatig ac agor yr erthygl briodol yn iaith eich camera. Os yw hwnnw'n Saesneg gallwch nail ai ei newid i'r Gymraeg neu fynd i erthygl megis "Wales" a dewis yr erthygl gyfatebol "Gymraeg".

Y codau QRpedia o gwmpas Trefynwy golygu

Ceir dros 1,000 ohonynt ledled y dref:

  • Placiau mawr seramig mewn llefydd sydd yn y glaw a'r gwynt e.e. adeiladau cofrestredig.
  • Placiau bychain plastig ar arwyddbyst, sy'n cynnwys dolen i fapiau, llwybrau a gwybodaeth arall.
  • Labeli ar gyfer y tu fewn i adeiladau e.e. gwrthrychau mewn amgueddfeydd.
  • Sticeri bychan mewn ffenest siop sy'n rhoi gwybodaeth am broffesiwn a gwaith y busnes.
  • Posteri, hysbysfyrddau ac arwyddion o gwmpas y dre sy'n rhoi cyfarwyddiadau a gwybodaeth.

Mae nifer o'r codau wedi cael eu gorchuddio gan sticeri efo codau answyddogol sy'n dolenni at amrwy wefannau diddorol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Various. "Wikipedia:GLAM/Derby/QR code experiment". Wikipedia. Cyrchwyd 25 Awstt 2011. Check date values in: |accessdate= (help)