William Abraham (Mabon)
Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac Aelod Seneddol y Rhondda oedd William Abraham (Mabon) (14 Mehefin 1842 - 14 Mai 1922). Bu'n bleidiol iawn i'r Gymraeg a defnyddiodd hi unwaith yn y Senedd, ond chwarddodd pawb ar ei ben; yna dywedodd wrthynt eu bod wedi chwerthin am ben Gweddi'r Arglwydd.[1] Ymladdodd i gael cytundeb i bennu cyflogau'r glowyr wedi'i sefydlu ar brisiau a phroffidiau'r diwydiant. Hyrwyddodd ddatblygiad undebaeth llafur yng Nghymru.
William Abraham | |
---|---|
Ganwyd | 14 Mehefin 1842 Cwmafan |
Bu farw | 14 Mai 1922 Pentre |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur, mwynwr |
Swydd | Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Llafur-Rhyddfrydol, y Blaid Lafur |
- Gweler hefyd Mabon.
Bywyd cynnar
golyguGaned ef yng Nghwmafan, yn 4ydd mab i Thomas a Mary Abraham. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Cwmafan, gan adael yn ddeg oed, ac yna bu'n gweithio mewn gwaith alcam ac fel glowr. Yn y 1860au bu am gyfnod yn Tsile yn gweithio yn y gweithfeydd copr yno. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, yn 1870, etholwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr a bu'n llywydd y glowyr ar y Joint Sliding Scale Association o 1875 hyd 1903.
Diwrnod Mabon
golyguRhwng 1892 a 1898 byddai'r glowyr yn cael diwrnod o wyliau o'r gwaith ar y dydd Llun cyntaf o bob mis er mwyn cwtogi cynnyrch a sefydlogi cyflogau, a gelwid y diwrnod yma yn "Ddiwrnod Mabon."[2]
Yr Aelod Seneddol
golyguDaeth yn aelod seneddol dros y Rhondda yn 1885, a bu'n cynrychioli Gorllewin Rhondda o 1918 hyd 1922. Hyd at 1906 roedd yn aelod o grwp radical y Blaid Ryddfrydol, yna'n ddiweddarach yn aelod o'r Blaid Lafur pan ddaeth y blaid honno'n sefydliad annibynnol. Sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898, gyda Mabon yn llywydd. Pan oedd yn America gofynnwyd iddo beth oedd ystyr "MP" ar ôl ei enw; atebodd "Mae'r llythrennau'n golygu 1. Mabon Pentref 2. Methodist Preacher 3. Miner's President 4. Member of Parliament 5. Man of Power, more's the pity!"
Eisteddfodwr brwd
golyguRoedd hefyd yn gefnogwr brwd o'r Eisteddfod, a daeth ei enw barddol "Mabon" yn gysylltiedig a'i enw ac yn llysenw iddo. Daeth yn daeth enwog fel arweinydd effeithiol yn eisteddfodau diwedd y 19g a dechrau'r 20g. Roedd ganddo lais tenor clir, a chanai'n aml i'r cynulleidfaoedd.
Llyfryddiaeth
golygu- Davies, Picton, Atgofion Dyn Papur Newydd (Lerpwl, 1902)
- Evans, Eric Wyn, Mabon (William Abraham, 1842-1922): a study in trade union leadership (Caerdydd, 1959)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008).
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 14 Mehefin 2017.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Rondda 1885 – 1918 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Orllewin Rhondda 1918 – 1920 |
Olynydd: William John |