Wicipedia:Wici Addysg/Coleg Cymraeg Cenedlaethol/Adroddiad misol 4
Hafan | Trafod | Digwyddiadau ac Adroddiadau | Wici Addysg | Wici GLAM | Wici Cymru |
Adroddiad misol 4golygu
Rhyddhau cynnwysgolyguYn y mis hwn cafwyd ganiatâd gan reolwr prosiect Yn y Ffrâm, yr adnodd am ffilm a theledu Cymraeg a Chymreig, i osod y drwydded CC BY ar gynnwys ffeithiol yr adnodd. Bydd 23 erthygl newydd felly yn cael eu hychwanegu at Wicipedia yn yr wythnosau nesaf a 36 arall yn cael eu helaethu yn defnyddio gwybodaeth o’r adnodd. Bydd lawnsiad meddal o Yn y Ffrâm ar ei newydd wedd ym mis Awst, ac i’r wefan honno y bydd darllenwyr yr erthyglau Wicipedia yn cael eu cyfeirio gan nodyn tebyg i {{WiciYPorth}}. Mae rheolwr prosiect Yr Archif Ddrama Radio (gwybodaeth ar 3 drama a 3 dramodydd) wedi cytuno i’r adnoddhynny gael ei osod ar Wici y Porth ond nid yw wedi cytuno i drwydded a fydd yn caniatáu ei ddefnydd ar Wicipedia hyd yn hyn. Ni chafwyd ganiatâd i roi Y Sgrîn Fach Gymraeg (9 erthygl) ar Wici y Porth ar ôl iddo ddod yn hysbys ei fod yn seiliedig yn bennaf ar ymchwil ddoethurol na’i ariannwyd gan y Coleg. Yr unig adnodd nad wyf wedi cael cyfle i gyflwyno’r ddadl ar gyfer trwydded CC ar ei gyfer yw’r Esboniadur Daearyddiaeth (29 erthygl); ond byddaf yn medru gwneud hynny yng nghyfarfod bwrdd y prosiect ar 31 Gorffennaf. DigwyddiadaugolyguAr 1 Gorffennaf siaradais mewn weminar â 23 o bobl mewn digwyddiad JISC Summer Bytes ar y pwnc ‘How to use Wikipedia for teaching and learning’. Gweler y cyflwyniad, nodiadau a recordiad o’r weminar yma. (Saesneg yn unig.) Cynhaliais fy ngweithdy gyntaf ar 9 Gorffennaf ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Gweithdy dwy awr oedd hwn er mwyn cyflwyno hyfforddi staff academaidd y brifysgol mewn sgiliau wici. Crëwyd pum cyfri newydd ar Wicipedia a bydd gweithgarwch y rhain yn cael eu monitro. |