Wicipedia:Wicibrosiect/Wici Eco'r Wyddfa

Rhifyn Chwefror 2023

Dyma brosiect newydd i ddigidol lluniau ac ychwanegu erthyglau ar bethau nodedig yn nhalgylch y papur bro Eco'r Wyddfa. Ceir sawl elfen i'r gwaith:

  1. Digideiddio miloedd o luniau a dynnwyd ers Chwefror 1976
  2. Uwchlwytho'r lluniau i Comin ac ychwanegu'r lluniau i Wicipedia
  3. Copio a phastio erthyglau am bethau a phobol nodedig, i wella'r wybodaeth am ardal Eco'r Wyddfa.
  4. Ychwanegu Categori (Categori:Wici Eco'r Wyddfa) ar waelod yr erthyglau er mwyn dod a nhw at ei gilydd yn daclus.

Golygu Cod y Dudalen

golygu

os ydych yn dymuno cymorth ar sut i olygu, gallwch ymweld â: Cymorth:Canllaw Pum Munud, Wicipedia:Sut i olygu tudalen neu beth am edrych ar rai o'r fideos 5-munud ar Wicipedia:Tiwtorial?

Aelodau

golygu

Er mwyn cadw cysylltiad a'n gilydd, ychwanegwch eich Enw Defnyddiwr yma, os gwelwch yn dda, drwy roi 4 tilde (neu sgwigl) un ar ol y llall h.y. ~~~~

Awgrym o eiriad i'w roi ar y wefan a'r papur:

golygu

Drwy ddanfon eich gwaith a'ch lluniau atom i'w cyhoeddi, rydych yn caniatau i ni eu trwyddedu ar drwydded agored Comin Creu (Creative Commons) CC-BY-SA-4. Fel hyn, caiff llwyfanau eraill ddefnyddio'r cynnwys, a bydd yn cyrraedd rhagor o bobl.