Ysgol breswyl gyd-addysgol breifat ym Mae Colwyn, Sir Conwy yw Rydal Penrhos. Fe'i lleolir ar sawl safel o gwmpas Bae Colwyn a cheir safle yn Llandrillo-yn-Rhos hefyd lle cedwir deunydd chwaraeon dŵr. Mae'n ysgol ffydd Fethodist.

Rydal Penrhos
Arwyddair Veritas Scientia Fides
Ystyr yr arwyddair Gwir, Gwybodaeth, Ffydd
Sefydlwyd 1885
Math Preswyl, Preifat
Cyfrwng iaith Saesneg
Crefydd Methodistiaeth
Pennaeth Patrick Lee-Browne
Lleoliad Bae Colwyn, Sir Conwy, Cymru
Disgyblion 411
Rhyw Cyd-addysgol
Lliwiau Du ac amber
Gwefan http://www.rydal-penrhos.com/

Dechreuodd Rydal Penrhos fel tri sefydliad ar wahân, sef:

  • Rydal (yn cynnwys Rydal Preparatory School), ar brif safle Rydal Penrhos heddiw; ysgol i fechgyn ar y dechrau ond aeth yn ysgol gyd-addysgol yn y 1980au.
  • Coleg Penrhos (Penrhos College), ysgol breswyl i ferched ger Llandrillo.
  • Ysgol Lyndon (Lyndon School) ysgol baratoi breifat ym Mae Colwyn.

Mae cyfran sylweddol o'r disgyblion preswyl yn dod o wledydd tramor.

Cyn-ddisgyblion golygu

Dolenni allanol golygu