Arwr cenedlaethol o'r Swistir oedd Wilhelm Tell, weithiau Gwilym Tell yn Gymraeg. Nid oes prawf ei fod yn gymeriad hanesyddol.

Cerflun Wilhelm Tell-Denkmal yn Altdorf

Yn 1570, casglodd Aegidius Tschudi ddeunydd oedd wedi ei drosglwyddo ar lafar ac mewn ysgrifen am Tell. Rywbryd tua diwedd y 13g neu ddechrau'r 14g, yn ôl y stori, pan oedd yr ardal sy'n awr yn ganolbarth y Swistir dan reolaeth yr Habsburg o Awstria, roedd gŵr o'r enw Hermann Gessler yn rheoli'r ardal fel Landvogt. Dywedir i Gessler osod ei het ar bolyn yn nhref Altdorf, yn awr yng nghanton Uri, a gorchymyn fod i unrhyw un a âi hebio gyfarch yr het. Gwrthododd Wilhelm Tell gyfarch yr het, a chymerwyd ef i'r ddalfa. Gan fod Tell yn enwog am ei allu i saethu gyda'r bwa croes, gwnaeth Gessler iddo saethu afal oddi ar ben ei fab, Walter Tell. Cymerodd Tell ddwy saeth, a llwyddodd i saethu'r afal oddi ar ben ei fab gyda'r saeth gyntaf. Holodd Gessler ef pam yr oedd wedi cymryd dwy saeth, ac atebodd Tell pe bai'r saeth gyntaf wedi lladd ei fab, y byddai wedi lladd Gessler ei hun gyda'r ail.

Cymerwyd Tell yn garcharor, ond wrth iddo gael ei gludo mewn cwch ar y Vierwaldstättersee, cododd storm, a bu raid gollwng Tell yn rhydd i lywio'r cwch. Wedi llywio'r cwch at y lan, llwyddodd i ddianc. Yn fuan wedyn, llwyddodd i saethu Gessler gyda'i fwa croes. Dywedir i Tell ymladd ym Mrwydr Morgarten yn 1315, ac iddo foddi yn 1354 wrth geisio achub plentyn.

Ysgrifennodd y dramodydd Almaenig Friedrich Schiller ei ddrama enwog Wilhelm Tell yn 1804, ac yn 1829 cyhoeddwyd opera Rossini Guillaume Tell. Bu nifer o ffilmiau arno hefyd; ar hyn o bryd mae ffilm The Adventures of William Tell yn cael ei pharatoi; bydd y perfformiad cyntaf yn 2010.