Rhedwr Awstralia

rhywogaeth o adar
Rhedwr Awstralia
Burhinus magnirostris

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Burhinidae
Genws: Burhinus[*]
Rhywogaeth: Burhinus grallarius
Enw deuenwol
Burhinus grallarius
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhedwr Awstralia (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: Rhedwyr Awstralia) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Burhinus magnirostris; yr enw Saesneg arno yw bush stone-curlew neu bush thick-knee. Mae'n perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Roedd yn arfer cael ei adnabod fel Burhinus magnirostris. Adnabyddir tri is-rywogaeth.[2]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn B. magnirostris, sef enw'r rhywogaeth.[3]

Disgrifiad

golygu

Un o'r aelodau mwyaf o'r teulu yw hwn, gan dyfu hyd at 58 cm.[4] Mae'n llwydfrown uwchben gyda rhesi tywyll ac mae'n wyn neu felynllwyd islaw. Mae'r pig cwta yn ddu, y dalcen yn wen, ac mae ganddo aeliau gwyn gyda streipen ddu o'r llygad lawr y gwddf. Mae'r llygaid yn fawr ac yn felyn, ac mae'r coesau yn hir a llwydaidd. Mae ei gri yn gyfrifol am un o'i enwau Awstralianaidd, sef weeloo. Mae'n chwibaniad uchel annaearol, nid yn annhebyg i'r gylfinir ond yn hirach a mwy amrywiol.[5] Fel arfer mae rhedwyr Awstralia yn canu gyda'r nos.

Ymddygiad

golygu

Fel arfer maent yn byw ar eu pennau eu hunain neu mewn parau. Maent yn swil a gwyliadwrus. Eu cynefin yw coetir agored gyda changhennau ar y llawr, deilbridd ac ychydig wair. Fe'i ceir hefyd mewn prysgoed ger traethau ac yn fwy diweddar ar gyrsiau golff, perllannau a phlanhigfeydd.[4] Maent yn fwy actif gyda'r nos. Yn ystod y dydd maent yn cysgodi gan ddibynnu ar eu cuddliw fel amddiffyniad. Maent yn arbenigo mewn hela anifeiliaid bychain y glaswelltir, megis llyffantod, pryfaid cop, pryfaid, molwsgiaid a chramenogion.

Bridio

golygu

Mae'r fenyw yn dodwy dau wy fel arfer, sy'n lliw carreg gyda mannau brown a llwyd. Mae hyn yn digwydd yn ystod y gwanwyn fel arfer, ond yn gynt yn y gogledd na'r de.[6] Mae ganddynt ddawns caru nodedig. Byddai'r rhedwr yn sefyll gydag adenydd yn agored, cynffon i fyny a gwddf wedi'i ymestyn. Yna byddai'r adar yn martsio eu traed fel milwr yn marcio amser am awr neu fwy. Crafiad syml yn y tir yw'r nyth. Mae'r ddau riant yn rhannu'r gwaith o edrych ar ôl y nyth a chywion.[7]

Dosbarthiad

golygu

Fe'i ceir ledled Awstralia heblaw am Tasmania, ble mae'n fudwr achlysuol.

Statws

golygu

Yn y de mae'r niferoedd wedi gostwng yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, yn bennaf oherwydd ysglyfaethu gan lwynogod, ond oherwydd ei ddosbarthiad eang a phoblogaethau sefydlog yn y gogledd fe'i ddynodwyd o 'gonsyrn lleiaf' gan yr IUCN (yn 2017).[8]

Mae'r rhedwr Awstralia yn perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Rhedwr Awstralia Burhinus grallarius
 
Rhedwr Senegal Burhinus senegalensis
 
Rhedwr brych Burhinus capensis
 
Rhedwr mawr y moelydd Esacus recurvirostris
 
Rhedwr rhesog Burhinus bistriatus
 
Rhedwr y dŵr Burhinus vermiculatus
 
Rhedwr y moelydd Burhinus oedicnemus
 
Rhedwr y traeth Esacus magnirostris
 
Rhedwr yr Andes Burhinus superciliaris
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Howard a Moore, A Complete Checklist of the Birds of the World (2nd ed.) 1994
  3. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  4. 4.0 4.1 A Field Guide to the Birds of Australia gan G Pizzey
  5. Gwefan You Tube; adalwyd 18 Ebrill 2017.
  6. Gwefan hbw.com; adalwyd 18 Ebrill 2017.
  7. Gwefan birdsinbackyards.net; Archifwyd 2017-05-10 yn y Peiriant Wayback adalwyd 18 Ebrill 2017.
  8. iucnredlist.org; adalwyd 18 Ebrill 2017.
  Safonwyd yr enw Rhedwr Awstralia gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.