Wicipedia:Wici Addysg/Coleg Cymraeg Cenedlaethol/Adroddiad misol 2
Hafan | Trafod | Digwyddiadau ac Adroddiadau | Wici Addysg | Wici GLAM | Wici Cymru |
Adroddiad misol 2golygu
Rhyddhau cynnwysgolyguCyflwynwyd adroddiad ar osod trwydded CC BY–SA ar adnoddau ar Y Porth sydd wedi’u hadnabod fel rhai addas i’w hail-drwyddedu a’u trosglwyddo i brosiectau Wikimedia i gyfarfod Bwrdd Academaidd y Coleg ar 7 Mai, ac fe’i dderbyniwyd. Ar ôl cyfnod pellach o adborth rwyf yn awr yn medru cysylltu â rheolwyr unigol y prosiectau a fu’n gyfrifol am greu’r cynnwys. Anelaf i wneud y trosglwyddo/uwchlwythiadau cyntaf ar ddechrau mis Mehefin. Trefnu digwyddiadaugolyguBwriedir trefnu’r digwyddiad cyntaf yng Nghaerfyrddin (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant) neu yn Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth Prifysgol Abertawe yn gynnar ym mis Mehefin. Bydd hyn yn gyfle i arbrofi gyda natur y sesiwn ac yn sail ar gyfer darparu sesiynau tebyg yn y prifysgolion hynny lle mae’r nifer fwyaf o fyfyrwyr ac academyddion cyfrwng Cymraeg, sef Aberystwyth, Bangor ac, i raddau llai, Caerdydd. Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu hysbysebu ar y Wicipedia Cymraeg (ar y dudalen flaen, ar restrau gwylio os yn bosibl ac ar dudalen y prosiect), ar flog Cymraeg Wikimedia UK a gan swyddogion cangen y Coleg yn y prifysgolion dan sylw. Byddent yn ymddangos ar restr digwyddiadau Saesneg WMUK ond ni fyddent yn cael eu hysbysebu ar y Wicipedia Saesneg. Dyma fy syniadau presennol ar gyfer digwyddiadau, yn eu trefn cronolegol tebygol:
Sylw yn y wasg ac ar-leingolygu
|