Wicipedia:Wicibrosiect WiciNatur

WiciNatur
Prosiect ar y cyd gyda Llên Natur
Pwrpas y prosiect yw gwella'r hyn sydd ar gael ar rywogaethau, yn y Gymraeg, ar Wicipedia ac ar wefan Llên Natur.


Digwyddiadau golygu

Cynhaliwyd Gweithdy ym Mhlas Tan y Bwlch ar 6 Mai 2017 (manylion isod). Mae'r gwaith sydd o'n blaenau'n aruthrol! Fe'i nodir isod. Ers y gynhadledd mae nifer o olygyddion newydd wedi bod wrthi'n golygu erthyglau'r Wicipedia Cymraeg.

Tasgau golygu

Sylwer: Awgrymwn mai'r flaenoriaeth yw adar ynysoedd Prydain, ond gallwch ddilyn eich arbenigedd, wrth gwrs!

Mae'r Canllaw Pum Munud i'w ganfod yn y fan yma.

Mae Wicipedia:Arddull yn rhoi arddull arferol y Wicipedia Cymraeg.

Erthyglau da y gellir eu defnyddio fel modelau
  1. Mae Rhedwr Awstralia - adar nad ynt yng ngwledydd Prydain.
  2. Mae Mwyalchen y mynydd - adar gwledydd Prydain.
  3. Môr-hesgen
Ymaelodi!

Cyn gwneud dim arall, trowch i'ch Dalen Defnyddiwr (cliciwch ar eich enw ar frig eithaf unrhyw ddalen) ac ychwanegwch y cod hwn: {{Blwch Wici Natur}}. Cyhoeddwch / Cadwch / Safiwch y ddalen. Dylai'r blwch yma ymddangos:

  Mae'r defnyddiwr hwn aelod o
Wici Natur.

1. Ychwanegu lluniau o Comin golygu

Bydd pob llun y byddwch yn ei bysgota o Comin i Wicidata yn ymddangos yn y Bywiadur!!!

2. Ychwanegu lluniau o wefan Llên Natur ar erthyglau Wicipedia golygu

  • Uwchlwytho ffotograffau o Gymru yng nghorff yr erthygl, er mwyn rhoi stamp Cymreig ar yr erthyglau. Uwchlwythwch y lluniau o Oriel Llên Natur i'r Wicipedia Cymraeg (ac os ydyn nhw'n fwy na hanner meg (500kb, yna Comin!)

3. Teuluoedd o adar golygu

Gweithgaredd 1
  • Copio tudalennau wedi'u creu'n barod gan Davith Fear. Mae Rhedwr Awstralia eisioes wedi'i wneud. Dyna'r fformat i'w ddilyn! Ceir dalen hefyd yma i chi gopio a phastio testun i greu erthyglau.
Gweithgaredd 2

Patrwm ar gyfer erthyglau newydd:

Teulu o adar yw’r ___________ , sy’n air gwyddonol neu Ladin (_________ yn Saesneg). Maent yn perthyn i’r rhiant tacson _______________. Mae aelodau’r teulu hwn o adar i’w cael yn _______________. Fel arfer maent yn adar mawr/canolig eu maint/ bychain. __________ yw eu lliw fel arfer ac o ran edrychiad maent yn _____________ gyda phigau ____________ a choesau _____________. Mae eu diet fel arfer yn cynnwys ______________.

Cofiwch hefyd ychwanegu Categori ar ddiwedd eich llith! [[Categori:Teuluoedd o adar]]

4. Sain golygu

Ychwanegu llinell i ddod a ffeil sain o Comin. Awgrymwn mai'r flaenoriaeth i ni yw adar ynysoedd Prydain.

Gweithgaredd 1
  • Agorwch y rhestr hon:
Sain adar sydd ar gael ar Comin Dyma restr o ffeiliau sain sydd ar Comin sydd wedi'u cysylltu gydag erthygl Gymraeg. Does dim llawer - tua 160! Mae angen cynaeafu ychwaneg!

Copiwch yr enw Cymraeg i ffenest chwilio'r Wicipedia Cymraeg er mwyn canfod yr deryn. Yna, cliciwch ar 'Gweld cod y dudalen' er mwyn ei golygu.

Os yw'r geiriau canlynol yn y Wybodlen, ewch ymlaen i'r nesaf:

| delwedd2 ={{#invoke:Wikidata|getValue|P51|{{{sain|FETCH_WIKIDATA}}}}}

Mae'r linell hon o god yn bachu'r clip yn otomatig! Os nad yw'r linell yn y wybodlen, yna gludwch y linell gyfan, fel y mae - o dan y linell delwedd =.

Gweithgaredd 2

Mae na doreth o glipiau sain ar Comin yn fama. Copiwch y rhai sy'n berthnasol i Gymru ar ddalen Wicidata ee dyma ddalen Wicidata ar 'Gwennol lifadeiniog y mynydd. Copiwch deitl y clip ar Comin a gludwch ef yn y dudalen. Bydd angen creu nodwedd newydd (Delwedd) wrth gwrs. O wneud hyn, mi wneith y clip sain ymddangos yn otomatig yn yr erthygl ar Wicipedia ac yn y Bywiadur!

5. Testun golygu

Erthyglau da a ellir eu defnyddio fel modelau
  1. Mae Rhedwr Awstralia - adar nad ynt yng ngwledydd Prydain.
  2. Mae Mwyalchen y mynydd - adar gwledydd Prydain.
Gweithgaredd 1

Codio testun gan Twm Elias a'i roi ar erthyglau Wicipedia.

Gweithgaredd 2
  • Canfod testun o lyfrau i'w rhoi ar Wicipedia. Cofiwch nodi'r ffynhonnell! Defnyddiwch: <ref>Rhowch enw'r llyfr, cyhoeddwr, dyddiad ayb yma.</ref>


 

Atodiod: MEWNGOFNODI I WICIPEDIA golygu

I ffindio'r Wicipedia Cymraeg, rhowch y gair 'Wicipedia' yn eich porwr (e.e. Google). Os nad ydych wedi creu cyfri, yna mae'r botwm 'Creu cyfri' ar frig dde'r ddalen: os ydych eisioes wedi creu cyfri, yna 'Mewngofnodi' fydd ei angen. Am y ddau neu dri tro cyntaf, cewch CAPTCHA (sy'n hen niwsans!) ond wedi hynny, mae eich cyfrifiadur yn cofio eich cyfrinair, hyd yn oed ar brosiectau eraill wici e.e. Comin, Wicirhywogaeth neu Wicidata. Os nad ydych yn creu cyfri, yna mi fydd y byd a'r betws yn gweld eich cyfeiriad IP!

Un o'r pethau cyntaf ddylech wneud wedi i chi fewngofnodi ydy newid iaith y rhyngwyneb. I wneud hynny, chwiliwch am 'Dewisiadau' (neu 'Preferences') a dewisiwch 'Cymraeg'. Hawdd fel baw!

Un o'r ffyrdd gorau o sicrhau cywirdeb erthyglau Wicipedia ydy i bob Defnyddiwr (neu olygydd) gadw llygad ar ddalenau y pynciau hynny sydd o ddiddordeb. Ar 'Dewisiadau' fe welwch hefyd fod modd i chi gael rhybudd pob tro y bydd rhywun yn golygu'r dalennau sydd yn eich 'Rhestr Wylio'. Ewch i waelod y 'Dewisiadau' a thiciwch y tri blwch. Rwan ta, ewch i erthygl Wicipedia y carech ei gwella / cadw llygad arni a chliciwch ar y seren (mae hon bron ar frig pob erthygl. O'i dewis, mi wnaiff ymddangos yn eich ffefrynnau / Rhestr Wylio'.

Felly, dyna ni wedi gwneud dau beth sy'n hanfodol ar gyfer golygu yn y Gymraeg: mewngofnodi a chadw llygad ar rai erthyglau! Cofiwch wneud hyn cyn y Gweithdy; mi fydd yn amhosib i chi greu cyfri ar y diwrnod gan fod y system yn cloi wedi i bump greu cyfrif! Os cewch drafferth... dyfal donc... a thriwch eto! Os aiff hi'n ben-set yna ebostiwch y Wicipedwyr profiadol ar wicipediacymraeg@gmail.com.

CEWCH GYRCHU POB DIM YNGLYN Â'R GWEITHDY TRWY CHWILIO AR WEFAN WICIPEDIA (efo C) AM WN (WiciNatur) MEWN UNRHYW FLWCH CHWILIO.

MYNYCHWYR DIWRNOD WICINATUR golygu

  1. Wyn Bowen-Harris, Bethesda
  2. Duncan Brown, Waunfawr
  3. Cathryn Charnell-White
  4. Daria Cybulska, Rhuthun
  5. Ann Corkett, Bangor
  6. Anita Daimond, Bethesda
  7. Twm Elias, Nebo, Penygroes
  8. Marian Elias, Clynnog Fawr
  9. Jason Evans, Aberystwyth
  10. Davyth Fear, Llanrug
  11. Bruce Griffiths, Bangor
  12. Gareth Griffiths, Caernarfon
  13. Andrew Hawke, Aberystwyth
  14. Ffion Hughes, Rhuthun
  15. Gareth Heulfryn, Llanwnda
  16. Nia Jones, Bangor
  17. Gareth Jones , Pwllheli
  18. Dewi Bryn Jones, Bangor
  19. Menai Jones
  20. Rhys Jones, Waunfawr
  21. Dominig Kervegant, Tregarth
  22. John Lubbock, Llundain
  23. Rheinallt Llwyd, Aberystwyth
  24. Hywel Madog, Porthmadog
  25. Rhys Madog, Llanfrothen
  26. Luned Meredith , Llanuwchllyn
  27. Haf Meredydd, Llanfair
  28. Gareth Morlais, Caerdydd
  29. Aaron Morris, Ynys Mon
  30. Nerys Mullally, Bangor
  31. Robin Owain, Rhuthun
  32. Lari Parc, Y Fron, Carmel
  33. Tudur Pritchard, Waunfawr
  34. Delyth Prys Jones, Bangor
  35. Ross Prys Jones
  36. Gareth Roberts , Deiniolen
  37. Iwan Roberts, Rhuthun
  38. Einir Thomas, Niwbwrch
  39. Rwth Tomos, Tywyn
  40. Pryderi Thomas, Niwbwrch
  41. Math Williams, Y Bontnewydd
  42. Howard Williams, Aberteifi
  43. Ifor Williams, Llanfaglan
  44. Gwyn Williams, Rhuthun
  45. Paul Williams, Blaenau Ffestiniog

Dolennau allanol perthnasol golygu