Wicipedia:WiciBrosiect Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dyma dudalen WiciBrosiect Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Dyma fan i gydlynu'r gwaith o wella'r swmp o erthyglau am Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Nod
golyguNod y WikiBrosiect ydy darparu ystod llawn o erthyglau cynhwysfawr yn ymwneud â phynciau sy'n gysylltiedig gyda'r Eisteddfod Genedlaethol, drwy greu, ehangu a chynnal erthyglau am ddigwyddiadau, pobl, lleoliadau a gwrthrychau perthnasol.
Canllawiau
golyguAr gyfer gweld beth yw'r ymarfer da ar gyfer creu a golygu erthyglau, ewch at Wicipedia:Arddull.
Cwmpas y prosiect
golyguUnrhyw erthyglau o fewn Categori:Eisteddfod Genedlaethol Cymru, hefyd rhai erthyglau o fewn Categori:Cymry,Categori:Diwylliant Cymru a Categori:Cymunedau Cymru.
Tasgau
golyguDyma restr o dasgau i'w cwblhau. Gellir trafod pob tasg mewn manylder ar y dudalen sgwrs. Rhowch {{Cwblhawyd}} wrth bob tasg wedi iddynt gael eu cwblhau.
- Creu erthygl unigol ar gyfer pob eisteddfod. Cwblhawyd
- Ychwanegu a llenwi gwybodlen at bob erthygl am eisteddfod unigol.
- Creu erthygl am bob prif gystadleuaeth.
- Diweddaru rhestr enillwyr pob prif gystadleuaeth yn flynyddol. (gwefan y steddfod}
- Creu erthygl am bob pabell/pafiliwn (e.e. hanes y Pafilwn ei hun, Y Lle Celf, Y Babell Lên, a'r Babell Roc)
- Creu llinell amser yn nodi cerrig milltir a digwyddiadau arwyddocaol.
- Erthygl ar gyfer pob nofel sy'n ennill Gwobr Goffa Daniel Owen.
- Categoreiddio aelodau o Orsedd y Beirdd (fel ar y wiki Saesneg)
Delweddau a ffeiliau sain
golyguMae prinder mawr o ddelweddau rhydd o'r Eisteddfod yma ac ar y Comin. Efallai bod rhai lluniau wedi eu huwchlwytho yma, ond heb eu categoreiddio'n gywir (e.e. hwn). Mae modd uwchlwytho rhai lluniau perthnasol o Flickr. Os gwyddoch am unrhyw rai sydd a lluniau neu ffeiliau sain, gofynnwch os cewch eu huwchlwytho. Dyma enghreifftiau a bethau sydd ar goll:
- Y Goron
- Y Gadair
- Pafiliynau
- Cloriau rhaglenni'r dydd/ Cyfansoddiadau
ffynonellau posib
golygu- Mae llwyth o ddelweddau heb gyfyngiadau hawlfraint ar ffrwd Flickr y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys nifer o eisteddfodau. Dwi'n bwriadu uwchlwytho nifer ohonynt i Gomin. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 02:56, 28 Hydref 2012 (UTC)
- Mae sawl delwedd hefyd i gael ar geograph.org.uk o rhoi 'Eisteddfod' yn y blwch chilio.
- Gwnaed cais i'r Eisteddfod ei hun am ddelweddau rhydd, ond mae peth anhawster wedi bod hyd yma (gweler y dudalen sgwrs)
Cyfeiriadau
golygu- Rhaglenni
- Cyfansoddiadau (llyfr sy'n cael ei gyhoeddi wedi pob gŵyl yn rhestru'r enillwyr ac yn cyhoeddi rhai darnau buddugol)
- Gwefan yr Eisteddfod
- Mae BBC Cymru yn cynnal gwefannau cynhwysfawr ar gyfer pob Eisteddfod (e.e. 2001 2002, 2003, 2004, 2005,2006, 2007, 2008, 2009 2010 2011 a 2012)
- Golwg360, WalesOnline a'r Daily Post
- Canrif o Brifwyl ar wefan y BBC
Aelodau'r prosiect
golyguDyma restr o gyfranwyr ar y prosiect. Mae croeso i chi ychwanegu eich henw at y rhestr.
- --Ben Bore (sgwrs) 13:18, 15 Hydref 2012 (UTC)
- —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 02:53, 28 Hydref 2012 (UTC) Bwriadaf uwchlwytho delweddau o eisteddfodau i Gomin o ffrwd Flickr y Llyfrgell Genedlaethol, a'u hychwanegu at erthyglau perthnasol. Gweler fy nghyfrif ar Gomin.