Wilfred Wooller

cricedwr a chwaraewr rygbi

Cricedwr a chwaraewr rygbi, gweinyddwr a newyddiadurwr oedd Wilfred Wooller, mwy adnabyddus fel Wilf Wooler (20 Tachwedd 191210 Mawrth 1997).

Wilfred Wooller
Ganwyd20 Tachwedd 1912 Edit this on Wikidata
Llandrillo-yn-Rhos Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mawrth 1997 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcricedwr, chwaraewr rygbi'r undeb, pêl-droediwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Tref Y Barri, Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Sale Sharks, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Marylebone Cricket Club, Clwb Criced Morgannwg, Cambridge University Cricket Club, Denbighshire County Cricket Club Edit this on Wikidata
SafleCanolwr Edit this on Wikidata

Ganed Wilf Wooller yn Llandrillo-yn-Rhos ger Bae Colwyn. Addysgwyd ef yn Ysgol Rydal a Phrifysgol Caergrawnt. Roedd gyda'r mwyaf amryddawn a gynhyrchodd Cymru erioed ym myd chwaraeon. Bu'n gapten Clwb Criced Morgannwg am 14 mlynedd, gan eu harwain i fuddugoliaeth ym mhencampwriaeth y siroedd yn 1948. Yn ddiweddarach bu'n ysgrifennydd iddynt am 30 mlynedd.

Roedd yn chwaraewr rygbi'r undeb dawnus hefyd, gan chwarae dros Brifysgol Caergrawnt yn 1935 a 1936, a mynd ymlaen i ennill 18 o gapiau dros Gymru. Roedd yn rhan o dîm Cymru a enillodd fuddugoliaeth enwog dros y Crysau Duon yn 1935. Chwaraeodd beldroed i Gaerdydd hefyd.